Coronafeirws: Pryder am ddiffyg cyfathrebu

  • Cyhoeddwyd
Busnes bach

Mae diffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn costio amser a busnes i gwmnïau yn ôl FSB Cymru.

Dywedodd y corff busnes fod yn rhaid datrys y sefyllfa "ar frys" oherwydd y problemau a achosir gan coronafeirws.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i roi sicrwydd i fusnesau.

Yn ôl Llywodraeth y DU maen nhw wedi gweithio yn gyflym ac adeiladol gyda Llywodraeth Cymru.

Pecyn cymorth

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth gwerth £1.4bn i fusnesau.

Daeth hynny wedi pecyn mesurau ariannol llywodraeth y DU i roi cymorth i'r economi.

Mae'r mesurau'n cynnwys £330bn mewn benthyciadau a £20bn mewn cymorth arall.

Dywedodd Ben Francis, Cadeirydd Polisi FSB Cymru 'nad oedd yr unfrydedd pwrpasol a welwyd rhwng y ddwy lywodraeth yn eu negeseuon iechyd i'w weld yn eu dull o amddiffyn busnesau."

Aeth Mr Francis ymlaen i ddweud: "Ar yr adeg yma o argyfwng cenedlaethol, y disgwyliad rhesymol gan fusnes yw y bydd Llywodraethau'r DU a Chymru nid yn unig yn gweithio gyda'i gilydd, ond hefyd yn dangos hyn i'r rhai sy'n dibynnu arnynt.

"Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi clywed gan y llywodraethau am fylchau yn y wybodaeth a ddarperir a phenderfyniadau nad ydynt yn cael eu cyfleu gan y llall. Ar adeg pan fo llywodraethau angen rhoi sicrwydd i fusnesau, rhaid datrys hyn ar frys.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o siopau a chaffis yn penderfynu cau dros dro oherwydd prinder cwsmeriaid

"Rydym wedi gweld unfrydedd pwrpas ac eglurder sydd i'w groesawu'n fawr, o ran negeseuon iechyd ar Coronavirus gan Lywodraethau'r DU a Chymru. Mae hynny wrth gwrs yn hollol gywir i amddiffyn iechyd yn effeithiol. Fodd bynnag, nid dyma sy'n digwydd o ran amddiffyn busnesau. Mae busnes mewn argyfwng a rhaid datrys hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Dyma'r her fwyaf y mae Llywodraethau'r DU a Chymru wedi'i hwynebu gyda'i gilydd.

"Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau digynsail ar gyflymder rhyfeddol oherwydd rydyn ni'n gwybod bod angen help ar fusnesau, cymunedau ac unigolion i gyd ar frys.

"Trwy gydol yr argyfwng, rydym wedi gweithio'n agos ac yn adeiladol gyda Llywodraeth Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i gadw'r DU gyfan yn ddiogel.

"Mae swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o gyfarfodydd a phwyllgorau COBRA ers i'r pandemig ddechrau a byddant yn parhau i fod yn rhan allweddol o gynllunio a chyfathrebu'r ymateb cyffredinol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hwn yn gyfnod digynsail ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau drwy'r cyfnod anhygoel o anodd hwn gan gynnwys datblygu ein pecyn cymorth.

"Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn darparu'r sicrwydd sydd ei angen ar fusnesau i'w gweld drwy'r pandemig coronafeirws."