Galw am gamerâu cyflymder ar yr A4067 ger Abertawe

  • Cyhoeddwyd
A4067Ffynhonnell y llun, Adrian White
Disgrifiad o’r llun,

Roedd wyth cerbyd yn rhan o wrthdrawiad difrifol ar y ffordd ar ddechrau mis Mehefin

Mae galw cynyddol ar awdurdodau lleol i weithredu ar frys er mwyn gwneud y ffordd rhwng Pontardawe ac Ynysforgan yn fwy diogel i fodurwyr.

Erbyn hyn mae bron i 3,000 o bobl wedi arwyddo deiseb sy'n galw am gyflwyno camerâu sy'n mesur cyfartaledd cyflymder ar hyd yr A4067.

Un sydd wedi arwyddo'r ddeiseb yw Tracy Kennedy, mam i ddynes ifanc gafodd ei lladd wedi i ddau yrrwr arall rasio'i gilydd ar yr A4067 ym mis Gorffennaf 2016.

Yn ôl Ms Kennedy mae angen i'r cynghorau weithredu fel bod teuluoedd eraill ddim yn gorfod "mynd drwy'r hyn yr ydyn ni wedi'i ddiodde'".

Dywedodd llefarydd ar ran cynghorau sir Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot eu bod nhw'n ymwybodol o'r ddeiseb a phryderon y bobl leol.

Wrth ganolbwyntio ar bum milltir yn unig o'r A4067, mae gwefan CrashMap wedi casglu data sy'n dangos fod 31 o ddamweiniau wedi digwydd rhwng 2014 a 2018 - gyda dwy o'r rhain yn angheuol.

Dechrau'r mis roedd wyth cerbyd yn rhan o wrthdrawiad difrifol ar y ffordd a bu'n rhaid cludo plentyn 11 oed i'r ysbyty mewn hofrennydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae mam dynes ifanc a gafodd ei lladd ar yr A4067 yn gwbl gefnogol o'r ddeiseb

Cafodd dau ddyn 23 oed eu carcharu ym mis Ebrill 2018 am achosi marwolaeth Kelly Kennedy, 25, trwy yrru'n beryglus.

Dywedodd Ms Kennedy: "Dwi jest eisiau gweld camerâu yn cael eu cyflwyno yno, bod y terfyn cyflymder yn cael ei ostwng a llinell wen i rwystro pobl rhag goddiweddyd.

"Dydyn ni ddim am i unrhyw deulu arall fynd drwy'r hyn yr ydyn ni wedi ddiodde'.

"Mae'n ofnadwy a dwi jest eisiau gweld rhywbeth yn cael ei wneud ar y mater."

'Problemau enfawr'

Nid yw'r ffyrdd hyn wedi cael eu datblygu ar gyfer y fath draffig ar fath "bobl sydd mewn brys", yn ôl un o drigolion yr ardal, Huw Evans.

"Mae hyn yn achosi problemau enfawr a dyma lle ni'n gweld y damweiniau yn digwydd... mae yna ormod o geir yma," meddai.

"Mae gen i ffrind mewn cyflwr ofnadwy yn Ysbyty Treforys ar y foment... gan fod pobl wedi cymryd y fath o risks maen nhw'n fodlon gwneud ar yr hewl hon."

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, mae angen "aros i glywed canlyniad ymchwiliad heddlu i'r gwrthdrawiad mwyaf diweddar cyn penderfynu ar unrhyw ymgais i reoli cyflymder traffig".