Duffy yn datgelu mwy am ei phrofiad o gael ei herwgipio

  • Cyhoeddwyd
DuffyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Duffy i enwogrwydd ar draws y byd yn 2008

Mae'r gantores Duffy wedi datgelu mwy am ei phrofiad o gael ei drygio a'i threisio cyn cael ei chadw'n gaeth mewn gwlad dramor.

Dyma'r tro cyntaf i'r Gymraes 35 oed roi manylion am ei phrofiadau, wnaeth arwain iddi gymryd cam yn ôl o enwogrwydd.

"Mae cael eich treisio fel llofruddiaeth - rydych chi'n fyw, ond yn farw," meddai ar Instagram.

"Fe gymrodd hi amser hir iawn, a theimlo weithiau na fyddai fyth yn dod i ben, i adfer y darnau ohonof."

'Ddim yn cofio mynd ar yr awyren'

Daeth Duffy i enwogrwydd yn 2008 pan werthodd ei halbwm gyntaf, Rockferry, dros saith miliwn copi a dod yn rhif un mewn chwe gwlad yn 2008.

Fe enillodd y gantores dair Gwobr Brit a Grammy, ond camodd yn ôl o enwogrwydd ar ôl rhyddhau ei hail albwm yn 2010.

Daw'r manylion diweddaraf am ei phrofiad dirdynnol fis wedi iddi ddatgelu'r digwyddiad am y tro cyntaf ar ei chyfrif Instagram.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyrhaeddodd Duffy rif un yn y siartiau mewn 12 o wledydd gyda'i chân 'Mercy'

Ysgrifennodd: "Roedd hi'n ben-blwydd arna i, fe roddodd gyffur i mi mewn bwyty ac yna am bedair wythnos wedyn, ac fe deithion ni i wlad dramor.

"Dydw i ddim yn cofio mynd ar yr awyren a'r peth nesaf rwy'n cofio ydy bod mewn cefn cerbyd oedd yn teithio.

"Cefais fy rhoi mewn ystafell mewn gwesty ac fe ddaeth y troseddwr yn ôl a fy nhreisio."

Dywedodd Duffy ei bod wedi ystyried rhedeg i ffwrdd ond ei bod yn rhy ofnus.

Dydy hi ddim wedi enwi'r ymosodwr.

'Ofn mynd at yr heddlu'

Ychwanegodd ei bod wedi dychwelyd i'r DU gyda'i hymosodwr ond ei bod yn dal i boeni am ei bywyd am ei fod wedi awgrymu y gallai ei lladd.

"Doeddwn i ddim yn teimlo'n ddiogel mynd at yr heddlu. Pe bai unrhyw beth wedi mynd o'i le fe fyddwn i'n farw - byddai wedi fy lladd," meddai.

Dywedodd y gantores ei bod wedi ystyried lladd ei hun wedi i'w phrofiad hunllefus ddod i ben, neu newid ei henw a'i hedrychiad a symud i fyw i wlad arall.

"Roeddwn i'n meddwl y byddai datgelu fy stori yn gyhoeddus yn difetha fy mywyd, ond roedd cuddio fy stori yn llawer gwaeth," meddai.