Cynllun profi 'yn hanfodol' cyn llacio cyfyngiadau
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud y bydd cynllun i ddechrau profi, olrhain a dilyn achosion coronafeirws yn helpu'r wlad "i ddychwelyd i normal mor fuan â phosib".
Dywedodd Vaughan Gething bod modd profi 5,000 o bobl y dydd yn barod, ac y bydd hynny'n cynyddu i hyd at 20,000 maes o law.
Yn gynharach ddydd Mercher fe wnaeth Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton awgrymu y byddai'r cynllun yn weithredol erbyn diwedd Mai.
Mae'r gwrthbleidiau'n dweud fod rhaid cael cynllun credadwy i brofi, olrhain a dilyn coronafeirws er mwyn codi'r cyfyngiadau yng Nghymru.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod dim "gobaith na gweledigaeth" i adael y cyfyngiadau, a dywedodd Plaid Cymru ei bod "yn hen bryd" cael cynlluniau.
'Her anferthol'
Dywedodd Mr Gething y byddai 1,000 o staff yn cael eu recriwtio o awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn cynorthwyo.
Bydd y cynllun yn cynnwys:
Mwy o brofion i weithwyr allweddol er mwyn sicrhau bod modd iddyn nhw ddychwelyd i'r gwaith;
System o brofion cartref i'r cyhoedd os oes ganddyn nhw symptomau coronafeirws;
Ap newydd i gofnodi symptomau a chysylltu ag eraill allai fod â symptomau neu fod wedi cael prawf positif.
Dywedodd Mr Gething y byddai'r profion ychwanegol yn gam tuag at ddychwelyd i sut oedd pethau cyn y cyfyngiadau.
"Bydd ein strategaeth Profi, Canfod, Amddiffyn yn allweddol wrth ein helpu ni i wneud hynny wrth alluogi ni i ddod o hyd i bobl â symptomau coronafeirws yn sydyn; canfod unrhyw ardal ble mae cynnydd, ac ynysu cymaint o bobl sydd wedi dod i gyswllt â phosib."
Ychwanegodd: "Y cyhoedd fydd ein prif bartneriaid yn hyn.
"Os ydyn nhw'n barod i adrodd eu symptomau, datgelu pwy maen nhw wedi bod mewn cyswllt â nhw, a dilyn y cyngor i hunan ynysu os oes ganddyn nhw symptomau, byddwn wedyn yn gallu rheoli ymlediad yr haint."
Mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales, dywedodd Dr Atherton eu bod yn "gweithio'n gyflym... i ddatblygu cynllun ar gyfer cyfnod dechrau codi'r cyfyngiadau ac olrhain achosion a chysylltiadau mewn ffordd lawer fwy systematig".
"Wrth i'r niferoedd ostwng, fel y maen nhw wedi gostwng oherwydd ymdrechion pobl Cymru, mae'n bosib i adnabod achosion unigol a dechrau dilyn cysylltiadau'r achosion hynny," meddai.
"Dyna ble rydym yn gobeithio ei gyrraedd erbyn diwedd y mis."
Ychwanegodd Dr Atherton fod creu system olrhain a dilyn yn her yr un mor anferthol â sefydlu Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality Caerdydd.
Mae angen mynd i'r afael â nifer o ffactorau, meddai, gan gynnwys materion technolegol "oherwydd bydd angen pecynnau digidol i gefnogi'r gwaith yma".
Profion dyddiol
Fe wnaeth un adroddiad awgrymu y byddai angen 30,000 o brofion y dydd, ond mae gweinidogion yn credu y bydd angen llawer llai na hynny.
Ers i'r cyfryngau gael eu dwylo ar adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru, maen nhw wedi dweud bod y dadansoddiad diweddara'n awgrymu y byddai angen rhwng 7,500-17,000 o brofion dyddiol, ond mai 10,000 fyddai'r "angen realistig".
Ar 21 Mawrth dywedodd Mr Gething bod ICC yn anelu at gael 9,000 prawf ar gael erbyn diwedd Ebrill, ond dywedodd prif weithredwr ICC yr wythnos ddiwethaf nad oedd "yn gyfarwydd" gyda'r nod yna a gafodd ei ddileu yn ddiweddarach.
Dros y penwythnos dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Ar hyn o bryd ry'n ni'n profi gweithwyr hanfodol, pobl mewn cartrefi gofal, pobl mewn ysbytai ac fe fyddwn ni'n troi at brofion yn y gymuned... byddwn yn defnyddio'r tair wythnos nesaf i sefydlu'r drefn yna."
Cyn y cyhoeddiad ddydd Mercher, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Angela Burns bod gweinidogion Llafur yn "ofni llacio" cyfyngiadau am eu bod yn "methu cyrraedd unlle'n agos i'r lefel o brofi sydd angen".
"Ry'n ni'n dal ond yn profi tua 1,200 o bobl y dydd er ein bod ni wedi cael saith wythnos i gael y lefel at lle y mae angen bod," meddai.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru rhoi gobaith i bobl Cymru a gweledigaeth am sut y byddwn yn llacio'r cyfnod cloi, ond ar hyn o bryd doedd fawr ddim arwydd o hynny."
Rhun ap Iorwerth yw llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, a dywedodd y dylai cynllun ôl-amserol Llywodraeth Cymru gynnwys "nid yn unig cynnydd sylweddol yn y capasiti profi - o leiaf dyblu yn y tymor byr - ond cynllun clir i brosesu olrhain a dilyn".
Ychwanegodd y dylai'r ffocws fod ar "sefydlu systemau ar lawr gwlad yng Nghymru gan weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i greu systemau cadarn".
"Fedrwn ni ddim hyd yn oed dechrau codi'r cyfyngiadau yng Nghymru heb gael cynlluniau profi, olrhain a dilyn y gallwn ni ymddiried ynddyn nhw," meddai.
Dywedodd Caroline Jones o Blaid Brexit bod angen mwy o brofion, ac y dylai rheini fod ar "drawstoriad llawer ehangach o gymdeithas".
"Er ei bod yn hollbwysig profi gweithwyr hanfodol," meddai, "dylai Llywodraeth Cymru hefyd ganiatáu profion i bobl sydd gyda symptomau i gael profion hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd4 Mai 2020
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020