Catrin Hopkins: Dod o hyd i fy llais

  • Cyhoeddwyd
Catrin HopkinsFfynhonnell y llun, S4C

"Cyn symud i Lundain, do'n i heb allu fod yn agored am fy rhywioldeb. 'Roedd o'n teimlo fel rhywbeth masif i'w wneud, rhywbeth oedd gyda'r potensial i golli teulu a ffrindia amdano."

Fel rhan o'r ddeuawd pop electronaidd, Dusky Grey, mae Catrin Hopkins wedi gwneud argraff ar y sîn gerddorol gyda sengl gyntaf y band, Told Me, wedi'i ffrydio dros 13 miliwn o weithiau ar Spotify.

Ac mae'r llwyddiant wedi helpu'r gantores ifanc o Gaernarfon i fod yn agored am ei bywyd:

"Mae pob cân ni'n ysgrifennu am dyfu i fyny a bod yn pwy ydan ni. Pob sioe oedd gynnon ni rhywun yn dod aton ni a dweud 'fedrai ddim dod allan i teulu fi - mae rhaid fi jyst ddweud wrthoch chi, rhaid fi ddweud wrth rhywun.'

"Oedd o'n neis ond heartbreaking hefyd.

"'Nath hynny pwshio fi i ddod allan - mae ddim gweld rhywun sy'n debyg i ti pan ti'n tyfu i fyny... 'dw i ddim yn meddwl bod pobl yn sylwi yr effaith mae hynny yn cael ar mental health chi."

Rhyddid

Mae Catrin yn siarad am ei llwyddiant cerddorol ar raglen Merched yr Awr ar S4C nos Iau, Mai 21, ac fe eglurodd i Cymru Fyw sut y gwnaeth adael gogledd Cymru a llwyddo ym myd cerddoriaeth roi rhyddid iddi.

Dywedodd: "Y munud ti'n dweud 'o dw i jyst ishe bod yn pwy ydw i' - dim ots be 'di o - mae hynny'n masif o relief dim ots beth ydi'r sefyllfa.

"'Oedd lot o ffrindie fi'n hoyw ac yn y blynyddoedd diwethaf mae'r sgwrs o gwmpas pobl hoyw wedi newid. Mae 'na fwy o bobl yna i ddweud 'mae'r pethe cas mae pobl yn dweud ddim yn iawn'.

"Mae 'na fwy o bobl yn siarad amdano fo'n agored, a nath hynny roi'r hyder i fi. O'n i wedi dod i oed pan o'n i'n barod.

"Mae pawb yn siarad am petha' fel da chi'n tyfu fyny ond d'on i ddim yn gwybod sut i ddelio efo fo a ddim yn nabod neb arall hoyw ar y pryd.

"O'n i'n 19 yn Llundain yn dod allan - o'n i mewn i pen fi gymaint, o'n i ofn bod pobl mynd i droi arno fi.

"Ond mae gen i deulu a ffrindia anhygoel. Mae'n bwysig i fi gofio pa mor privileged ydw i achos dydy o ddim fel 'na i bawb arall.

"Mae pawb yn nabod ei gilydd yn Gaernarfon ond mae pawb 'di bod yn hollol fine."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dusky Grey

Dechrau Dusky Grey

Er gwaethaf byw naw milltir ar wahân - Gethin Llwyd Williams ym Mangor a Catrin yng Nghaernarfon - wnaeth y ddeuawd gysylltu gyntaf trwy Facebook ar ôl i Catrin ddod ar draws cerddoriaeth Gethin ar Instagram.

Newidiodd y sengl gyntaf Told Me bywydau'r ddau, gyda cwmni recordio yn arwyddo'r band yn fuan wedi hynny.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Un diwrnod dw i'n gobeithio fyddai fan 'na (yn perfformio yn yr 02) hefyd"

Cyn hynny roedd Catrin yn rownd olaf Cân i Gymru yn 2015 gyda'r gân Cariad Pur.

Mae Catrin yn gerddor llawn amser erbyn hyn ac hefyd yn recordio fel artist unigol dan yr enw Catty: "Mae cerdd wedi newid bywyd fi - dw i'n un o'r bobl lwcus 'na ond dw i'n hoples yn neud pob dim arall!"

Mae'n egluro ar raglen Merched yr Awr: "O'n i'n arfer byw yn reit agos i'r O2 arena a cherdded fyny a lawr bob dydd a dweud 'un diwrnod dw i'n gobeithio fyddai fan 'na [yn perfformio yn yr 02] hefyd.'

"Mae'r busnes yn rili caled ond mae cerdded fyny a lawr fam'ma yn gneud chdi goelio pam 'da chi isho neud o.

"Mae'r teimlad jyst yno a dw i ishe'r teimlad yna am byth, dyna'r unig beth sy'n cael gwared o'r teimladau drwg sy' na.

"Yr unig beth allai neud ydy bod yn fi fy hun ac ysgrifennu caneuon am bywyd fi a gobeithio bod pobl yn gweld rhan o'u hunain ynddo fo.

"Dw i'n prowd o fy hun ond mae gen i gymaint mwy i rhoi. Rŵan di'n amser i."

Gwyliwch Merched yr Awr ar S4C ar nos Iau 21 Mai am 9.00.

Hefyd o ddiddordeb