Beirniadu'r llywodraeth am 'dorri addewidion' ar beiriannau anadlu
- Cyhoeddwyd
Mae gwrthbleidiau yn dweud ei bod hi'n "frawychus" bod Llywodraeth Cymru wedi "torri addewidion" ar gannoedd o beiriannau anadlu coll.
Ar 6 Ebrill dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod 1,035 o'r peiriannau wedi'u prynu trwy drefniadau'r DU.
Ond mewn ateb ysgrifenedig i'r Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Mr Gething mai dim ond 171 o beiriannau anadlu sydd wedi'u dosbarthu i fyrddau iechyd yng Nghymru a bod 60 wrth gefn.
Dywedodd Mr Gething ddydd Mawrth fod "gennym ni ddigon ac rydyn ni'n mynd i gael digon".
'Brawychus'
Dywedodd Suzy Davies, AC Ceidwadol Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Ble mae ein 700 o beiriannau anadlu sydd ar goll? Mae'n lwcus i Lywodraeth Cymru nad oedd angen y peiriannau hyn hyd yma, ond gallai fod wedi bod yn stori hollol wahanol.
"Mae'n frawychus hefyd ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi anghofio'r offer hanfodol hwn ac, yn ôl gweinidog iechyd Llywodraeth Cymru, dydyn nhw ddim yn cadw golwg ar pryd ac i le mae'r peiriannau y maen nhw'n disgwyl yn mynd.
"Mae'n anodd credu... bod hyn wedi cael ei ganiatáu."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Mae'r torri addewidion gan San Steffan a methiant Llywodraeth Cymru i fynnu gwell i Gymru wedi ein gadael ni'n fyr unwaith eto.
"Mae Cymru angen pob darn o offer achub bywyd a addawyd inni er mwyn bod yn hollol barod [am ail don].
"Rhaid i Lywodraethau'r DU a Chymru esbonio'r gagendor rhwng addewid a chyflawniad ar unwaith."
Mewn ymateb, dywedodd Mr Gething nad oedd y niferoedd yn gyfredol ond pwysleisiodd fod digon o beiriannau anadlu am y tro a bod mwy ar y ffordd.
Ychwanegodd y bydd "y 1,000 gyfan" ar gael.
Agor dwy ganolfan brofi
Yng nghynhadledd ddyddiol y llywodraeth ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething y bydd canolfan brofi gyrru-drwyddo yn agor yn Llandudno ddydd Mercher er mwyn profi gweithwyr allweddol yn y gogledd sydd â symptomau Covid-19.
Dywedodd y bydd staff y GIG, y gwasanaethau brys a chartrefi gofal yn cael eu profi yno.
"Fe fyddan nhw'n gallu cael apwyntiad i yrru i'r safle a chael prawf heb adael eu cerbydau," meddai.
Ychwanegodd y bydd canolfan debyg yn cael ei hagor ar faes y sioe yng Nghaerfyrddin ddydd Iau, a'u bod yn parhau i geisio cynyddu nifer y profion yng Ngheredigion, Sir Benfro a Phowys.
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 28 Ebrill
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Dywedodd Mr Gething bod modd cynnal dros 2,000 o brofion y diwrnod yng Nghymru bellach.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud yn wreiddiol eu bod yn gobeithio gallu cynnal 5,000 o brofion y dydd erbyn canol Ebrill, cyn cefnu ar y targed hwnnw.
Ychwanegodd y bydd modd i weithwyr allweddol archebu lle ar-lein i gael prawf yng Nghaerdydd a Chasnewydd o ddydd Iau ymlaen.
Bydd system debyg yn cael ei gyflwyno yn y gogledd a'r gorllewin cyn hir, meddai, a bydd profion gartref yn cael eu darparu ar ôl hynny.
GIG 'ar agor i anghenion gofal brys'
Dywedodd hefyd bod "marwolaethau roedd modd eu hosgoi" wedi digwydd yng Nghymru am nad yw pobl yn adrodd pan fo ganddyn nhw anghenion gofal brys.
Dywedodd nad yw'r GIG yn gweld cymaint o ataliadau ar y galon neu strociau â'r arfer.
Pwysleisiodd y gweinidog iechyd bod y gwasanaeth iechyd ar agor i "anghenion gofal brys".
Dywedodd ei fod yn bryderus bod pobl ddim yn galw am gymorth yn ddigon cynnar, o bosib am fod ganddyn nhw bryder mynd i ysbytai.
Yn y cyfamser mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau 17 marwolaeth arall o ganlyniad i coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm i 813.
Cafodd 232 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd, gan olygu bod 9,512 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 yng Nghymru.
Ond dydy'r ffigyrau hynny ddim yn cynnwys 31 marwolaeth ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda ddaeth i'r amlwg ddydd Mawrth oedd heb gael eu hadrodd yn gywir Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2020