Hufen iâ am ddim gan gwmni i Fôn i weithwyr hanfodol

  • Cyhoeddwyd
Hufen IaFfynhonnell y llun, Red Boat

Mae cwmni o Fôn yn dweud eu bod eisiau rhoi gwên ar wynebau gweithwyr iechyd a gofal drwy gynnig hufen iâ iddyn nhw am ddim yn ystod y pandemig coronafeirws.

Dywedodd perchennog cwmni hufen iâ Red Boat Ice Cream, Tony Green, fod eu cynnyrch, oedd wedi ei baratoi ar gyfer ymwelwyr y gwanwyn, yn mynd yn wastraff yn eu rhewgelloedd.

Yn hytrach na gwastraffu'r cynnyrch, penderfynodd y cwmni mai'r peth gorau fyddai dosbarthu'r hufen iâ i weithwyr allweddol ar draws gogledd Cymru.

"Fe ddechreuon ni gyda'r ysbytai a'r cartrefi gofal i ddechrau, ac yna dechrau meddwl am yr hosbisau lleol. Roedd fy mrawd mawr wedi treulio cyfnod mewn hosbis ac roeddwn yn teimlo fy mod am helpu mewn unrhyw ffordd posib.

"Fe wnes i gyhoeddi neges ar ein tudalen Facebook am ddosbarthu hufen iâ am ddim ac fe dyfodd fel caseg eira o'r pwynt yna. Mae wedi bod yn anhygoel," meddai.

Ffynhonnell y llun, Tony Green
Disgrifiad o’r llun,

Tony Green yn dosbarthu'r hufen iâ i gartref gofal

Mae Mr Green a'i wraig Lyn wedi bod yn dosbarthu eu cynnyrch yn eu fan rewgell.

Maen nhw hefyd wedi rhoi hufen iâ am ddim i un o ganolfannau'r heddlu ar Ynys Môn.

"Dyma'n ffordd ni o ddiolch i'r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau gofal iechyd yng ngogledd Cymru." Medd Mr Green, "Ry'n ni eisiau gwasgaru ychydig o hapusrwydd drwy ein cymuned i'r holl unigolion hynny sy'n gweithio'n galed, gan wneud i bobl deimlo'n well a rhoi rhywbeth bach iddyn nhw ei fwynhau yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Ffynhonnell y llun, Red Boat
Disgrifiad o’r llun,

Tony a Lyn Green

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths:

"Mae pandemig Covid-19 wedi creu heriau sylweddol i'n diwydiant bwyd a diod. Mae'r sefyllfa nid yn unig wedi effeithio ar ein bywydau bob dydd ond ar sectorau hanfodol sydd yn greiddiol i'n heconomi.

"Mae'n hyfryd gweld cwmnïau fel cwmni hufen iâ Red Boat yn cefnogi ein cymunedau drwy gynnig eu cynnyrch wrth gefn i weithwyr iechyd a chleifion yn ystod y cyfnod heriol hwn".