Disgwyl cyhoeddiad am ailagor ysgolion Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r Gweinidog Addysg gyhoeddi'r cynlluniau diweddaraf ar gyfer ailagor ysgolion yng Nghymru yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Y gred ydy bod Kirsty Williams wedi ystyried amryw o opsiynau ynglŷn â dychwelyd disgyblion i'r ysgol gydag arweinwyr undebau, awdurdodau lleol a gwyddonwyr.
Fe gafodd y syniad o ddod â gwyliau haf yr ysgol ymlaen ei ddiystyru gan y gweinidog yr wythnos diwethaf, yn ôl yr Undeb Addysg Cenedlaethol.
Mae ysgolion yng Nghymru wedi bod ar gau ers 20 Mawrth.
Mae disgwyl i Ms Williams amlinellu'r cynlluniau ar gyfer ysgolion yn ystod Cynhadledd i'r Wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru ddydd Mercher.
Ar ôl gwrthod, yn ôl pob golwg, y cynnig i ddod â gwyliau haf 6 wythnos yr ysgol ymlaen, mae'r opsiynau eraill yn cynnwys dychwelyd plant yn raddol i'r ysgol yn ystod yr wythnosau nesaf, neu aros tan fis Medi cyn eu dychwelyd i'r dosbarth.
Mae'r trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru wedi bod yn gadarnhaol, yn ôl undeb NAHT.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar yr hyn sydd gennym i'w ddweud. Mae gan arweinwyr ysgolion set o sgiliau a gwybodaeth y mae'r llywodraeth wedi tynnu arnyn nhw," meddai Ruth Davies, Llywydd NAHT Cymru.
"Mae'r trafodaethau wedi bod yn adeiladol ac yn ystyrlon ac mae'r llywodraeth wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â ni."
Ychwanegodd Ms Davies nad oedd "neb" eisiau gweld plant yn dychwelyd i'r ysgol yn fwy na staff, ond bod yn rhaid cymryd y camau nesaf yn "ofalus".
Galw am 'ganllawiau cenedlaethol clir'
Dychwelodd llawer o ddisgyblion yn Lloegr i'r ysgol yr wythnos hon.
Tra yn Yr Alban, lle mae gwyliau'r haf yn gynharach, bydd disgyblion yn dychwelyd ar 11 Awst.
Plant gweithwyr allweddol neu'r rhai sy'n cael eu hystyried yn fregus yw'r unig ddisgyblion o Gymru sydd wedi bod yn yr ysgol yn ystod y cyfnod cloi.
Mae undeb arall, UCAC wedi mynnu bod yn rhaid i unrhyw gynlluniau sy'n gweld disgyblion yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth fod yn drylwyr.
"Byddwn am weld canllawiau cenedlaethol clir a manwl iawn i sicrhau cysondeb ledled Cymru ac i sicrhau bod pob amgylchedd ysgol mor ddiogel â phosib er lles yr holl staff a disgyblion ac er mwyn sicrhau tawelwch meddwl teuluoedd," meddai Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.
Dywedodd yr Undeb Addysg Cenedlaethol eu bod yn gobeithio y bydd y Gweinidog Addysg yn gwneud "penderfyniad synhwyrol" sy'n ystyried iechyd a diogelwch dysgwyr a staff.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020