Carcharu tri am lofruddio dyn yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
mugshotsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith, Mustafa Aldobhani, Abdul Aldobhani a Shafique Shaddad

Mae tri dyn wedi eu carcharu am oes am lofruddio Fahad Nur mewn ymosodiad ger gorsaf drenau Cathays yng Nghaerdydd ym mis Mehefin y llynedd.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Caerdydd y bydd yn rhaid i Mustafa ac Abdul Aldobhani, a'u ffrind Shafique Shaddad, dreulio isafswm o 22 mlynedd a hanner, 24 mlynedd a 23 mlynedd dan glo cyn y byddant yn gymwys i gael eu hystyried am barôl.

Roedd Abdul Aldobhani, 23, wedi ei ryddhau ar drwydded o'r carchar pan laddodd Mr Nur.

Wrth ddedfrydu'r tri, dywedodd yr Anrhydeddus Mr Ustus Hilliard: "Mae'n amlwg fod Fahad Nur wedi bod yn gwerthu cyffuriau ar y stryd," a bod "tensiynau rhwng gangiau o werthwyr cyffuriau gwahanol" ac mai "anghydfod oedd yn fwyaf tebygol am yr hyn ddigwyddodd".

"Eu bwriad oedd ei ddal yn y stryd...roedd hwn yn gynllwyn ar y cyd ac roedd pawb yn chwarae rhan bwysig gyda'r un bwriad. Rwy'n siwr nad oedd Fahad yn fygythiol - rwy'n siwr eu bod wedi penderfynu ymosod ar Fahad Nur.

"Nid yw hwn yn achos o drais ar fympwy - roedd wedi ei gynllunio o flaen llaw."

Ychwanegodd y barnwr nad oedd y tri wedi dangos unrhyw "edifeirwch gwirioneddol".

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Fahad Mohamed Nur bod "colled enfawr ar ei ôl"

Cymorth

Cafodd nifer o unigolion oedd gerllaw ac wedi dod i gynnig cymorth i Fahad Nur, gan cynnwys dyn o'r enw Ethan Moore eu clodfori gan y barnwr. Roedd Mr More wedi helpu Mr Nur tra roedd yn cael ei gicio ar y llawr ac fe fydd yn derbyn £400 am ei ymdrechion.

Ddydd Mawrth, yn dilyn achos oedd wedi para am dri mis, fe ddaeth rheithgor i'r casgliad fod y tri diffynnydd yn euog o lofruddiaeth.

Daeth patholegydd i'r casgliad fod Fahad Nur wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn ei galon. Roedd wedi dioddef 21 o anafiadau i gyd, yn cynnwys anafiadau i'w wyneb a'i freichiau. Bythefnos wedi'r llofruddiaeth fe wnaeth yr heddlu ddarganfod dwy gyllell mewn boncyff coeden yn agos i un o adeiladau Prifysgol Caerdydd.

Dadl yr erlyniad oedd bod y tri diffynnydd wedi ceisio "hela" Mr Nur ar ôl ei weld yn ardal Cathays o'r ddinas.

Datganiad

Cafodd datganiad gan chwaer Mr Nur, Filsan, ei ddarllen yn y llys yn dilyn dedfrydu'r tri dyn. Dywedodd y datganiad fod y llofruddiaeth wedi dychryn y gymuned Somalaidd yn y ddinas.

"Roedd fy mrawd yn fachgen ifanc oedd wedi derbyn addysg ac roedd ganddo uchelgais a breuddwydion. Roedd cymaint yn ei garu. Roedd ei lofruddiaeth yn weithred erchyll a disynnwyr", meddai'r datganiad.

Fe gafwyd pedwerydd diffynnydd, Aseel Arar, cariad Abdul Aldobhani, yn euog o gynorthwyo troseddwr. Clywodd y llys ei bod wedi archebu ystafell mewn gwesty yn Birmingham a thocynnau awyren i Moroco o Heathrow iddi hi ag Abdul Aldobahani. Fe fydd hi'n cael ei dedfrydu ar ddiwedd y mis.