Newidiadau i strwythur pêl-droed merched yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pel-droed Rhyl

Fe fydd yna newidiadau sylweddol i strwythur pêl-droed merched Cymru ar gyfer tymor 2021/22.

Dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru y bydd y newid yn darparu strwythur fydd addas yn "economaidd a daearyddol" ar gyfer datblygiad y gêm yng Nghymru.

Maen nhw hefyd yn ffyddiog y byddan nhw'n darparu cyfleusterau addas ar gyfer y clybiau fydd yn cystadlu mewn cynghreiriau o fewn system pyramid.

Cynghrair newydd

Bydd clybiau'r prif gynghrair yn cystadlu am le ar gyfer pencampwriaethau UEFA.

Fe fydd clybiau'r ail ris yn cael eu trefnu yn rhanbarthol, gyda chynghreiriau ar gyfer y de a'r gogledd,

Yn ogystal â hyn, bydd cynghreiriau yn cael eu sefydlu ar gyfer timau dan-19 oed - bydd cynghrair ar gyfer y de a'r gogledd,

Dywedodd Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched CBDC: "Drwy gyflwyno meini prawf penodol a darparu cefnogaeth ychwanegol i'r cynghreiriau a chlybiau Haen 2, bydd hyn yn rhoi platfform cryfach i glybiau baratoi i gamu i Haen 1 ac o ganlyniad, yn creu pyramid domestig mwy cynaliadwy a chynghrair genedlaethol fwy cystadleuol.

"Yn ystod y cyfnod ymgynghori, daeth hi'n glir fod angen cyflwyno cam i bontio pêl-droed genethod dan 16 a thu hwnt, gan nad yw'r strwythur presennol yn cefnogi chwaraewyr i aros gyda'r gêm."