Tiwtoriaid cerdd wedi'u gadael 'heb unrhyw gymorth'

  • Cyhoeddwyd
cerddorfa ifancFfynhonnell y llun, Cerdd Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerdd Gwent yn dysgu disgyblion mewn pedair sir yn ne-ddwyrain Cymru

Mae grŵp o athrawon cerddoriaeth yn dweud eu bod wedi'u gadael heb unman i droi wedi i gynnig i'w cyflogi yn ystod yr argyfwng coronafeirws gael ei dynnu'n ôl.

Roedd Cyngor Casnewydd wedi cynnig talu cyflogau athrawon Cerdd Gwent, ond fe dynnon nhw'r cynnig nôl wedi i Lywodraeth y DU gyhoeddi cynllun i gefnogi gweithwyr hunangyflogedig.

Ond, dydi rhai o athrawon Cerdd Gwent ddim yn gymwys ar gyfer cynllun y llywodraeth ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig.

Dywedodd Cyngor Casnewydd eu bod yn dilyn "cynllun cenedlaethol" i sicrhau tegwch i'r rheiny sy'n hunangyflogedig.

Roedd tua 90 o athrawon yn darparu gwersi i tua 14,000 o blant ar draws Casnewydd, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Thorfaen, ond maen nhw nawr yn dweud eu bod yn syrthio rhwng dwy stôl wedi i Gyngor Casnewydd gefni arnyn nhw.

'Gadael ar ôl'

Mae Hannah Jeans-Wells, sydd wedi bod yn athrawes ffidil ers 18 mlynedd, yn gweithio gyda Cerdd Gwent ond wedi bod yn hunangyflogedig ers mis Ionawr 2019.

Dywedodd nad yw hi'n gymwys ar gyfer cynllun y llywodraeth.

"Fe wnaeth rhai ohonom ni gymryd diswyddiad gwirfoddol mis Ionawr diwethaf, felly does gennym ni ddim y cyfrifon a'r manylion treth perthnasol," meddai.

"Mae'n teimlo fel ein bod yn cael ein gadael ar ôl heb unrhyw syniad am beth arall i'w wneud."

Ffynhonnell y llun, Hannah Jeans-Wells
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Jeans-Wells wedi bod yn athrawes ffidil ers 18 mlynedd

Dywedodd athrawes arall sy'n rhan o Cerdd Gwent, Niamh Aston, ei bod hi'n gymwys i hawlio trwy gynllun y llywodraeth ond ei bod wedi gorfod dechrau gweithio mewn archfarchnad i gefnogi ei hincwm.

"Fe wnaeth y cyngor addo edrych ar ein holau ni, dim ots os ydyn ni'n staff neu'n hunangyflogedig, fe fyddwn ni'n cael ein talu'n llawn," meddai.

"Ond nawr mae'r cyngor wedi golchi eu dwylo ohonom ni a dweud nad ydyn nhw am ein talu ni.

"Mae angen i'r cyngor sylweddoli bod hyn am achosi niwed sylweddol i fywydau pobl."

Ffynhonnell y llun, Hacker Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae Niamh Aston wedi dechrau gweithio mewn archfarchnad er mwyn cael mwy o arian

Ychwanegodd cadeirydd Ffrindiau Cerdd Gwent, Martin Davis, bod ganddo bryder am ddyfodol y sefydliad.

Dywedodd Cyngor Casnewydd bod argyfwng Covid-19 yn golygu "newid digynsail ac arolwg parhaus o'n gwaith."

Ychwanegodd llefarydd eu bod yn wreiddiol wedi cytuno i dalu tiwtoriaid hunangyflogedig Cerdd Gwent - gyda chyfanswm y gost honno'n dod i £25,000 yr wythnos - am nad oedd cyhoeddiad wedi bod am gymorth i weithwyr o'r fath gan y llywodraeth.

Ond dywedodd eu bod wedi newid eu polisi ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi'r cynllun cymorth i weithwyr hunangyflogedig, sy'n golygu bod cynllun cenedlaethol ar gael i'r tiwtoriaid hawlio arian.