Poeni am golli'r tŷ a chael amser efo'r plant: dwy ochr hunan-ynysu

  • Cyhoeddwyd
Karen a'r plantFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Wythnos cyn i'r llywodraeth osod cyfyngiadau i aros gartref, roedd Karen MacIntyre Huws a'i theulu yn barod wedi penderfynu hunan-ynysu - ac wedi cadw dyddiadur i Cymru Fyw. Mae hi a'i gŵr Mei yn cadw busnes Gwely a Brecwast a Karen yn y categori risg uwch am ei bod yn dioddef o diabetes.

Naw wythnos yn ddiweddarach, mae hi'n sgwennu unwaith eto yn onest am ei phrofiad a'i theimladau, ac am yr heriau sy'n eu wynebu nhw unwaith fydd y cyfyngiadau swyddogol yn cael eu llacio.

Colli incwm

Mae dros ddeufis wedi pasio a ninnau'n dal fel pedwar meudwy yng Nghlynnogfawr. Na, does gan Mei ddim barf at ei bengliniau, mae fy ngwallt i'r un lliw â'r hyn oedd o ar y cychwyn a dydi'r plant heb ddechrau tynnu'r papur wal i ddifyrru eu hunain. Felly a oes unrhywbeth o gwbl wedi newid ynom ni, yn ein bywydau ni? Oes, llawer.

Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn hawdd iawn o ran dygymod â bod 'dan glo' am y rheswm syml nad oes gwaith i'w wneud. Rŵan bod y B&B wedi cau mae fy ngwaith ac incwm i wedi diflannu'n llwyr. Mae holl waith Mei hefyd, ar wahân i ambell gerdd gomisiwn, wedi mynd hefyd felly mi gawson ni - am bythefnos - oriau di-ben-draw o chwarae tŷ bach ac yfed te yn yr ardd.

Ond daeth y wefr honno i ben yn sydyn iawn a chawsom awgrym real iawn o sut y gall rhywun fynd i ddyfroedd ariannol dyfnion.

Dri mis yn ôl roedd pethau'n rhedeg fel watch. Bellach mae'r carped wedi ei dynnu oddi tanom gan i'r cwmni yswiriant wrthod talu am Business Disruption, rhywbeth sydd wedi taro degau o filoedd o westai a llefydd tebyg i ni ledled Prydain, ac sy'n destun ffraeo mawr.

Mae pob ceiniog wedi ei fuddsoddi yn y busnes, sydd erbyn hyn wedi cau'n llwyr. Er mor braf yw'r tywydd bob dydd wedi bod, mae'r cwmwl mawr du o golli'n cartref yn dal i stelcian ar y gorwel.

Ffynhonnell y llun, Karen McIntyre Huws
Disgrifiad o’r llun,

Karen a Mei gyda Nanw a Cybi

Eto i gyd mae'n siŵr bod hyn i gyd wedi bod yn haws i mi a'r teulu na wnes i feddwl rhywsut. I berson oedd mor brysur ac yn rhywle neu'i gilydd bob munud, dwi wedi addasu'n rhyfeddol o dda.

Mi ddois i â'r teulu i mewn i hyn i gyd damaid yn gynharach na phawb arall (cychwynnodd ein lockdown ni wythnos cyn y cyhoeddiad swyddogol) felly gwirion a ffôl fyddai i ni i drio dod yn ôl i drefn cyn pawb arall. I'r gwrthwyneb. Y cynta' i mewn, yr olaf allan fydd hi i ni - fel Mei i dŷ tafarn ers talwm!

Fydd pob dim wedi bod yn ofer os down ni allan o hyn yn rhy gynnar, felly rydan ni'n dal i ystyried hyn yn rhywbeth hir dymor mwy na thros dro. Ac mae hynny'n edrych fel ei bod yn wir y ffordd mae lot o bobl yn ymddwyn.

Dwi'n gofyn i mi fy hun yn aml am y Covid-19 'ma, "Pam nad ydi'r neges yn cyrraedd pobl?", "Pa bryd dechreuodd pobl fynd mor ddi-hid o'u bywydau?' Wrth dyfu fyny yn yr 1980au un o'r tabŵs mawr oedd clefydau Aids a HIV. Roeddan ni fel plant ar y pryd yn ofn cyffwrdd pethau, yn amheus o ddefnyddio cyllyll a ffyrc mewn caffis ac ati. Ofn pobl oedd yn nabod pobl oedd wedi cyfarfod â rhywun oedd ag Aids.

