Angen 'gweithredu brys' mewn cartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
Cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae pryder ac ofnau am yr hyn sy'n digwydd mewn cartrefi gofal," medd y comisiynydd

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dweud bod angen gweithredu ar frys er mwyn cefnogi pobl mewn cartrefi gofal.

Yn ôl Helena Herklots mae teuluoedd wedi cysylltu â hi yn dweud bod ganddyn nhw bryder am yr hyn sy'n mynd ymlaen.

Daw wrth i gadeirydd Fforwm Gofal Cymru ddweud bod angen i'r llywodraeth fod yn fwy agored ynglŷn â sefyllfa Covid-19 mewn cartrefi gofal.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod £40m ychwanegol wedi'i gyhoeddi er mwyn "cefnogi gwasanaethau gofal i oedolion gan gynnwys cartrefi gofal".

'Pryder ac ofnau'

Dywedodd Ms Herklots: "Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer ac mae pobl yn gweithio'n galed iawn, ond yr hyn dwi'n clywed gan bobl hyn a'u teuluoedd yw pryder ac ofnau am yr hyn sy'n digwydd mewn cartrefi gofal.

"Rhan o'r broblem yw bod pobl yn cael trafferth dod o hyd i wybodaeth am brofion ac offer diogelu personol.

"Mae'n bwysig iawn nawr bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu be' maen nhw'n ei wneud - a hefyd edrych ar y meysydd yna lle nad oes digon yn cael ei wneud - ac mae hynny yn cynnwys cynnal profion ar breswylwyr cartrefi a'r staff.

"Mae angen dod â phobl at ei gilydd ar frys er mwyn sicrhau nad yw'r sector gofal yn cael ei anghofio - mae 20,000 o bobl yn byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o gartrefi gofal yn dweud eu bod wedi cael trafferth yn cael gafael ar offer diogelwch personol

Yn ôl y comisiynydd fe ddylai'r llywodraeth gyflwyno'r mesurau canlynol:

  • Dosbarthu offer diogelu yn effeithiol i gartrefi gofal;

  • Darparu profion i breswylwyr sy'n dangos symptomau Covid-19;

  • Sicrhau bod gan breswylwyr fynediad at wasanaethau iechyd arferol;

  • Cefnogaeth i gartrefi gofal gan gynnwys cyngor a hyfforddiant mewn materion iechyd gan gynnwys mesurau rheoli haint;

  • Cynnal profion ar gyfer staff sy'n hunan ynysu;

  • Cyllido brys ar gyfer cwrdd â chostau staffio ychwanegol cartrefi gofal;

  • Casglu a chyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â lefelau salwch a marwolaethau mewn cartrefi gofal.

'Ddim yn ddigon da'

Fe ategwyd galwadau'r comisiynydd i gyhoeddi rhagor o ystadegau gan gadeirydd Fforwm Gofal Cymru.

Dywedodd Mario Kreft bod angen bod yn fwy agored ynglŷn â'r sefyllfa mewn cartrefi gofal.

Yn ôl Mr Kreft: "Dyw e ddim yn syndod bod cartrefi gofal yn teimlo eu bod wedi cael eu hanghofio - dyw hyn ddim yn ddigon da.

"Mae angen bod yn llawer mwy agored a gonest ynglŷn â'r ystadegau achos mae'n fater o bwys cyhoeddus."

Rhybuddiodd hefyd bod cartrefi gofal yn wynebu trafferthion ariannol wrth i gostau staffio gynyddu - a nifer y preswylwyr leihau, sydd wedi arwain at leihad sylweddol mewn incymau i fusnesau.

"Os nad yw'r llywodraeth yn cael gafael ar y sefyllfa yna fe allwn weld nifer fawr o gartrefi yn cau," meddai Mr Kreft.

Ffynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mario Kreft bod angen bod yn fwy agored ynglŷn â'r sefyllfa mewn cartrefi gofal

Mewn ymateb dywedodd llefarydd llywodraeth Cymru: "Yr wythnos hon mae'r gweinidog iechyd wedi cyhoeddi £40m ychwanegol er mwyn cefnogi gwasanaethau gofal i oedolion gan gynnwys cartrefi gofal.

"Ymhob rhan o Gymru, rydym yn cynnal profion ar breswylwyr a staff sydd yn dangos symptomau.

"Rydym wedi dosbarthu dros 10 miliwn eitem ychwanegol o offer diogelu ar gyfer staff iechyd a gofal rheng flaen, ac mae trefniadau yn eu lle i gartrefi gofal gael rhagor o offer diogelu gan eu hawdurdod lleol."

Fe ofynnwyd i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford am drafferthion cartrefi gofal yn ei gynhadledd newyddion dydd Gwener.

Dywedodd: "Rydym yn cydnabod y gwaith anhygoel sydd yn cael ei wneud gan weithwyr gofal a'u dewrder.

"Mae 'na ragor o brofion yn cael eu gwneud yn y sector gofal."

Mewn ymateb i sylwadau'r comisiynydd am brinder offer diogelu dywedodd Mr Drakeford : "Mae offer diogelu yn cael eu danfon ddwywaith yr wythnos i bob awdurdod lleol.

"Mae 40% o stoc pandemig Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddosbarthu i'r sector gofal felly dyw e ddim yn gywir i ddweud bod y sector gofal yn derbyn offer ar ôl i'r gwasanaeth iechyd gael y cynnig cyntaf."