Gofyn am ostyngiad trethi i gartrefi Fairbourne
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd o Wynedd wedi awgrymu y dylai trigolion pentref sy'n wynebu dyfodol ansicr o achos perygl y bydd eu tai'n cael eu colli i'r môr dderbyn gostyngiad yn eu biliau trethi.
Gallai Cynllun Rheoli Traethlin Cyngor Gwynedd olygu na fyddai amddiffynfeydd llifogydd yn cael eu cynnal a'u cadw ger pentref Fairbourne mewn 40 mlynedd oherwydd bod lefel y môr yn codi.
Daeth y cais wrth i gyfarfod o'r cyngor llawn gytuno ar gynnydd o 3.9% mewn trethi cyngor ddydd Iau, fel rhan o gyllideb £261,837,750 yr awdurdod am 2020/21.
Dywedodd y Cynghorydd Louise Hughes wrth y cyfarfod: "Mae Fairbourne wedi dod i gael ei adnabod dros y byd fel pentref heb ddyfodol ond mae'n eironig o gofio am y llifogydd diweddar ar draws Gymru fod Fairbourne yn sych grimp.
"Ond mae effaith cynllun y cyngor yn golygu fod eiddo yn Fairbourne wedi colli bron i draean o'i gwerth ac mae'r cyngor cymuned yn flin a rhwystredig fod treth y cyngor yn parhau i gynyddu, er bod hyd oes y pentref yn gyfyngedig.
"Ar ran y pentrefwyr byddwn yn gwneud cais eu bod yn cael gostyngiad."
Prisiwr rhanbarthol
Mewn ymateb dywedodd y prif weithredwr, Dilwyn Williams: "Yr unig ffordd fyddech chi'n cael gostyngiad yn nhreth y cyngor yn Fairbourne ydy i'r prisiwr edrych eto ar y bandiau.
"Yr hyn allwn ei wneud ydy gofyn i'r prisiwr rhanbarthol, o gofio fod prisiau tai yn gostwng, edrych eto.
"Beth wnawn ni ar eu rhan yw cysylltu gyda'r prisiwr a gofyn iddyn nhw ddod draw i edrych ar y sefyllfa."
Ond nes y bydd hynny'n digwydd fe fydd eiddo Band D yn Fairbourne a rhannau eraill o Wynedd yn wynebu cynnydd o £54.09 y flwyddyn, wedi i'r cyngor gymeradwyo'r gyllideb o 55 pleidlais i 12.
Dywedodd deilydd y portffolio cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, fod yr awdurdod yn wynebu sialensiau o ran gwasanaethau rheng flaen, fel gwasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion, er bod y cyngor wedi derbyn setliad gwell na'r cyfartaledd o Fae Caerdydd.
Mae'r £8.9m ychwanegol y bydd y cyngor yn ei dderbyn yn y grant am 2020/21 - neu 4.6% o'i gymharu â'r cyfartaledd drwy weddill Cymru o 4.3% - yn cymryd chwyddiant i ystyriaeth.
Wynebu pwysau
Esboniodd y Cynghorydd Thomas nad oedd unrhyw arwydd fod y cyfnod o gynni ar ben, gan fod y cyngor yn wynebu pwysau o achos gorwariant ar blant mewn gofal a gwasanaethau cymdeithasol oedolion - fel sy'n wir am weddill Cymru, meddai.
Fe leisiodd rai o aelodau'r grwpiau eraill eu hanfodlonrwydd gyda'r cynnydd mewn trethi, ond fe ddywedodd y cynghorydd annibynnol, Eryl Jones Williams fod y rhai oedd yn pennu'r trethi wedi gwneud eu gorau o gofio am y pwysau sydd ar wasanaethau cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Sion Jones o'r grŵp Llafur y byddai'r cynnydd yn effeithio ar drigolion Gwynedd, sy'n cynnwys nifer o gymunedau difreintiedig ond hefyd rhai o'r biliau treth cyngor uchaf yng Nghymru.
Bydd eiddo Band D ar gyfartaledd yn wynebu bil treth cyngor o £1,430.31 o Ebrill, heb gynnwys taliadau ar gyfer y cynghorau cymuned a'r heddlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2014