Lle gwell i hunan ynysu o coronafeirws nag ar ynys?
- Cyhoeddwyd
Dim ond pump o bobl sy'n byw ar Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro - ond mae dau o'r rheiny wedi gorfod hunan ynysu rhag ofn eu bod wedi eu heintio â coronafeirws.
Roedd y wardeiniaid Nathan Wilkie a Sylwia Zbijewska newydd ddychwelyd i'r ynys ar ôl seibiant ar y tir mawr pan wnaeth Nathan ddatblygu peswch, gan eu gorfodi i hunan ynysu.
"Dwi'n dangos rhai symptomau posib, ac mae'n anodd dweud os mai coronafeirws yw e ai peidio," meddai Nathan.
"Dydyn ni ddim wedi dod i gysylltiad â llawer o bobl, ond am fod Sylwia a minnau'n rhannu llety, rydym mewn cwarantîn mewn ffordd."
Mae'r ddau wedi bod yn wardeiniaid ar Sgomer ers 2018 ac oherwydd y tywydd, mae peidio bod mewn cysylltiad â'r tir mawr yn rhywbeth cyfarwydd iawn iddyn nhw.
Ond yn ôl y ddau, mae'n wahanol y tro hwn am fod rhaid iddyn nhw gadw draw oddi wrth y tri arall sydd newydd symud i'r ynys i weithio i'r warchodfa natur.
Oherwydd y feirws, maen nhw'n dibynnu ar ffrindiau a siopau lleol, sy'n gadael bwyd a nwyddau iddyn nhw ar y lanfa gychod yn Martin's Haven, ger pentref Marloes, lle maen nhw'n gallu eu casglu heb ddod i gyswllt â neb.
Mae'n stori ddigon tebyg i wardeiniaid Ymddiriedolaeth Ynys Enlli - Mari Huws ac Emyr Owen - er nad ydyn nhw'n dangos unrhyw symptomau o'r feirws, nac yn gorfod hunan ynysu.
"Mi oedd ein tymor ni i fod yn cychwyn yma ar 4 Ebrill, gyda phob un o 10 o dai'r Ymddiriedolaeth yn llawn o ymwelwyr dros y Pasg ac yn llawn iawn tan ddiwedd Medi, ond wrth gwrs does neb yn mynd na dŵad ar y funud," meddai Mari, gafodd ei phenodi'n warden gyda'i phartner, Emyr, ym mis Medi 2019.
"Mae 'na 10 ohonan ni yma ar yr ynys, sef Emyr a fi fel wardeniaid, pump yn yr wylfa adar a thri i lawr ar y fferm.
"Mae pawb yn ymdopi yn iawn, er y siom a'r ansicrwydd economaidd i'r ynys, mae ganddon ni fwy o ryddid yma ar Enlli nag eraill ar y tir mawr.
"Yr unig gysylltiad sydd ganddon ni â'r tir mawr ydy drwy Colin Evans, y cychwr, sydd yn dod â bwyd a phost i ni pan fo angen."
Mae'r cyfyngiadau'n golygu bod ganddyn nhw fwy o amser i ddal i fyny efo'r holl waith cynnal a chadw.
"Mae gynnon ni hen ddigon o bethau i'n cadw ni'n brysur drwy'r haf. Mi fydd yn wanwyn gwahanol i'r disgwyl, ond mae'n wahanol iawn i bawb tydi?"
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020