'Aros am uchafbwynt ym mhobman cyn codi cyfyngiadau'

  • Cyhoeddwyd
Plismona cyfnod cyfyngiadauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n hanfodol bod cyfyngiadau ar adael gartref yn parhau nes bod coronafeirws wedi cyrraedd ei uchafbwynt ymhob ardal - dyna'r alwad gan awdurdodau yng ngorllewin Cymru.

Fe ddywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn paratoi i gyrraedd copa yn hwyrach na gweddill Cymru.

Yr wythnos yma, fe gafodd ysbytai dros dro Aberystwyth eu trosglwyddo i ddwylo Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Yn ôl y bwrdd iechyd, mae'n rhaid bod yn ofalus wrth ystyried effaith unrhyw newidiadau ar ardaloedd fel Ceredigion.

Ffigyrau anghyson

Daeth i'r amlwg ddydd Mawrth bod ffigyrau marwolaethau Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn anghyson, a bod 31 o farwolaethau yn ychwanegol wedi bod yno yn sgil Covid-19.

Cyfanswm o bump oedd yn cael ei adrodd cyn hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwersi wedi'u dysgu a phrosesau wedi'u haddasu, medd Dr Sion James

"Mae'n siomedig bod y ffigyrau yn anghywir a bod hyn wedi digwydd," meddai Dr Sion James, dirprwy gyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

"Ni wedi dysgu gwersi ac addasu'r prosesau ar gyfer y dyfodol.

"Ond, mae'n bwysig hefyd i ni gofio bod y gofal i bob claf wedi bod yn arbennig, a dim ond adrodd y ffigyrau sydd wedi bod yn anghywir.

"Dyw'r teuluoedd heb gael y wybodaeth anghywir."

Disgrifiad o’r llun,

Un o wardiau Ysbyty Enfys Aberystwyth yng Nghanolfan Hamdden Plascrug

Mewn llai na thair wythnos, mae canolfannau hamdden ac ysgolion Ceredigion wedi eu trawsnewid yn ysbytai arbenigol dros dro.

Yr wythnos hon, fe gafodd Ysbyty Enfys Aberystwyth, sef Ysgol Penweddig a Chanolfan Hamdden Plascrug, eu trosglwyddo i'r bwrdd iechyd.

Mae system wresogi'r pwll nofio wedi ei addasu, gyda phibellau o'r pwll i'r gampfa er mwyn gwresogi wardiau'r ysbyty dros dro.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi creu 103 o welyau ychwanegol yn Aberystwyth, gyda'r capasiti ar draws yr awdurdod wedi mwy na dyblu.

Ar hyn o bryd, mae nifer y bobl sydd wedi dal y feirws yng Ngheredigion yn drawiadol o isel.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysbytai maes yn galluogi'r prif ysbytai i ganolbwyntio ar y cleifion mwyaf sâl

'Ail a thrydydd copa?'

Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 35 o bobl Ceredigion wedi profi'n bositif am coronafeirws hyd yn hyn - y nifer lleiaf o bob awdurdod lleol yng Nghymru.

I arweinydd Cyngor Ceredigion, mae'n hanfodol bod penderfyniadau o ran llacio'r cyfyngiadau yn cael eu gwneud yn seiliedig ar bob ardal.

Fe ddywedodd Ellen ap Gwynn: "Mae'n edrych ar hyn o bryd fel bod y ddarpariaeth trwy'r ysbytai Enfys, ddim eu hangen. Ond pwy a ŵyr? Dydy hynny ddim i ddweud na ddaw ail a thrydydd copa.

"Mae'n bwysig iawn bod pwy bynnag sy'n penderfynu llacio'r rheolau yn aros nes bod y copa wedi cyrraedd pob rhan o Gymru, a Phrydain gyfan i ddweud y gwir."