Sut mae modd dysgu plant digartref mewn argyfwng?

  • Cyhoeddwyd
Person ifancFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen Llamau yn dysgu llythrennedd, rhifedd a sgiliau bywyd i'w disgyblion

Mae nifer o'r bobl ifanc sydd ar gyrsiau elusen digartrefedd Llamau yn dod o gefndiroedd anodd ac wedi methu ymdopi gyda'r ysgol.

Dydy pob un ddim yn ddigartref ond mae rhai wedi bod mewn trafferth gyda'r heddlu, wedi cael problemau iechyd meddwl neu wedi camddefnyddio sylweddau.

Mae cyrsiau addysg yr elusen i bobl ifanc 16 i 24 oed fel arfer yn cael eu cynnal mewn canolfannau ar draws Cymru ond rhaid dysgu o bell ers iddyn nhw gau o ganlyniad i'r pandemig.

O ystyried y rhwystrau sydd eisoes yn wynebu'r bobl ifanc yma, mae gwneud hynny yn "heriol tu hwnt".

Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n credu eu bod nhw'n gwerthfawrogi'r ffaith ein bod ni dal yma," meddai Anna Tuhey

Yn ôl un o'r tiwtoriaid, Anna Tuhey, y flaenoriaeth i ddechrau oedd sicrhau bod y bobl ifanc yn ddiogel, cyn gallu meddwl am ddechrau dysgu.

"Mae rhai ohonyn nhw'n dod o gartrefi eithaf chaotic," meddai. "Mae rhai ohonyn nhw'n byw mewn prosiectau i'r digartref.

"Fe fydd rhai ohonyn nhw'n rhannu ystafell gyda brodyr a chwiorydd neu efallai mewn prosiect ble mae yna lawer o bobl ifanc eraill yn mynd mewn a mas felly fyddai 'na ddim lle ganddyn nhw i weithio."

'Straen ar bawb'

Mae'r tiwtoriaid yn ceisio sicrhau bod gan bawb ffôn symudol y gallan nhw ei ddefnyddio a chredyd ar y ffôn.

Maen nhw'n cadw mewn cysylltiad gyda'r bobl ifanc drwy ffonio neu ddanfon negeseuon, a'r bwriad yw anfon pecyn gwaith drwy'r post bob mis.

"Mae hyn yn sefyllfa sy'n rhoi straen ar bawb ond i'n dysgwyr ni sydd eisoes â phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol, mae hyn wedi eu taflu nhw mewn i sbeiral am i lawr," meddai Ms Tuhey.

"Iddyn nhw mae hyd yn oed meddwl am godi o'r gwely yn y bore yn ormod."

Roedd un ferch 17 oed ac sy'n byw gyda theulu maeth yn ei chael yn anodd yn yr ysgol ac ar ôl dechrau cwrs coleg cafodd ei chyfeirio at ddarpariaeth 'Learning 4 Life' Llamau ac mae'n gwneud cynnydd da.

"Mae fy nhiwtoriaid yna i fi pan dwi angen cefnogaeth neu angen siarad gyda rhywun am fywyd," meddai.

Ar hyn o bryd mae'n llwyddo i wneud ei gwaith cwrs ond mae trafod manylion y gwaith a chadw trefn i'r diwrnod yn her achos effaith cyfyngiadau coronafeirws ar fywyd pob dydd.

"Mae e wedi effeithio ar bopeth fel fy mhatrwm cwsg, unrhyw gynlluniau allwn i wedi gwneud gyda fy nheulu… stwff sylfaenol fel 'na.

"Dros y ffôn, mae'n fwy anodd dweud pa dudalennau a pha gwestiwn dwi methu ateb."

Mae 'na 75 o bobl ifanc ar gyrsiau addysg yr elusen ar hyn o bryd, ac maen nhw'n amcangyfrif bod rhyw 80% yn parhau i gynnal y cysylltiad gyda'u tiwtoriaid, er bod yr elusen yn disgwyl i hynny ostwng dros amser.

"Er eu bod nhw'n amlwg yn ei chael hi'n anodd, rwy'n credu eu bod nhw'n gwerthfawrogi'r ffaith ein bod ni dal yma," meddai Ms Tuhey.

"Fyddan nhw ddim yn gwneud yr un faint o waith, ond rwy'n credu y gallan nhw weld na wnawn ni roi'r gorau iddi, ac rwy'n gobeithio na wnawn nhw roi'r gorau iddi chwaith. Rwy'n obeithiol am hynny."