Covid-19: Cymunedau'r canolbarth yn cynnig gobaith

  • Cyhoeddwyd
ymaichi

Ers i gyfyngiadau haint coronafeirws dod i rym, mae cymunedau ar draws Cymru wedi bod yn dod at ei gilydd i helpu pobl fregus ac i hybu busnesau lleol.

Ry'n ni eisoes wedi clywed am ymdrechion yn ardaloedd Dinbych a Chaernarfon.

Yng nghanolbarth Cymru mae gwefan arbennig wedi ei sefydlu i gynnig help i drigolion lleol gael gafael ar nwyddau yn ystod argyfwng coronafeirws.

Bwriad gwefan 'Yma i Chi' yw cefnogi busnesau annibynnol lleol gan greu hwb sy'n darparu nwyddau i ardal eang.

Ar hyn o bryd, mae'r wefan yn cludo i dros 30 o gymunedau o gwmpas Aberystwyth.

Y gobaith yw ehangu i ardaloedd fel Machynlleth yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yn berchennog busnes lleol, syniad Aled Rees oedd creu'r wefan newydd.

"Dwi'n ceisio lleihau nifer y bobl sy'n gorfod dod allan o'u cartrefi ond hefyd cefnogi busnesau annibynnol lleol," meddai.

"Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel, a chymaint yn cynnig helpu gyda'r gwaith hefyd.

"Mae gyda ni focsys llysiau, ffrwythau, bara, siocled, nwyddau glanhau. Ni'n ychwanegu mwy o nwyddau bob awr o bob dydd. Mae degau ar ddegau o archebion wedi dod i fewn, cymaint nes bod angen help arna i gludo'r cyfan."

Ym Machynlleth, bydd rhifyn nesaf o bapur bro y Blewyn Glas yn cael ei alw'n 'Blewyn o Obaith', er mwyn cynnig cysur i bobl yr ardal.

Fe ddywedodd un o'r golygyddion, Iola Jones, bod parhau i gyhoeddi rhyw fath o bapur yn "bwysicach nag erioed".

Mae tua 1,000 o gopïau'n cael eu gwerthu fel arfer mewn dros 25 o gymunedau, ar draws ardal eang.

Dywedodd: "Mae'r gymuned angen hwn yn fwy nag erioed. 'Dan ni ddim yn gallu argraffu'r papur ond mae'n bwysig i ni ddarparu rhywbeth positif.

"Mae'r enw wedi cael ei newid, am fod y papur yn mynd i fod yn un gwahanol am y tro."

Yn debyg i olygyddion y Dinesydd yng Nghaerdydd, mae'r golygyddion yn gobeithio y bydd cyhoeddi'r papur ar y we am y tro cyntaf yn denu cynulleidfa newydd.

"Mi fydd yn debyg i'r papur traddodiadol ond gydag erthyglau gwahanol. Mi fydd colofn goginio, cwis y golygyddion, tudalen y plant a phethau sy'n cael eu hysgrifennu'n arbennig gan y panel golygyddol i godi calon," ychwanegodd.

Bydd y rhifyn newydd i'w weld ar-lein neu ar gael ar ffurf PDF ar 12 Ebrill.