Seibiant cyflog i staff Cymdeithas Bêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
FAWFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn paratoi i roi eu staff ar y cynllun seibiant cyflog yn sgil argyfwng coronafeirws.

Mae adran chwaraeon BBC Cymru yn deall bod y gymdeithas yn edrych ar y mesur fel ffordd o "ddiogelu pêl-droed yn y wlad".

Mae'r gymdeithas yn fudiad di-elw, gyda'r holl arian maen nhw'n ei wneud yn cael ei fuddsoddi yn y gêm yng Nghymru.

Cafodd holl gemau rhyngwladol timau dynion a merched Cymru ar bob lefel oedran eu gohirio oherwydd y pandemig.

Fe wnaeth UEFA gadarnhau fis diwethaf bod pencampwriaeth Euro 2020 wedi cael ei gohirio am flwyddyn oherwydd yr argyfwng.