Covid-19: Profi pawb mewn cartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
Dynes mewn cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd profion coronafeirws ar gael i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal o hyn ymlaen, meddai'r gweinidog iechyd.

Roedd y profion wedi'u cyfyngu i gartrefi lle roedd achos wedi'i gadarnhau, neu gartrefi oedd â mwy na 50 o breswylwyr.

Cyn hynny dim ond i'r rhai â symptomau, neu'r rhai sy'n symud i gartref gofal, yr oedd profion yn cael eu cynnig.

Dywedodd Vaughan Gething fod dull y llywodraeth yn newid "wrth i ni dderbyn mwy o dystiolaeth a chyngor gwyddonol sy'n dod i'r amlwg."

Roedd y gwrthbleidiau a pherchnogion cartrefi gofal wedi bod yn galw am ehangu'r polisi, fel sydd eisoes wedi digwydd yn Lloegr.

Dywedodd y llywodraeth y bydd y drefn newydd yn dod i rym yr wythnos hon.

Bydd cartrefi gofal sydd hyd yma heb gofnodi achos neu unrhyw achosion o coronafirws yn gallu defnyddio porth ar-lein i archebu nwyddau profi.

Dywedodd Mr Gething: "Mae sut rydyn ni'n delio gyda'r coronafeirws yn newid yn gyson wrth i ni dderbyn mwy o dystiolaeth a chyngor gwyddonol.

"Rydyn ni wedi bod yn glir iawn yn ein dull o weithredu a'n strategaeth ni yw lleihau niwed i ddechrau a byddwn yn addasu ein polisïau er mwyn gwneud hyn.

"Mae heddiw'n newid mawr yn y ffordd y byddwn ni'n profi mewn cartrefi gofal, gan addasu ein polisi fel bod pob preswylydd ac aelod o staff yn gallu cael eu profi os oes amheuaeth bod gan un person y Coronafeirws.

"Gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd pellach i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal a'u teuluoedd."

Ymateb y gwrthbleidiau

Dywedodd Delyth Jewell, AS Plaid Cymru y bydd angen cynnal ymchwiliad yn y dyfodol.

Roedd hyn, meddai, yn rheswm pam fod cynnal profion ar gyfer pawb yn gam "angenrheidiol i achub bywydau."

"Dylai'r penderfyniad i beidio hyd nawr, fod yn achos i'w ystyried mewn unrhyw ymchwiliad sydd i'w gynnal yn y dyfodol."

Yn ôl Janet Finch-Saunders, llefarydd y Ceidwadwyr ar ofal cymdeithasol, roedd hi'n "gywilydd nad oedd ehangu'r profion wedi ei wneud yn gynt, gan gymryd fod capasiti ar gyfer profi yn cynyddu."

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE: "Er bod croeso i'r cyhoeddiad hwn, does dim amheuaeth y bydd cwestiynau, ynglŷn â pham y cymerodd tan nawr i Lywodraeth Cymru newid ei pholisi ar brofi."

"Mae bellach yn hanfodol bod y profion a addawyd yn cael eu cyflwyno'n gyflym ac yn effeithiol ledled Cymru", meddai.