Profiad fferyllydd o Geredigion o haint coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Delyth a GeraintFfynhonnell y llun, Geraint Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Delyth a Geraint Morgan bellach wedi gwella o haint coronafeirws

Fis wedi iddo gael haint coronafeirws dywed y fferyllydd Geraint Morgan o Fwlch-llan yng Ngheredigion ei fod yn haint dyrys.

"Does neb yn gwybod ei hyd a'i led e a ddim yn gwybod chwaith sut mae'n mynd i effeithio arnoch chi," meddai Geraint sy'n gweithio yn rhannol yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac yn Nhregaron.

Dechreuodd Geraint deimlo'n sâl ar ddydd Gwener 3 Ebrill, ac wythnos wedyn cadarnhaodd prawf ei fod wedi cael yr haint. Ymhen rhai dyddiau roedd ei wraig hefyd yn sâl.

"Doedd y prawf ddim yn sioc - yn enwedig wedi i fi gael y peswch sych 'na," meddai Geraint wrth siarad â Cymru Fyw, "ond be oedd yn taro fi yw pa mor ddyrys yw e, doeddwn i ddim yn siŵr beth i ddisgwyl nesaf ac ro'dd symptomau fy ngwraig Delyth yn wahanol eto.

"Peswch sych o'dd 'da fi'n bennaf, bach o ben tost ac erbyn diwedd yr wythnos ro'dd e bach fel annwyd.

Ffynhonnell y llun, John Lucas/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae fy ngwaith yn Ysbyty Bronglais wedi lleihau am y tro, medd Geraint Morgan

"Mewn amgylchiadau arferol fydden i ddim wedi cymryd amser bant o'r gwaith - do'n i ddim yn ddigon drwg i hynny ac yn ystod yr amser fues i bant fues i'n paentio tŷ mam.

"Wi'n prysuro i 'weud bod mam wedi symud at fy chwaer yn Llangeitho yn ystod y cyfnod clo - a wedyn er mwyn bod bant o bobl eraill symudais i dŷ mam ac ro'dd y teulu yn gadael bwyd tu fas y drws."

"Yr hyn oedd yn anodd gwybod," ychwanegodd Geraint, "oedd beth oedd yn mynd i ddigwydd nesaf.

"Gydag annwyd neu ffliw chi'n gwybod beth yw beth ond gyda hwn ro'n i'n meddwl o hyd falle bod gwaeth i ddod.

"Ches i ddim gwres, diolch byth, ac er bod sôn yn Nhregaron bo fi mewn uned gofal dwys fues i'm yn sâl iawn o gwbl.

"Fe fuodd Delyth yn salach - tipyn o broblemau stumog ganddi hi ond mae'n dda dweud bod y ddau ohonom bellach yn iawn ac ynghanol straeon trist am niferoedd yn marw mae'n bwysig nodi bod miloedd yn fwy yn gwella.

"Yn digwydd bod mae fy mrawd yn Chesterfield wedi'i gael hefyd a mae e hefyd yn well erbyn hyn."

'Paratoadau'r llywodraeth yn dda'

Wrth gael ei holi am ei waith dywedodd Geraint Morgan, sydd bellach yn fferyllydd rhan amser, ei fod wedi bod yn brysur iawn wrth ei waith yn Nhregaron gan fod angen sicrhau digon o stoc i gwrdd â gofynion presgripsiynau'r gymuned ond ym Mronglais mae'r gwaith wedi bod yn ysgafnach gan bod llai o gleifion a dim llawdriniaethau.

"Rown yn arfer bod yn rhan o grŵp ar draws Cymru oedd yn trafod pandemics a dwi wir yn meddwl bod y llywodraethau wedi paratoi yn dda ar gyfer hwn," ychwanegodd Mr Morgan.

"Ma'n rhaid i chi feddwl fod yna ganrif ers y pandemig diwethaf - ac o ystyried yr amser maith, chi ddim yn gwybod pryd i ddisgwyl yr un nesaf - os o gwbl.

"Mae pob pandemig yn wahanol a rhaid dwyn i gof wrth gwrs mai wedi'r ail don y bu farw llawer yn 1918.

"Rhaid cofio hefyd, o'i gael unwaith, bod hi'n bosib ei gael eto mae'n debyg.

"Ydi mae'n amhosib gwybod yn iawn ei hyd a'i led, mae'n bandemig newydd ac yn effeithio pobl mewn ffyrdd gwahanol ar wahanol gyfnodau. Mae popeth amdano yn eitha 'dyrys' - ond gobeithio ein bod ni wedi gweld y gwaethaf."