Galw am gamerâu cyflymder ar ffordd ddeuol yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn a gafodd ei anafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad ar ffordd ddeuol yn Abertawe yn gofyn am gael camerâu cyflymder ar y safle.
Fe gafodd John Gatehouse, 58 oed, anafiadau a newidiodd ansawdd ei fywyd wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A483 ym mis Chwefror.
Mae e'n parhau mewn uned gofal dwys yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad a oedd yn cynnwys dau gar ac fe gafodd un dyn arall anafiadau difrifol.
Dywed partneriaeth GanBwyll, sy'n ceisio cadw ffyrdd Cymru'n fwy diogel, eu bod yn edrych ar y lleoliad.
Fe dorrodd Mr Gatehouse ei goes mewn sawl man, ei belfis a'i asennau.
Fe gymerodd hi ddwy awr i griwiau tân ei ryddhau, meddai Hayleigh Wilkins, merch partner Mr Gatehouse.
"Mae e'n wynebu cyfnod hir iawn o wella - fydd pethau fyth yr un fath eto."
Mae Ms Wilkins a'i mam Shantelle wedi lansio deiseb ar-lein sy'n pwysleisio'r pryderon am y ffordd rhwng Fforest-fach a Phenlle'r-gaer.
Mae ffordd yr A483 lle digwyddodd y gwrthdrawiad yn pasio heibio'r fferm lle mae'r teulu yn byw.
Mae cyfyngder cyflymdra o 50mya ar y ffordd, ond yn ôl Ms Wilkins mae cerbydau yn aml yn anwybyddu'r terfyn cyflymder.
Dywedodd: "Dyw pobl ddim yn glynu at y terfyn cyflymder o gwbl.
"Mae'n ddarn hollol syth o ffordd ac mae pobl yn mynd yn gyflym."
Mae'n dweud ei bod wedi gweld, yn y dyddiau diwethaf, car yn mynd drwy olau coch am ei fod yn mynd yn rhy gyflym i stopio.
Mae'n dweud ei bod eisoes wedi cael cefnogaeth un cynghorydd lleol ac mae'n gobeithio cael cefnogaeth partneriaeth GanBwyll.
Mae GanBwyll yn gyfrifol am 156 o gamerâu cyflymder ar draws Cymru - ac yn cynrychioli awdurdodau lleol, lluoedd yr heddlu a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y bartneriaeth ddiogelwch wrth BBC Cymru eu bod wedi derbyn "pryderon y gymuned" sydd wedi'u lleisio gan Ms Wilkins a'u bod wedi eu trosglwyddo i dimau arbenigol Heddlu De Cymru.
'Dim angen camera ar hyn o bryd'
Ond ar hyn o bryd mae GanBwyll Cymru wedi dweud nad yw'r lefel o risg ar y ffordd yn cyfiawnhau cael camera cyflymder.
Dywedodd swyddog: "Mae tystiolaeth o gyflymder ar y ffordd - ond dyw lleoliad ein hadnoddau ddim yn ddibynnol ar gyflymder yn unig.
"Ry'n yn cyfuno data cyflymder, data anafiadau oherwydd gwrthdrawiad a risg i'r gymuned er mwyn cael y darlun llawn."
Ychwanegodd y swyddog bod chwech o ddigwyddiadau ar y ffordd wedi cynnwys anafiadau personol posib yn ystod y pum mlynedd a bod 30,000 cerbyd y dydd yn teithio ar y ffordd.
"Dim ond un o'r digwyddiadau hynny sydd o bosib yn gysylltiedig â chyflymder."
Mae Cyngor Dinas Abertawe yn cefnogi safiad GoSafe ac yn dweud bod damweiniau ar y ffordd hon yn "eithaf isel i gymharu â gweddill Abertawe".
"Mae'n bwysig aros i'r heddlu gwblhau eu hymchwiliadau i achos y gwrthdrawiad cyn ystyried unrhyw weithredu pellach," ychwanegodd llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd29 Awst 2015