Oedi pellach i benderfyniad adeiladu Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
![Wylfa Newydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5372/production/_109326312_496d1355-e44a-4811-92c8-74d13680e60d.jpg)
Roedd Wylfa Newydd i fod i ddechrau cynhyrchu erbyn canol y ddegawd
Mae penderfyniad i ganiatáu adeiladu gorsaf niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn wedi ei ohirio tan 30 Medi eleni.
Bwriad gwreiddiol Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, Alok Sharma, oedd gwneud penderfyniad ar y cais erbyn 31 Mawrth.
Mae'r cais yn parhau i gael ei ystyried gan y llywodraeth er bod Horizon Nuclear Power, y cwmni tu ôl i'r datblygiad, wedi penderfynu oedi'r gwaith ar y prosiect yn Ionawr 2019.
Mewn datganiad dywedodd Mr Sharma fod y dyddiad wedi ei ymestyn er mwyn caniatáu i fwy o wybodaeth "ar effeithiau amgylcheddol a materion eraill gael eu cyflwyno a'u hystyried".
Cwmni Hitachi o Japan oedd tu ôl i'r cynllun £13bn i godi atomfa newydd am £13bn, ac fe sefydlon nhw is-gwmni o'r enw Horizon i weithredu'r prosiect.
![Horizon](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2A09/production/_105216701_mediaitem105216700.jpg)
Cafodd gwaith ar y safle ei oedi yn Ionawr, 2019
Yn wreiddiol roedd bwriad i greu hyd at 9,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, a channoedd o swyddi parhaol unwaith roedd y gwaith hwnnw ar ben.
Ond oherwydd methiant i gytuno ar bris am y trydan gyda Llywodraeth y DU, penderfynodd y cwmni i beidio bwrw ymlaen am y tro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020