'Ysbryd cymunedol' Bangor yn help mewn cyfnod anodd

  • Cyhoeddwyd
Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Mair Rowlands bod "ysbryd cymunedol" ym Mangor

Ers i gyfyngiadau haint coronafeirws ddod i rym, mae cymunedau ar draws Cymru wedi bod yn dod at ei gilydd i helpu pobl fregus ac i hybu busnesau lleol.

Ry'n ni eisoes wedi clywed am ymdrechion yn ardaloedd Caernarfon, Dinbych a Machynlleth.

Yn enwog am ei stryd fawr ac yn adnabyddus fel Dinas Dysg - mae effaith y coronafeirws i'w weld ym mhob rhan o Fangor.

Gyda'r rhan helaeth o fyfyrwyr bellach wedi dychwelyd adref ac yn derbyn darlithoedd a seminarau ar-lein, mae 'na deimlad rhyfedd o wacter ar hyd strydoedd y ddinas.

Ond fel cannoedd o ardaloedd ar draws Cymru mae 'na dîm o bobl yn gweithio'n dawel i sicrhau fod y mwyafrif yn gallu aros yn eu tai a chadw'n ddiogel.

'Lot yn gwirfoddoli'

Un sydd wedi bod yn cynnig cymorth ydy'r Cynghorydd Mair Rowlands.

"Mae 'na wir ysbryd cymunedol yma ym Mangor," meddai.

"Mae 'na lot yn gwirfoddoli, a draw ym Maesgeirchen mae 'na brosiect sy'n darparu bwyd i'r henoed pob dydd Mawrth, ac mae 'na brosiect yn darparu bwyd poeth pob yn ail ddiwrnod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na deimlad rhyfedd o wacter ar hyd strydoedd Bangor

Ond tu hwnt i drigolion y ddinas mae 'na ddistawrwydd mwy llethol gyda nifer fawr o fyfyrwyr bellach adref.

Mae'r Cynghorydd Rowlands hefyd yn gyfarwyddwr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor.

"Mae'n amlwg fod lot o fyfyrwyr wedi gadael ond mae 'na lot dal yma a hefyd mae 'na griw wrthi'n gwirfoddoli i unrhyw un sydd angen," meddai.

Helpu'r gwasanaethau brys

Wrth i fusnesau'r ddinas geisio dod i'r arfer â'r drefn newydd, mae 'na rai gweithwyr yn dod i'r amlwg fel sêr yn eu cymuned.

Roedd Eleri Owen, sy'n wreiddiol o Dal-y-bont, Bangor wedi bod yn paratoi ar gyfer tymor prysur wrth iddi agor ei chaffi newydd, Caffi Clena.

Ond pythefnos ar ôl agor fe gafodd orchymyn i gau'r caffi gan Lywodraeth y DU.

"O fewn y pythefnos roedd 'na lot o sôn am lockdown," meddai.

"Fe wnaethon ni drio delivery service gan fod pobl yn nerfus am ddod allan, ond doedd hynny ddim yn financially viable i ni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eleri Owen yn dychwelyd i'w hen swydd gyda'r gwasanaeth ambiwlans

Wedi gorfod ymdopi â'r her o gau'r siop a'r goblygiadau ariannol, mae Eleri bellach wedi penderfynu dychwelyd i'w hen swydd, a hynny'n un amserol iawn.

"O'n i'n arfer gweithio yn y control centre gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn ateb galwadau 999," meddai.

"Mae 'na alwad mawr ar bobl i ddod yn ôl, a dwi'n teimlo bod hyn yn amser i mi fynd yn ôl tra bod gennai amser rhydd i helpu ac i godi straen oddi arnyn nhw."

'Gwaith caled iawn'

Bydd Eleri felly yn dechrau yn ôl yn ateb galwadau brys yr wythnos nesaf, ond roedd gwneud y penderfyniad yn un anodd iddi.

"Mae'n waith caled iawn ac o dan y sefyllfa yma 'di o ddim am fod yn job hawdd i'w neud," meddai.

"Mae gan bobl ofn, ac ar unrhyw symptomau mae pobl yn meddwl y gwaethaf, felly mae am fod yn waith caled."

Yng nghanol storm y feirws mae cymunedau i weld yn tynnu ynghyd ac yn dangos gwir ystyr ysbryd cymunedol - a hynny yn amlwg i'w weld ym Mangor.