Coronafeirws: £200m i helpu busnesau bach ymdopi
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion pecyn gwerth dros £200m i helpu busnesau bach ymdopi yn sgil y nifer cynyddol o achosion o coronafeirws.
Bydd siopau, busnesau hamdden a lletygarwch yn cael gostyngiad yn eu trethi, a rhai ddim yn gorfod talu trethi o gwbl, a bydd yna gynllun grantiau ar wahân i fusnesau nad sy'n gymwys am rheiny.
Daw'r cyhoeddiad wedi addewid o £835m gan Lywodraeth y DU i Gymru ar gyfer helpu busnesau.
Mae un person wedi marw o'r haint yng Nghymru ac mae Llywodraeth y DU yn cynghori pobl i osgoi teithio'n ddiangen ac i weithio o'u cartrefi os yw hynny'n bosib.
Pwy sy'n gymwys am ba gymorth?
Bydd siopau a busnesau hamdden a lletygarwch sydd â gwerth trethadwy hyd at £51,000 yn cael gostyngiad ardrethi busnes o 100%.
Bydd tafarndai gyda gwerth trethadwy rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 ar eu bil.
Bydd £100m pellach ar gael ar gyfer cynllun grant newydd i fusnesau bach sydd ddim yn gymwys i gael y gostyngiad ardrethi busnes newydd, a bydd manylion y cynllun yma'n cael eu cadarnhau "gynted â phosib".
Beth yw barn busnesau bach?
Mae Aled Rees yn berchennog ar Siop y Pethe - siop Gymraeg yn Aberystwyth - a thri chwmni teithio, gan gyflogi wyth o bobl.
Mae'n credu y dylai fod rhagor o fesurau yn cael eu cyflwyno i atal busnesau bach rhag mynd i'r wal yn y cyfnod yma, a diogelu miloedd o swyddi.
Dywedodd wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Mawrth fod effaith y feirws ar ei fusnesau wedi bod yn "erchyll".
"Gyda Teithiau Tango - teithiau sy'n mynd draw i'r Ariannin - mae'r wlad wedi cau ei drysau felly mae pob taith eleni wedi cael ei ganslo yn barod," meddai.
"Mae teithiau Cambria - Cambrian Tours a Cambrian DMC. Dau gwmni sy'n dod â miloedd o bobl mewn i Gymru yn flynyddol - mae 80% o deithiau wedi canslo yn barod, wedi'u gohirio tan bwy a ŵyr.
"Bydden i'n dweud bod yn agos i £500,000 o drosiant y cwmni wedi cael ei ganslo o fewn yr wythnos ddiwethaf."
Cytunodd fod torri cyfraddau busnes i'w groesawu, ond na fyddai'n cael llawer o effaith ar ei fusnesau ef.
"Dyw faint y ni'n talu - ni'n talu £600 y mis dwi'n credu yn Siop y Pethe - ddim yn mynd i gyffwrdd dim byd o ran achub y busnes," meddai Mr Rees.
"Mae trosiant y cwmnïau lawr shwt gymaint, gyda dim gobaith o unrhyw beth yn dod mewn am y misoedd nesaf, dyw arbed £600 y mis ddim yn mynd i neud unrhyw beth."
Roedd Llywodraeth Cymru wedi dod dan bwysau i ddilyn esiampl Lloegr a gohirio trethi busnes rhai siopau a bwytai am flwyddyn.
Wedi'r cyhoeddiad o £360m ychwanegol y flwyddyn i Gymru yn y gyllideb yr wythnos, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford groesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i roi £475m yn rhagor ddydd Llun, gan ddod â'r cyfanswm i £835m.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans: "Rydym yn neilltuo pob ceiniog o'r cyllid y byddwn yn ei dderbyn o ganlyniad i gynlluniau Llywodraeth y DU sydd wedi'u cyhoeddi yn Lloegr yr wythnos ddiwethaf i gefnogi busnesau yng Nghymru.
"Ond rwyf yn gwybod na fydd helpu busnesau gyda'u biliau ardrethi'n ddigon i'w gwarchod rhag y gostyngiad difrifol mewn cwsmeriaeth mae llawer yn ei brofi wrth i'r achosion o coronafeirws gynyddu.
"Byddwn yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu'n gyflym ac yn bendant er mwyn darparu cefnogaeth sylweddol iawn i fusnesau bregus a'u cyflogeion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2020