Dan Walker yn ymddiheuro am wawdio enw Ffred Ffransis

  • Cyhoeddwyd
Ffred a MeinirFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffred a Meinir Ffransis wedi cael trafferth gadael Periw yn sgil coronafeirws

Mae cyflwynydd teledu wedi ymddiheuro ar ôl cael ei feirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol am wawdio enw ymgyrchydd iaith blaenllaw.

Roedd Ffred Ffransis yn siarad ar raglen BBC News at Ten nos Iau wrth iddo ddisgrifio'r sefyllfa ym Mheriw, ble mae ef a'i wraig Meinir yn methu â gadael y wlad.

Pan ymddangosodd enw Mr Ffransis ar y sgrin fe wnaeth Mr Walker gyhoeddi llun ar Twitter gan gwestiynu ai dyna oedd ei "enw iawn", gan ennyn ymateb gan nifer o Gymry yn cynnwys rhai o blant y cwpl.

Yn dilyn ei ymddiheuriad fe wnaeth Mr Walker dynnu sylw at drafferthion y ddau a galw ar Lysgenhadaeth y DU ym Mheriw i'w cynorthwyo.

'Anwybodaeth'

Yn ei neges wreiddiol fe ddywedodd Mr Walker: "'Dych chi'n gwybod pan 'dych chi wedi cael diwrnod hir ac mae pethau gwirion yn gwneud i chi chwerthin?"

Ychwanegodd ei fod yn "siŵr mai nid ei enw iawn yw hwnna" wrth gyfeirio at Mr Ffransis, gan roi emojis chwerthin a'r gair "Ffreaky" ar y diwedd.

Fe wnaeth hynny ennyn ymateb beirniadol gan nifer o bobl, gyda rhai'n ei gyhuddo o "anwybodaeth" a galw arno i ymddiheuro.

Yn eu plith roedd merch Mr a Mrs Ffransis, Gwenno Morris, a apeliodd ar y cyflwynydd teledu i dynnu sylw ei ddilynwyr at drafferthion y bobl oedd yn ceisio dychwelyd adref o Beriw yn hytrach na "gwawdio enw fy nhad".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Dan Walker

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Dan Walker

"Mae ganddo gyflwr gwael ar ei galon, yn cael trafferth anadlu, a dydy [yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic] Raab a'r Swyddfa Dramor ddim yn helpu o gwbl," meddai. "Mae'n nhw angen hediad yn ôl."

Ychwanegodd: "Dwi'n siŵr bod fy nhad wedi maddau i chi yn barod am ei fod yn caru Iesu, fel 'dych chi."

Fe wnaeth Mr Ffransis ei hun ymateb yn ddiweddarach, gan dynnu coes Mr Walker ynghylch ei sylw.

"Beth mae Dan yn ceisio ei ddweud yw mai 'Ffransis' ddylai sillafiad y cyfenw fod, nid 'Ffrancis'. Diolch Mr Lineker!"

'Teimlo fel muppet'

Mae Mr Walker, sydd yn gyflwynydd ar BBC Breakfast yn ogystal â rhaglenni chwaraeon, bellach wedi trydar ymddiheuriad gan ddweud nad oedd ei "fam Gymraeg yn hapus iawn" a'i sylw.

"Derbyniwch fy ymddiheuriadau," meddai mewn neges uniaith Gymraeg.

"Rwyf o stoc Cymru fy hun. Mae fy mam yn Gymraeg! Rwy'n ymwybodol iawn o'r 'Ff' ond erioed wedi ei weld mewn enw. Gobeithio y bydd eich tad yn cyrraedd adref yn fuan."

Ychwanegodd ei fod yn "teimlo fel muppet", gan ofyn i'w ddilynwyr roi gwybod iddo beth fydd y diweddaraf ar sefyllfa Mr Ffransis a'r teithwyr yn ne America.

Mae hefyd wedi trydar at Lysgenhadaeth y DU ym Mheriw, gan ofyn iddyn nhw helpu Ffred a Meinir Ffransis yn eu hymgais i ddychwelyd adref.