Arbenigwr iechyd yn teimlo 'cywilydd' o fod yn ordew
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr iechyd sy'n ordew wedi sôn am ei gywilydd wrth annog cleifion clefyd siwgr i golli pwysau, er ei fod yn pwyso dros 20 stôn ac yn dioddef o'r cyflwr ei hun.
Mae'r radiograffydd Kevin Jones yn un o bump o bobl sy'n cymryd rhan yn y gyfres ddiweddaraf o FFIT Cymru ar S4C.
Bu'n rhaid newid fformat y rhaglen yn llwyr eleni oherwydd cyfyngiadau coronafeirws, ac mae'r gyfres newydd yn canolbwyntio ar iechyd corfforol a lles meddyliol wrth hunan-ynysu yn ystod y pandemig.
Dywed Kevin mai ei nod personol wrth gymryd rhan yn y gyfres yw gwyrdroi ei ddiabetes Math 2 ar ôl addo i'w wraig, Pam, y byddai'n cael ei iechyd yn ôl ar y trywydd iawn.
'Teimlo fel rhagrithiwr'
Dywedodd: "Rwy'n gweithio gyda phobl diabetig yn aml ac rwy'n teimlo fel rhagrithiwr oherwydd mae'n rhaid i mi ddweud wrthyn nhw am golli pwysau tra fy mod i fy hun yn ddiabetig Math 2.
Mae Kevin yn arbenigo mewn cael gwared ar gerrig o'r arennau trwy ddefnyddio uwchsain, ac mae'n gweithio mewn nifer o ysbytai ledled y DU, gan gynnwys Ysbyty Gwynedd, Bangor ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
"Mae angen i gleifion bwyso dan 21 stôn i fod yn gymwys i gael triniaeth gyda'r offer rwy'n ei ddefnyddio er nad ydw i lawer o dan y trothwy fy hun, sef 20 stôn 5 pwys.
"Mae wedi bod yn fymryn o embaras ac efallai fy mod i wedi teimlo ychydig o gywilydd ers tro," meddai Kevin, sy'n wreiddiol o ardal Caernarfon ond yn byw yn Rhuthun.
"Mae gen i gleifion yn dod i mewn ac rwy'n gorfod gofyn iddyn nhw beth yw eu pwysau gan fod ein bwrdd pwyso ond yn ddiogel i ddal 21 stôn.
"Mae gen i gleifion yr un maint â fi ac roedd rhaid i mi ddweud wrthyn nhw fod angen iddyn nhw golli pwysau oherwydd diabetes. Roedd yn eithaf rhagrithiol."
Dywed Kevin, sy'n 53 oed ac yn dad i dri o blant, fod FFIT Cymru wedi gwneud gwahaniaeth yn barod.
"Mae lefel y siwgr yn fy ngwaed yn gostwng fel carreg," meddai.
"Ychydig ddyddiau i mewn a gallaf deimlo'r gwahaniaeth. Rwyf wedi cael cynllun bwyd ac mae'n anhygoel, mae'n fwyd iach iawn ac mae'n rhaid pwyso popeth ac mae'r dognau mawr wedi mynd.
"Erbyn hyn mae gen i gyfanswm calorïau ar gyfer pob pryd ond mae'r bwyd mor flasus."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Ei nod yw mynd i lawr i tua 15 stôn, ac mae o hefyd yn reidio saith milltir y dydd ar feic ymarfer yn ei gartref, ac yn gwneud 1,300 o gamau ar beiriant camu.
"Gall FFIT Cymru helpu i arwain pobl eraill ar draws Cymru i fod yn fwy heini a mwy iach er gwaethaf ynysu cymdeithasol oherwydd y feirws erchyll yma. Rydym yn wynebu cyfyngiadau cymdeithasol unigryw ond mae'n dal yn bosibl gwneud gwahaniaeth."
"Rwy'n cael cyfarfodydd Skype efo'r dietegydd, yr hyfforddwr ffitrwydd a seicolegydd ac, yn fy rôl fel 'arweinydd' FFIT Cymru, byddaf yn pasio'r help a'r wybodaeth honno ymlaen ar hyd y gyfres."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020