Carcharu dynes am geisio helpu llofrudd i adael y wlad
- Cyhoeddwyd
Mae dynes wnaeth geisio helpu ei chariad i adael y wlad wedi iddo lofruddio llanc gyda dau ddyn arall wedi cael ei charcharu.
Bu farw Fahad Mohamed Nur, 18, wedi iddo gael ei drywanu dros 20 gwaith ger gorsaf reilffordd Cathays yng Nghaerdydd ym mis Mehefin y llynedd.
Cafodd Abdulgalil Aldobhani, 23, a dau arall eu carcharu am oes fis diwethaf wedi i reithgor eu cael yn euog o lofruddiaeth.
Fe gafodd ei bartner, Aseel Arar, 35 oed o Birmingham, ei dedfrydu i 27 wythnos o garchar ddydd Gwener wedi i reithgor ei chael yn euog mewn gwrandawiad blaenorol o roi cymorth i droseddwr.
Tocynnau un ffordd i Moroco
Clywodd y llys yn yr achos yn erbyn y tri dyn bod Abdulgalil Aldobhani, ei frawd Mustafa, 22, a Shafique Shaddad, 25, wedi erlid a lladd Mr Nur mewn ffrae dros gyffuriau.
Fe wnaeth Arar brynu tocynnau awyren un ffordd i Moroco iddi hi a'i chariad, ond fe gafodd y ddau eu harestio ym maes awyr Heathrow.
Yn siarad ar ôl y ddedfryd dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O'Shea o Heddlu De Cymru bod Arar yn gwybod bod ei chariad wedi cyflawni "trosedd ofnadwy" ond wedi parhau i'w helpu er gwaethaf hynny.
"Rwy'n gobeithio y bydd hyd y ddedfryd yn atal pobl eraill sy'n ystyried rhoi cymorth i'r rheiny sy'n troseddu gyda chyllyll," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2020