Covid-19 'wedi bygwth dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol'

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod

Byddai wedi bod yn "anodd tu hwnt" i'r Eisteddfod Genedlaethol barhau y tu hwnt i'r pandemig coronafeirws heb gymorth gan Lywodraeth Cymru, yn ôl prif weithredwr yr ŵyl.

Dywedodd Betsan Moses na fyddai "newidiadau ysgubol" yn debygol o fod wedi bod yn ddigon i'w hachub yn sgil yr argyfwng presennol.

Fe wnaeth Ms Moses ei sylwadau ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod Llywodraeth Cymru wedi addo dros £800,000 i'w rannu rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ar ôl iddyn nhw orfod gohirio eu digwyddiadau eleni.

Dywedodd y llywodraeth fod yr arian ar gael ar gyfer y gwaith o gynllunio a pharatoi ar gyfer eu gwyliau yn 2021.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Betsan Moses na fydd pethau fyth yr un peth i wyliau poblogaidd Cymru wedi'r pandemig

Yn ôl Betsan Moses fe fu bwrdd yr Eisteddfod yn edrych ar gyflwyno newidiadau ysgubol i beth oedd eisteddfod, ac yn edrych ar werthu asedau.

Er hynny, dywedodd wrth raglen Newyddion S4C ei bod hi'n "amau a fyddai hynny wedi bod yn ddigon".

"Ro'n ni'n edrych ar oblygiadau ariannol anferthol. Chi'n sôn am filiynau o ran cytundebau. Ry'n ni wedi gorfod negydu a thrafod."

Teyrnged i weithwyr

Talodd deyrnged i gontractwyr sy'n gweithio gyda'r Eisteddfod o flwyddyn i flwyddyn gan ddweud fod eu gwaith nhw wedi diflannu dros nos.

Roedd gohirio yn hytrach na chanslo'r digwyddiad yn help o ran y trafodaethau hynny, meddai.

Ychwanegodd fod arian y llywodraeth yn galluogi'r corff i barhau i fasnachu am flwyddyn gan nad oedd modd hawlio yswiriant ar gyfer coronafeirws.

Disgrifiad o’r llun,

Pobl ifanc yn gadael Maes B wedi gorchymyn i wagio'r safle oherwydd y tywydd yn Llanrwst y llynedd

Mae'r Brifwyl wedi cael dwy flynedd anodd ar ôl gwneud colledion mawr yng Nghaerdydd yn 2018 ac yn Llanrwst y llynedd.

Roedd hynny, meddai Betsan Moses, wedi golygu eu bod nhw wedi troi at eu cronfeydd wrth gefn.

Diolchodd hefyd i'r Eisteddfodwyr oedd wedi archebu safle ar faes carafanau'r brifwyl eleni. Dim ond 12 sydd wedi gofyn am eu harian yn ôl.

Yn y cyfamser mae trefnwyr Eisteddfod Ryngwladol Llangollen hefyd wedi cadarnhau y byddan nhw'n cael arian ychwanegol gan y llywodraeth. Maen nhw eisoes wedi rhoi rhai o'u staff ar gyfnod o seibiant.

"Heb y cymorth fe fyddai wedi bod yn anodd iawn i ni gario 'mlaen hefo'r Eisteddfod," meddai'r cadeirydd Dr Rhys Davies.

"Do'n i ddim eisiau gorffen yr Eisteddfod ar ôl 70 mlynedd."

Mae'n rhagweld cyfnod o gydweithio rhwng prif wyliau Cymru.

"Mae'n rhaid gweithio gyda'n gilydd i rannu arbenigedd ac adnoddau," meddai. "Mae gwyliau fel hyn yn ddrud."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd trefnwyr Eisteddfod Llangollen wedi rhybuddio fod yr ŵyl yn wynebu cyfnod anodd cyn digwyddiad y llynedd

Dywedodd ei bod hi'n bosibl y byddai 'na rannu staff yn digwydd rhwng y gwyliau yn y dyfodol, ac y byddai Llangollen yn edrych i benodi prif weithredwr dros yr haf.

Mae Betsan Moses yn cytuno y bydd yna fwy o gydweithio a rhannu adnoddau yn y dyfodol.

"Mae hyn wedi gorfodi pob busnes, pob gŵyl i edrych ar fel maen nhw'n cynllunio ac i ystyried beth allan nhw ei wneud yn ddigidol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Elin Jones/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020, cyn ddaeth y newyddion am ei gohirio

Tra'n ddiolchgar am y gefnogaeth ac yn edrych ymlaen at Dregaron y flwyddyn nesaf, mae hi hefyd yn poeni am effaith hir dymor coronafeirws.

"Mae 'na gwestiwn beth fydd yn digwydd i'n noddwyr. Faint ohonyn nhw fydd yn goroesi?

"Mae incwm artistiaid wedi diflannu dros nos. Mae 'na gyfrifoldeb arnom ni i gyd i gynorthwyo ein gilydd."

'Llwyfannau gwych'

Wrth gyhoeddi'r cymorth ariannol dywedodd Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, fod y ddwy ŵyl yn "ganolog yng nghalendr Cymru" ac yn "darparu llwyfannau gwych i hysbysebu ein celf a'n diwylliant".

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r trefnwyr i'w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn ac i'w cynorthwyo i adeiladu dyfodol cynaliadwy," meddai.

"Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ei ffurf bresennol wedi bod yn cynnal yr ŵyl am dros ganrif.

"Mewn amseroedd anodd fel hyn mae'n bwysig i gydnabod a darparu treftadaeth ddiwylliannol gref i genedlaethau'r dyfodol, ynghyd â magu a darparu llwyfan i artistiaid Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol, ac i gefnogi gwaith celf a llenyddiaeth newydd."