Oriel: Uchafbwyntiau Eisteddfod T

  • Cyhoeddwyd

Eleni, yn hytrach na'r Eisteddfod yr Urdd arferol, bu'n rhaid addasu ychydig ar y cynllun a chynnal yr Eisteddfod rithiol gyntaf erioed - Eisteddfod T.

Ac am wythnos! Fe wnaeth yr Eisteddfod ddenu dros 6,000 o gystadleuwyr mewn mwy nag 80 o gystadlaethau.

O ffilmio talentau anifeiliaid anwes a meimio i ganeuon, i greu corau rhithiol a chyhoeddi enillwyr y prif seremonïau yn fyw i stafell fyw'r buddugwr - mae hi wedi bod yn Steddfod gwbl unigryw, ac yn sicr yn un i'w chofio.

Dyma rai o'r uchafbwyntiau:

Ysgol TregannaFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Er eu bod heb wisgo gwisg ysgol ers rhai wythnosau, roedd Ysgol Treganna yn edrych yn ddigon o sioe yn eu côr rhithiol, gan ennill y gystadleuaeth Côr Blwyddyn 6 ac iau, dros 20 o leisiau

Ruby Haf JamesFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond ers naw mis mae Ruby Haf James wedi bod yn dysgu Cymraeg, ond hi oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth Llefaru i Ddysgwyr, Blwyddyn 3 ac iau - ac roedd ei holl ffrindiau blewog wedi ymddangos yn y fideo gyda hi i gefnogi

Connir OrfFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Connie Orff wedi sicrhau ei bod hi mewn lliwiau addas, Urddaidd, wrth draddodi beirniadaeth y gystadleuaeth Trawsnewid Teuluol

Jodi BirdFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Oes nad os gen ti'n props cywir, rhaid addasu... Ysgyb sydd yn cael ei ddefnyddio fel arfer yn y sioe gerdd enwog Wicked, ond defnyddiodd Jodi Bird beth oedd ganddi wrth law

anifeilaid anwesFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd anifeiliaid anwes talentog gystadlu yn yr Eisteddfod y eleni... Pwy sydd am ddweud wrthyn nhw mae'n siŵr na chawn nhw gystadlu eto y flwyddyn nesa'?!

Ensemble TeuluFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Er eu bod ymhell dros 25 oed (sori), cafodd rhieni gymryd rhan yn y Steddfod arbennig yma - fel Mam a Dad teulu Bwlch y Waun a berfformiodd y gân addas Trôns dy Dad

TrystanFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ddim yn un i fethu allan ar yr hwyl, derbyniodd y cyflwynydd Trystan Ellis-Morris her hŵla-hŵpio gan Lois Postle a'i nain

PavarottiFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Nid Pavarotti yw hwn, ond Math Gwilym o'r Felinheli... wir!

Trawsnewid teuluFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Tomi ac Elsi Williams o Gaerdydd oedd tu ôl i'r trawsnewidiad teuluol gwych yma

Ensemble offerynnolFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fel mae Annie ac Ethan Song yn ei wybod, os oes gennych chi frawd neu chwaer sydd hefyd yn canu offeryn, mae rhoi ensemble orfferynnol at ei gilydd yn llawer haws

Ysgol TryfanFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ond nid oedd bod ar wahân yn rwystr i Fand Jazz Ysgol Tryfan, a enillodd y gystadleuaeth Band Offerynnol neu Gerddorfa

Mared a CatrinFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Catrin Alaw Gwilliam y profiad gwych o ganu deuawd gyda Mared Williams yn y Deuawd Enwogion Lleol

clocsioFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Diolch byth am Dad a gardd ddigon mawr i allu gwneud dawns y glocsen ynddi!

Carys EleriFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carys Eleri yn amlwg wedi mwynhau ei dyletswyddau beirniadu - ac roedden ni wedi mwynhau gweld ei phenwisgoedd lliwgar!

RosieFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cwtsh gan Mam - dyna beth oedd Rosie ei angen ar ôl glywed mai hi yw Prif Ddysgwr Eisteddfod T eleni

Hefyd o ddiddordeb: