'Dwi wedi bod i'r banc bwyd am y tro cyntaf erioed...'

  • Cyhoeddwyd
banciau bwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Banc Bwyd Arfon wedi bod yn eithriadol o brysur ers y cyfyngiadau

Bydd miloedd o deuluoedd ar hyd Cymru yn derbyn pecyn tâl llai na'r arfer heddiw wrth i'r newidiadau economaidd yn dilyn y pandemig coronafeirws daro eu pocedi.

I lawer ar incwm isel, dyw gwario 100% o'u hincwm misol i gael dau pen llinyn ynghyd ddim yn anarferol, ond mae nifer o'r teuluoedd hyn nawr yn gweld yr incwm yna yn llawer is.

Yn ôl un amcangyfrif mae'r nifer sy'n hawlio credyd cynhwysol naw gwaith yn uwch nag y mae'n arfer bod.

Un canlyniad yw fod Banc Bwyd Arfon yn dweud fod 60% yn fwy o alw am eu gwasanaeth o'i gymharu â mis yn ôl.

Yn ogystal mae miloedd o weithwyr wedi gorfod derbyn saib cyflog, gyda'r rhan fwyaf yn derbyn tua 80% o'u hincwm blaenorol ac felly yn anoddach fyth i ymdopi.

Un sydd wedi gweld newid mawr dros y mis diwethaf yw Helen Millington sy'n byw yng Nghaernarfon gyda'i phartner Gwyn a'u dwy ferch.

Disgrifiad o’r llun,

Helen Millington: 'Straen mawr'

Mae Helen yn dweud fod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn "anodd ofnadwy" iddyn nhw fel teulu.

"Dwi ar gyflog isel ac mae Gwyn yn self-employed ac mae o wedi colli ei waith ers dechrau mis Mawrth.

"'Da ni yn byw ar un cyflog, mae'n anodd ofnadwy arno ni.

"'Da ni wedi rhoi cais am Universal Credit sy'n cymryd pump wythnos, sy'n straen mawr arno ni.

"'Dwi ddim yn gwybod sut maen nhw yn disgwyl i bobl neud pum wythnos heb help ariannol."

Mae Helen yn disgrifio'r newid ariannol i'r teulu fel "sioc ofnadwy".

"'Dwi wedi bod i'r banc bwyd am y tro cyntaf erioed yn Cibyn yng Nghaernarfon. Trist ofnadwy, ond na fo. O ni yn gorfod mynd yno i gael bwyd i'r teulu," meddai.

"Nes i grio yr holl ffordd adra ar ôl bod yno. O ni yn teimlo bod fi yn gweithio a bod hi wedi dod i hyn. Mae o wedi effeithio arno ni yn ariannol ond hefyd yn feddyliol hefyd.

"'Dwi ddim yn gweld Gwyn yn mynd nôl i gwaith tan flwyddyn nesaf, tan gwanwyn nesaf yn iawn. Mae o am fod yn gyfnod hir".

Yn ôl Arwel Jones sy'n gyfrifol am Banc Bwyd Arfon, maen nhw wedi gweld cynnydd mawr yn y nifer sy'n mynd atynt am gymorth dros yr wythnosau diwethaf.

Mae 'na newid hefyd wedi bod yn natur y galw am eu cymorth.

"Y mwyafrif llethol o bobl wedi bod yn pwyso arno ni yn y gorffennol yn bobl sydd o fewn y system fudd-daliadau.

"Ond ni wedi gweld newid yn y galw, o ran pobl hŷn yn methu dygymod.

"Ni hefyd wedi gweld galw arwyddocaol gan bobl sydd newydd golli gwaith ac yn y cyfnod yna lle dydyn nhw methu cael eu budd-daliadau eto, ac yn stryglo go iawn yn y cyfnod tymor byr yna."