Arestio dyn arall wedi ymosodiad yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ffordd HarrisFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad yn Nhredelerch, Caerdydd ddydd Llun Pasg

Mae pedwerydd dyn wedi ei arestio yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn 21 oed yng Nghaerdydd.

Cafodd y dyn 25 oed o'r Tyllgoed ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac mae'n cael ei holi gan yr heddlu.

Mae dau ddyn arall wedi eu rhyddhau tra bod ymholiadau'n parhau.

Mae person arall, 27 oed, gafodd ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod dyn 31 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi ei ryddhau tra bod ymholiadau'n parhau.

Machete a gwn saethu

Fe ymddangosodd Keiron Hassan, 31oed yn Llys Ynadon Caerdydd ac mae wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio. Mae'n parhau dan glo.

Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad am 15:25 ddydd Llun Pasg.

Cafodd y dioddefwr anafiadau y mae'r heddlu yn credu gafodd eu hachosi gan fachete a gwn saethu. Ar ôl cael llawdriniaeth mae'r dyn 21 oed wedi gadael yr ysbyty.

Mae'r heddlu yn parhau i ofyn i dystion neu rhai sydd â gwybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad i gysylltu â nhw.