Dirprwy gomisiynydd yn gadael wedi pedair blynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd rôl dirprwy Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu'r Gogledd ddim yn cael ei adnewyddu, wrth i gytundeb y deilydd presennol ddod i ben.
Cafodd Ann Griffith, sy'n gyn-gynghorydd ar Ynys Môn, ei phenodi i'r swydd £42,000 yn 2016 yn fuan wedi i Arfon Jones gael ei ethol yn gomisiynydd.
Ond mae Mr Jones wedi cadarnhau na fydd dirprwy arall am y 12 mis arall sy'n weddill cyn y bydd etholiadau newydd ar gyfer comisiynwyr ym Mai 2021.
Mae'r etholiadau ar gyfer comisiynwyr yr heddlu wedi eu gohirio am 12 mis oherwydd y pandemig presennol.
Ond dywedodd Mr Jones nad oedd hynny wedi effeithio ar "dymor cytundebol cyflogaeth y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd", ac y byddai'r swydd honno felly'n dod i ben ar ôl pedair blynedd.
Nid yw dirprwy gomisiynydd yn cael ei ethol, a dewis y comisiynydd yw cael dirprwy neu beidio. Nid oes gan bob comisiynydd heddlu yng Nghymru ddirprwy.
"Rwyf am ddiolch i Ann am ei gwaith caled ac rwy'n dymuno'n dda iddi yn y dyfodol, "meddai Mr Jones.
Yn wreiddiol pan gafodd Ms Griffith ei phenodi roedd yna wrthwynebiad i'r penderfyniad gan y Panel Heddlu a Throsedd lleol.
Er bod y panel yn cydnabod fod gan Mr Jones yr hawl cyfreithiol i benodi Ann Griffith, nid oedd yr aelodau'n credu fod y swydd newydd wedi'i hysbysebu ac roedd ganddynt bryderon am "ddiffyg tryloywder".
Ar y pryd dywedodd Mr Jones fod Ms Griffith yn gwbl addas ac bod ganddi brofiad gwerthfawr yn y maes gofal plant, gan ei bod yn gyn swyddog gyda'r NSPCC yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2016
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd8 Mai 2016