Ffwlbri noeth a buan y chwalwyd y myth nad oedd posib eu dal drwy ysgwyd llaw neu rannu swyddfa. Ond ble heddiw mae'r ofn hwnnw am glefyd nad ydan ni'n gwybod llawer amdano? Pam bod pobl mor fodlon risgio dal coronafeirws dim ond er mwyn cael mynd i lan y môr am dro?

Mwy o amser efo'r plant

Mae'r B&B wedi cau i ymwelwyr ac mae'r dyddiadur yn wag ond mae'r tŷ tipyn blerach na'r arfer. Rydan ni'n gwneud y mwyaf o wybod bod neb am alw yn unannounced. Er cymaint dwi'n hoff o drefn a bod yn daclus, dim rŵan ydi'r amser i wneud hynny'n flaenoriaeth.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Gwersi gwahanol, ond defnyddiol - dysgu rhoi dillad ar y lein

Un peth positif sy'n codi o hyn yw'r ffaith mai fi ydi'r rhiant yr o'n i wedi gobeithio gallu bod i'r plant: dysgu coginio, dysgu rhoi dillad ar y lein, cau carai 'sgidiau, plannu tatws a llu o bethau 'normal' eraill heb orfod poeni am waith tŷ dibwys. Dwi'n gwaredu nad oedd y pethau 'ma ddim yn digwydd o'r blaen. Rydan ni'n cael salad dail pys ffresh bob dydd erbyn hyn!

Ond mae'r clwy'n dal i grwydro'r wlad yn ein herio. Mi gawn ni drafod hyd syrffed ond does neb o ddifri'n gwybod sut i chwarae'r gêm ryfedd hon. Dydi'r atebion ddim gynnon ni'r bobl, y gwyddonwyr, y meddygon na chwaith y gwleidyddion, yn enwedig y gwleidyddion uchel eu swyddi.

Y dyfodol yn ansicr

Felly ein game plan ni ydi penderfynu gwneud beth sy'n iawn i ni fel teulu. Anghofio pawb arall am y tro. Hunanol iawn dwi'n cytuno. Ond am y tro dyna'r unig opsiwn. Os ydi pawb arall am fentro mynd yn ôl i'r hen drefn yn gynnar fedra i ddim addo y byddan ni yno efo nhw.

Fel teulu dydan ni'n sicr ddim am ildio i peer pressure drwy fynd yn ôl yn rhy fuan. Fel rhywun hunangyflogedig mae'n siŵr ei bod yn luxury gan Mei a finna ddweud hynny, ond pa bryd fydd yr 'hunangyflog' hwnnw'n dod yn ôl wn i ddim. Felly mae'n benderfyniad anodd.

Yn amlwg, dwi'n gorfod bod yn sensitif i'r ffaith bod y plant am fod ar ben eu tennyn eisiau gweld eu ffrindiau ond chawn nhw ddim cam ac mi fyddan nhw'n rhan o unrhyw benderfyniadau y gwnawn ni fel teulu. Mae ynysu fel hyn i gadw'n iach yr un mor bwysig i mi heddiw ac yr oedd o ar y diwrnod cyntaf. A hyd a lled y wlad mae miloedd ar filoedd o bobl eraill efo clefyd parhaol yn yr un picl.

Ar hyn o bryd rydan ni'n byw yn yr un byd â phawb arall, ond lawr y lôn mae ein problemau mwyaf ni'n ein disgwyl. Rydw i wedi bod yn trio am swyddi, ond mae hynny'n teimlo'n beth lletchwith braidd. Beth os fyswn i'n cael cynnig y gwaith neu hyd yn oed gyfweliad? "Yrrm, sori! Fedra i ddim dod tan fod y clwy wedi diflannu, ydw i'n cael gweithio o adra?"

Yr hyn sy'n fy llethu'n fwy na dim arall ydi'r cylch dieflig o fethu ennill cyflog mewn un maes na chwaith yn gallu mentro i faes arall. Ma'r realiti na fydd Gwely a Brecwast yn cael ei gynnig yma eto yn gwbl fyw.

Fydd symudiadau pobl ddim yn caniatáu iddyn nhw ddod yma i aros mewn da bryd i'n hachub ni'n ariannol, felly mi fydd yn rhaid meddwl am gychwyn menter arall beryg. Y drydedd mewn wyth mlynedd. Tydi'r syniad o gychwyn menter arall, â'r holl waith caled sydd ynghlwm â hynny, ddim yn apelio o gwbl, ond os am oroesi bydd rhaid.

