Carcharu dau lanc am achosi marwolaeth Olivia Alkir, 17

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Eluned Yaxley fod Olivia Alkir "wirioneddol yn arbennig"

Mae dau fachgen o Sir Ddinbych wedi eu carcharu am bum mlynedd yr un am achosi marwolaeth merch 17 oed trwy yrru'n beryglus.

Bu farw Olivia Alkir yn dilyn y digwyddiad ar y B5105 rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion ym mis Mehefin y llynedd.

Cafodd pedwar arall eu hanafu yn y gwrthdrawiad rhwng Ford Fiesta coch a Mercedes du yn ardal Efenechtyd.

Fe wnaeth Thomas Quick, 18 o Glawddnewydd, a bachgen 17 oed o Ddyffryn Clwyd - na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol - bledio'n euog yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Y ddau yn rasio

Roedd Olivia yn deithiwr yn y Fiesta, oedd yn cael ei yrru gan y bachgen 17 oed sydd wedi'i garcharu.

Dim ond newydd basio ei brawf gyrru oedd y bachgen, tra bod athrawon eisoes wedi mynegi pryder am y ffordd roedd Quick wedi bod yn gyrru ger yr ysgol.

Clywodd y llys bod y ddau ffrind yn rasio pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, gyda'r Fiesta yn taro car oedd yn dod i'r cyfeiriad arall.

Fe wnaeth y ddau lanc hefyd bledio'n euog i bedwar cyhuddiad o achosi niwed difrifol trwy yrru'n beryglus.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Olivia newydd gael ei phenodi'n ddirprwy brif ferch Ysgol Brynhyfryd pan fu farw

Roedd Olivia newydd gael ei phenodi'n ddirprwy brif ferch Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun pan fu farw ac fe gafodd ei disgrifio gan ei theulu fel merch "llawn hwyl, doeth ac uchelgeisiol".

Dywedodd mam Olivia, Jo, wrth y llys am effaith ddinistriol colli eu hunig blentyn arni hi a'i gŵr.

Disgrifiodd ei merch fel person "prydferth, caredig a hwyl".

"Ni allwn fyth adfer yr hyn sydd wedi'i gymryd gennym ni," meddai.

Cafwyd datganiadau gan y pedwar person gafodd eu hanafu yn y digwyddiad hefyd, wrth iddyn nhw ddisgrifio problemau iechyd parhaus a'r effaith ar eu hiechyd meddwl naw mis wedi'r gwrthdrawiad.

Ffynhonnell y llun, McGivern, Michael
Disgrifiad o’r llun,

Fe blediodd Thomas Quick, 18, yn euog i achosi marwolaeth Olivia trwy yrru'n beryglus

Fe wnaeth dwy ferch arall oedd yn deithwyr yn y Fiesta dorri esgyrn yn y gwrthdrawiad, a bu'n rhaid i un gael llawdriniaeth ar ôl dioddef anaf difrifol i'w choluddyn.

Yn y car oedd yn cael ei yrru i'r cyfeiriad arall oedd Dylan Jones a'i fam.

Fe wnaeth Mr Jones dreulio 54 diwrnod yn yr ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol i'w goes, tra bod ei fam wedi gorfod cael sawl llawdriniaeth ar ôl torri ei garddwrn ac asen.

'Bywydau pobl yn deilchion'

Dywedodd Eluned Yaxley o Bwllglas, ger Rhuthun - un o ffrindiau gorau Jo Alkir - bod y digwyddiad "yn dal mor fyw ag oedd o ar y pryd".

Roedd merch Ms Yaxley, Non, hefyd yn un o ffrindiau gorau Olivia.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Yaxley bod Olivia yn "golled enfawr i bawb yn Nyffryn Clwyd"

"O'dd Olivia yn ferch annwyl, addfwyn, caredig, peniog, hynaws, ac yn rhywun roedd hi'n fraint cael ei hadnabod - roedd hi wirioneddol yn arbennig," meddai Ms Yaxley.

"Mae'r golled ar ei hôl hi yn enfawr, nid yn unig i'w theulu ond i bawb yma yn Nyffryn Clwyd.

"Mae'r hunllef fwyaf i unrhyw riant fynd trwyddo fo, ac i ni fod yn ei 'nabod hi mor dda, ac i'n merch ni, Non, fod yn un o'i ffrindiau pennaf hi - o'dd o'n erchyll.

"I unrhyw un sy'n cysidro gwneud hynny [gyrru'n beryglus], plîs, meddyliwch yn ofnadwy o ofalus - peidiwch â'i wneud o. Dydy o ddim werth o.

"Mae bywyd rhywun yn gallu mynd mewn eiliad, ac mae'r ripple effect wedyn mor aruthrol mae'n gwneud bywydau pobl yn deilchion."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Huw Hilditch yn awyddus i weithio gyda'r llywodraeth i newid hawliau pobl ifanc pan maen nhw'n pasio eu prawf

Wrth ddedfrydu fe wnaeth y barnwr Niclas Parry alw am newid y gyfraith fel bod modd i'r rheiny sy'n pasio eu prawf gyrru gario un teithiwr yn unig am y flwyddyn gyntaf, a gosod terfyn cyflymder is ar eu ceir.

Mae Huw Hilditch, cynghorydd sir ardal Rhuthun sydd hefyd yn aelod cabinet dros bobl ifanc ar y cyngor, yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn newid hawliau pobl ifanc pan maen nhw'n pasio eu prawf.

"Mae angen gweithio efo'r llywodraeth i weld os oes 'na ryw fath o system allwn ni newid, fel bod plant sy'n pasio eu prawf yn gorfod disgwyl hyn a hyn o amser cyn cario rhywun yn eich car efo chi, neu ddim yn gallu mynd allan gyda'r nos neu ddim mynd dros 50mya," meddai.

"Mae 'na systemau yn Awstralia a llefydd eraill a dwi wir yn meddwl bod angen i ni edrych ar hyn, achos mae bywyd mor fyr, ac mae'n gallu bod mor beryglus i blant sy'n mynd allan yna ddim yn gwybod yn union be' maen nhw'n ei wneud.

"Dwi'n mawr obeithio, os oes 'na rywbeth da yn dod o'r ddamwain ddifrifol yma, bod pobl ifanc yr ardal yma yn meddwl am yr hyn maen nhw'n ei wneud ar y ffyrdd."