Dyledion £92.3m tri bwrdd iechyd yn 'achos siom'

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlansys tu allan i'r HeathFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tri o fyrddau iechyd Cymru yn parhau a dyledion o filiynau o bunnoedd

Mae pennaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi datgan ei "siom" fod tri bwrdd iechyd yn parhau â dyledion o ddegau o filiynau o bunnoedd.

Rhyngddynt mae byrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Hywel Dda a Bae Abertawe yn rhagweld cyfanswm colledion o £92.3m gyfer 2019/20.

Mae cyfanswm y saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn dangos gwelliant bychan o'i gymharu â'r llynedd.

Ond dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru, wrth aelodau'r Cynulliad ei fod wedi disgwyl gweld gwelliant gan y tri bwrdd oedd eisoes â dyledion.

Mae Betsi Cadwaladr yn rhagweld dyled o £41m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol fis nesaf - gwelliant bach o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Andrew Goodall ei fod yn siomedig fod tri bwrdd iechyd â dyledion o filiynau o bunnoedd

Y ffigwr ar gyfer Hywel Dda yw £35m, sydd mymryn yn waeth nag yn 2018/19, tra bod Bae Abertawe yn rhagweld colledion o £16.3 - cynnydd £6.4m.

Mae disgwyl i fyrddau iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf a Phowys fod heb ddyledion, fel oedd yr achos yn 2018/19.

Ni fydd Caerdydd a'r Fro â dyledion chwaith ar ôl llwyddo i ddileu dyledion o £9.9m o'r flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Alan Brace, cyfarwyddwr cyllid Llywodraeth Cymru, fod Caerdydd a'r Fro wedi elwa o berfformiad llawr mwy cyson o ran gofal oedd wedi ei gynllunio, a gofal oedd heb ei gynllunio.

Dywedodd Dr Goodall wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: "Fe fydd saith o 11 o'n sefydliadau heb golled, ac mae saith o'r 11 gyda chynlluniau sydd wedi eu cymeradwyo.

"Ar ôl dweud hynny rwy'n siomedig fod tri o'r sefydliadau wedi methu â mynd i'r afael â'u dyledion.

"Yn bendant byddwn wedi disgwyl gwelliant o ran y tri yna eleni."