Dysgu ukelele

Mae dathliadau wedi mynd yn bethau prin ar ein calendr mwyach. Dim partïon, mynd allan i wledda ac yn y blaen ond pethau llawer iawn tawelach. Dathlu dysgu chwarae 'Cwch Dafydd 'Raber' ar yr ukelele, agoriad swyddogol bwrdd bwydo adar 'homemade' ac yn y blaen.

Ond ar ein hanner canfed diwrnod yn meudwyo mi aethon ni i du allan i ffiniau gardd Bryn Eisteddfod ac i'r traeth hanner milltir i ffwrdd. Roedd oglau'r tywod gwlyb, sŵn crensian gro dan ein traed ac ati'n hyfryd. Ond ches i ddim y teimlad o ryddid braf a rhyddhad ysgafn chwaith. Welson ni ddyn efo ci'n mynd o'n blaenau ac mi es yn paranoid ei fod o'n cyffwrdd cliced y giatiau a ninnau tu ôl iddo a'n methu a golchi'n dwylo'n iawn.

Y nod oedd trio peidio sgwennu'r darn hwn heb fod yn wleidyddol, ond mae hi bron yn amhosib peidio. Mae rhywbeth pwysig i'w ddysgu am ddatganoli yn yr holl helynt i gyd. Tydi'r neges o bwy sy'n gyfrifol am be', yn wleidyddol yng Nghymru, ddim yn cyrraedd pobl ar lawr gwlad.

Ar wahân i bobl sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth dwi'n cael yr argraff nad yw trwch y boblogaeth, yng Nghymru a thu hwnt, yn deall bod 'na Lywodraeth yng Nghymru sydd â hawliau gwahanol i weddill Prydain.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cybi yn dysgu un o sgiliau pwysig bywyd

Os nad ydan ni'n ofalus dwi'n poeni y byddan ni'n ôl yn y dechrau mewn dim a bydd dau fis o fod dan warchae wedi bod yn ofer.

Rydan ni'n 'colli' talp o'n bywydau a chawn ni mo'n digolledu am hyn. Dyna pam dwi'n dechrau colli amynedd a ffydd mewn dynoliaeth sydd ddim yn cyd-dynnu i'r un cyfeiriad drwy ynysu.

Dwi'n rhyfeddu bod cymaint o bobl yn dal heb ganslo bookings efo ni ar gyfer diwedd Mai a dechrau Mehefin. I osgoi pobl felly rhag heidio i'n hardal ni dros yr wythnosau nesaf, dwi'n gobeithio y bydd busnesau lleol yn cyd-dynnu ac yn cadw eu drysau ar gau i'w gwneud hi'n anodd ar y bobl hyn. Mi fydd yn gywilydd os ydi busnesau'n agor er mwyn plesio ymwelwyr penchwiban a dylwn gofio pwy yw'r busnesau hynny ar gyfer y dyfodol.

Mae hyn yn gwneud i mi boeni am yr effaith y caiff hyn ar yr ardal (dwi'n siarad yn benodol am y gogledd-orllewin) yn yr hirdymor. Dwi'n gweld cynifer o sylwadau ar wefannau cymdeithasol gan bobl yn Lloegr yn datgan nad mewn tref fawr y byddan nhw eisiau bod os fydd ail achos o gau lawr. Maen nhw'n barod yn llygadu tyllau ym Mhen Llŷn ac Eifionydd. Lwc owt.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yng nghanol y newyddion drwg am Covid-19, roedd peth newyddion da hefyd

I grynhoi'r ddeufis diwethaf felly alla' i ddweud mod i wedi byw'n nes at fy lle. Er gwaetha'r cwmwl mawr dywyll o golli'r tŷ, rydw i wedi mwynhau. Wedi coginio llawer iawn o bethau, wedi mwynhau bod yn Fam go iawn eto. Wedi t'wchu a phesgi. Wedi cael hwyl a sbri wrth gysgu mewn pabell yn y lolfa, agor sawl tun o lager yn y p'nawn gan nad oes rhaid gyrru i unman ac wedi cael cysgu'n hwyr yn aml! Gobeithio'n wir y cawn ni rybudd cyn mynd yn ôl i'r hen oes.

A'r un peth bach sy'n sefyll allan ydi Cybi, fy mab chwech oed a gollodd ei ddant cyntaf. Bu'r c'radur yn poeni'n arw na fyddai'r un Dylwythen Deg yn mentro galw draw dan gyfnod y cloi mawr. Ydi, mae'r clefyd distaw hwn wedi cyrraedd sawl byd arall yn ogystal â'r byd hwn.

Hefyd o ddiddordeb: