Gwrthod cwyn Cymdeithas yr Iaith yn erbyn Comisiynydd y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad annibynnol wedi gwrthod cwyn fod Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i lai o'r cwynion y mae'n eu derbyn na'i ragflaenydd yn y swydd.
Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi honni bod y comisiynydd, Aled Roberts, wedi cyflwyno arferion newydd cyn-ymchwilio i gwynion, gan olygu ei fod yn agor llai o ymchwiliadau.
Roedd hynny'n groes i'r gyfraith, medd yr ymgyrchwyr, oedd hefyd yn honni nad oedd Mr Roberts yn defnyddio pwerau cosbi sifil, a'i fod yn cael ei ddylanwadu gan Weinidog y Gymraeg a Materion Rhyngwladol, Eluned Morgan.
Gwrthodwyd yr holl honiadau gan yr adolygiad.
Wrth ymateb dywed Cymdeithas yr Iaith eu bod yn bwriadu apelio yn erbyn y canlyniad, gan ei ddisgrifio fel "ymdrech i ddargyfeirio sylw oddi ar gwynion dilys".
O fewn ei bwerau
Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi codi pryderon y llynedd bod y comisiynydd newydd wedi ymchwilio i lai na 40% o'r cwynion a dderbyniwyd ganddo - bron hanner y canran a wnaed gan ei ragflaenydd.
Cafodd yr adolygiad ei gynnal gan Rhianwen Roberts - darlithydd yn y Gyfraith, ac ymgynghorydd annibynnol ar wahanol agweddau o'r gyfraith i lywodraethau Cymru a'r DU.
Mae hi hefyd yn aelod o Gymdeithas yr Iaith.
Casgliad yr adroddiad ydy mai mater o ddisgresiwn i'r comisiynydd yw penderfynu sut i weithredu pan mae achos o fethu cydymffurfio, ac nad oedd wedi cyflwyno unrhyw arferion cyn-ymchwilio newydd.
Gwrthodwyd cŵyn fod nifer yr ymchwiliadau a gynhaliodd y comisiynydd yn isel.
Dywedodd Rhianwen Roberts: "Yn fy marn i, nid yw'n fuddiol o dan y gyfraith bresennol, i roi ffocws ar derm megis 'datrysiad buan', neu arferion 'cyn-ymchwilio' newydd... yn hytrach dylid cofio am y pŵer sydd gan y comisiynydd i arfer ei ddisgresiwn o fewn y Mesur.
"Beth mae hynny yn ei olygu yw fod gan y comisiynydd hawl i ddefnyddio ei ddisgresiwn wrth benderfynu agor ymchwiliad ai peidio.
"Mater o ddisgresiwn i'r comisiynydd hefyd yw pa opsiynau i'w cymryd pan fydd sefydliad wedi methu cydymffurfio.
"Ei benderfyniad ef yw rhoi cosb sifil ai peidio ar ddiwedd ymchwiliad."
'Ddim yn deall y Mesur'
Wrth ystyried nifer yr achosion gafodd eu hagor dywedodd bod nifer yr ymchwiliadau yn 2018 yn anarferol o uchel, ac mai dyna pam fod ffigyrau 2019 yn edrych yn isel.
Wrth gloi, daeth i'r casgliad nad yw Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith yn deall darpariaeth y gyfraith yn Mesur y Gymraeg yn llawn.
Dywedodd y comisiynydd: "Rwyf yn croesawu adroddiad yr adolygiad annibynnol sydd wedi dod i'r casgliad fy mod yn gweithredu'n briodol.
"O ran y gŵyn ei hun, byddaf yn cwrdd 'efo Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr wythnosau nesaf er mwyn trafod yr adroddiad yn llawn."
'Ymdrech i wyngalchu'
Dywedodd Bethan Ruth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mai "ymdrech i wyngalchu ymddygiad y comisiynydd" ydy'r adroddiad.
Ychwanegodd: "Mae'r adroddiad yn dangos tuedd amlwg - un enghraifft yw diystyru'r honiad nad yw Aled Roberts yn cynnal digon o ymchwiliadau drwy awgrymu mai Meri Huws oedd yn cynnal gormod, casgliad sy'n gofyn am dipyn o ddychymyg.
"Mae'n drueni mawr bod y comisiynydd newydd yn canolbwyntio ei egni ar amddiffyn ei record wael yn hytrach nag amddiffyn hawliau iaith pobl Cymru.
"Rydyn ni'n rhyfeddu bod y comisiynydd wedi penderfynu rhyddhau'r adroddiad yma i'r wasg heddiw cyn i'r broses ddod i ben.
"O ystyried mai dim ond un cam yn y broses yw hyn, mae'n amhriodol i'r comisiynydd ryddhau'r adroddiad. Mae hyn yn gamgymeriad gan y comisiynydd, a byddwn ni'n apelio yn erbyn y dyfarniad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2020