Teclynnau a wifi 4G i blant heb gyswllt y we adref

  • Cyhoeddwyd
bachgen gyda chliniadurFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid pob plentyn sydd â'r teclynnau neu gyswllt we digon cryf i allu gweithio'n effeithiol o adref

Bydd disgyblion yng Nghymru sydd heb declynnau i fynd ar y we o adref yn cael gliniaduron a wifi symudol 4G dan gynllun newydd gwerth £3m.

Dywedodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams mai'r bwriad oedd cynorthwyo'r rheiny sydd "dan anfantais digidol" yn ystod y pandemig coronafeirws.

Fe fydd cynghorau'n cael defnyddio'r arian i ddarparu teclynnau fel gliniaduron a thabledi i ddisgyblion.

Ond mae pennaeth un ysgol gynradd yn Sir Conwy wedi rhybuddio y bydd rhai disgyblion yn parhau i fod dan anfantais, ac mai gwella isadeiledd band eang yng nghefn gwlad yw'r ateb parhaol.

'Ddim am helpu pawb'

Gyda'r rhan fwyaf o blant bellach yn gorfod parhau â'u haddysg adref oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws, mae llawer o ysgolion wedi troi at ddefnyddio adnoddau ar-lein.

Ond heb declynnau priodol neu gyswllt dibynadwy i'r we mae'n anodd i rai plant gymryd rhan mewn llawer o'r gweithgareddau ac ymarferion.

"O ran ni fel ysgol 'dan ni'n anfon y gwaith ysgol drwy Hwb, ond wrth gwrs dim pawb sydd efo'r cyswllt yna i dderbyn gwybodaeth drwy'r we," meddai Eirlys Edwards, pennaeth Ysgol Cerrigydrudion.

"Mae [Cyngor Sir] Conwy ar hyn o bryd yn casglu gwybodaeth ar faint o blant sydd heb fynediad i ddyfais gyfrifiadurol a faint o blant sydd heb gyswllt rhyngrwyd... a gobeithio wedyn sefydlu cynllun lle allwn ni logi Chromebooks ac yn y blaen i rieni sydd heb ddyfais, a dongle i gael cyswllt rhyngrwyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae staff Ysgol Cerrigydrudion yn gollwng gwaith ar stepen ddrws rhai disgyblion sydd methu ei gyrraedd dros y we

"Ond dydy hynny ddim am helpu pawb chwaith, achos os does gen ti ddim rhyngrwyd y tebygrwydd ydy 'sgen ti ddim 4G chwaith."

Mae plant Trystan Edwards yn mynychu Ysgol Cerrigydrudion, ond gan eu bod yn byw mewn ardal fwy gwledig fyth i gyfeiriad Llyn Brenig, mae'r cyswllt we yn broblem ddyddiol.

"Dwi'n crafu mynd efo'r e-byst gwaith fel mae hi, sy'n golygu bod rhannu'r bandwidth yn arafu pethau eto os oes angen cael gwaith y plant arno hefyd," meddai.

"Mae'n cymryd amser hir i downloadio lluniau, dogfennau, ymarferion ac yn y blaen... 'dan ni methu mynd ar y platfform, dim ond llwytho pethau lawr dros gyfnod o amser."

'Cymorth cyn gynted â phosib'

Yn ôl Eirlys Edwards, dylai'r llywodraeth ystyried blaenoriaethu'r plant hyn a gadael iddyn nhw ddychwelyd i'r ysgol yn gyntaf pan fyddan nhw'n dechrau ailagor yn rhannol.

"Falle bod ni'n ystyried y plant yna sydd ddim 'di bod efo'r cyswllt rhyngrwyd, ystyried nhw fel cohort pwysig i gael mynediad 'nôl i'r ysgol mor fuan â phosib," meddai.

Cytuno â hynny mae Trystan Edwards.

"Faswn i byth yn ystyried ein plant ni o flaen plant pobl sy'n y front line," meddai. "Ond os oes 'na grid o flaenoriaethu, hwyrach y dylai'r rheiny sydd efo diffyg unrhyw fath o gyswllt fod yna'n rhywle."

Am y tro mae ei blant yn derbyn eu gwaith dros e-bost, ond dywedodd Mr Edwards fod y sefyllfa wedi amlygu problem sydd angen i'r llywodraeth ei datrys maes o law.

"Yn y tymor canolig, mae angen gwella'r ddarpariaeth ffibr i'r ardal yma... allwn ni ddim jyst copio efo'r systemau rŵan," meddai.

Bydd y dyfeisiau fydd yn cael eu haddasu ar gyfer y disgyblion dan gynllun Llywodraeth Cymru'n cynnwys teclynnau fel gliniaduron a thabledi i'r rheiny sy'n brin o offer, a chysylltedd MiFi 4G i'r rheiny heb fand eang.

Dywedodd Kirsty Williams mai'r flaenoriaeth oedd sicrhau bod y rhai sydd heb y dechnoleg ddiweddaraf ddim yn cael eu gadael ar ôl.

"Drwy addasu offer ysgol, byddwn ni'n sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt cyn gynted ag sy'n bosibl," meddai.

"Bydd y cyllid hwn yn sicrhau na fydd diffyg gliniadur neu fand eang yn rhwystr mwyach i ddysgu.

"Bydd y cyllid yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi teuluoedd, gan sicrhau bod eu plant yn parhau ar eu siwrnai addysg, lle bynnag y maen nhw'n dysgu."