Galw i ohirio gwerthu cyn-gartref gofal am chwe mis

  • Cyhoeddwyd
BodlondebFfynhonnell y llun, Google

Mae cynghorwyr yng Ngheredigion wedi galw ar y Cabinet i ohirio gwerthu cartref gofal yn Aberystwyth am chwe mis.

Roedd tri aelod o'r Pwyllgor Craffu Adnoddau Corfforaethol wedi galw penderfyniad y Cabinet, i geisio gwerthu cartref Bodlondeb i landlord tai cymdeithasol, i mewn.

Cyn newid ei flaenoriaeth, roedd y Cabinet wedi cytuno i werthu'r cartref i ddarparwr gofal lleol oedd yn bwriadu ei adnewyddu a chynnig gofal nyrsio ar gyfer cleifion dementia yno.

Ond ym mis Chwefror dywedodd y Cabinet bod y cytundeb hwnnw ar ben am "resymau cyfrinachol" ac mai'r nod newydd oedd gwerthu'r safle ar gyfer tai cymdeithasol.

Mewn cyfarfod arbennig o'r pwyllgor craffu ddydd Llun, rhoddodd mwyafrif yr aelodau eu cefnogaeth i gynnig i oedi unrhyw werthiant am chwe mis, er mwyn ystyried a allai Bodlondeb fod o ddefnydd yn yr ymdrech yn erbyn coronafeirws.

Roedd dwy ran o dair o aelodau'r pwyllgor o blaid y cynnig.

'Ffolineb ofnadwy'

Roedd y Cynghorydd Dai Mason yn un o dri chynghorydd wnaeth lofnodi'r cais i alw penderfyniad y Cabinet i mewn.

Dywedodd: "Mae rhesymau dros gau Bodlondeb a rhesymau dros ei gadw, ond i gael gwared ag e nawr ar yr adeg yma gyda achos difrifol iawn - y coronavirus - roedd e'n ffolineb ofnadwy, ro'n i'n meddwl.

"Ro'n i'n teimlo bod hi'n well i ni ohirio pethau am chwe mis i weld beth sy'n digwydd ac rwy'n siŵr y gallai Bodlondeb ddod yn ased mawr i ni i'n helpu ni i fynd trwy hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Gallai safle Bodlondeb "fod yn ased" yn yr ymdrech yn erbyn coronafeirws, medd y Cynghorydd Dai Mason

Yr awgrym yw y gellir adnewyddu rhan o'r hen gartref er mwyn darparu gwelyau ar gyfer cleifion y gellir eu rhyddhau o ysbytai er mwyn helpu yn yr ymdrech yn erbyn y feirws.

Roedd ymgyrchwyr sydd am wella gofal nyrsio a gofal dementia yng Ngheredigion wedi mynd i neuadd y sir ar gyfer y cyfarfod arbennig.

Yn ôl Fforwm Gofal Henoed Gogledd Ceredigion mae dros 30 o bobl y sir yn gorfod mynd i siroedd eraill i gael gofal oherwydd diffyg darpariaeth yng Ngheredigion.

Roedd aelodau'r Fforwm yn gweld gobaith y gallai Bodlondeb ailagor pan gafodd cynnig menyw leol - sydd eisoes yn rhedeg cartref - ei dderbyn gan y Cyngor yn wreiddiol.

'Dipyn bach o obaith'

Cafodd canlyniad y bleidlais yn y pwyllgor ei groesawu gan yr ymgyrchwyr.

Dywedodd Lisa Francis, is-gadeirydd y Fforwm: "Dw i'n falch iawn - mae 'na dipyn bach o obaith dw i'n credu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn gwrthwynebu'r cynllun i werthu Bodlondeb gan ddadlau bod angen gwella'r gofal i gleifion dementia lleol

"Mae'n bwysig nawr bod y Cabinet yn ailedrych ar y peth, yn enwedig yn y sefyllfa sydd gennym ni nawr sydd mor beryglus.

"Mae tipyn bach yn eironig i feddwl bod y coronafeirws wedi gwneud y gwahaniaeth ac yn mynd i wneud iddyn nhw edrych ar y darlun mawr."

Mae'r Cabinet i fod i gwrdd ddydd Mawrth, a does dim rhaid iddyn nhw wrando ar yr hyn y mae'r pwyllgor craffu yn ei gynnig.

Fe allan nhw ei ddiystyru a pharhau gyda'i benderfyniad gwreiddiol a cheisio gwerthu safle Bodlondeb ar gyfer tai cymdeithasol.