Tynnu gohebydd o banel beirniadu Llyfr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Martin Shipton

Mae prif ohebydd y Western Mail wedi ei dynnu oddi ar banel beirniadu Llyfr y Flwyddyn oherwydd ei sylwadau ar Twitter ynglŷn â'r protestiadau Black Lives Matter.

Roedd sylwadau Martin Shipton yn "ymosodol" ac yn "niweidiol" i werthoedd Llenyddiaeth Cymru, yn ôl datganiad gan y corff sy'n trefnu'r wobr flynyddol.

Ar ôl iddo fynegi ei bryderon am y brotest dywedodd Mr Shipton iddo orfod "amddiffyn ei hun" wedi "dyddiau" o ymosodiadau am ei sylwadau.

Mewn datganiad dywedodd Llenyddiaeth Cymru na fydd y newyddiadurwr yn parhau yn feirniad oherwydd ei sylwadau.

'Niweidiol i'n gwerthoedd'

Dywedodd ei fod wedi "arddangos ymddygiad sydd yn niweidiol i'n gwerthoedd a'n buddiannau fel sefydliad trwy ei ddefnydd o iaith ymosodol."

"Gan hynny, gofynnwyd i Martin Shipton gamu o'r neilltu o'i rôl fel beirniad Llyfr y Flwyddyn, a hoffem ddiolch iddo am ei waith a'i gyfraniad."

Mae Mr Shipton yn dweud na chafodd o'r cyfle i egluro'i sylwadau.

"Wedi i mi fynegi fy mhryderon am y protest Black Lives Matter yng Nghaerdydd, oedd, heb os, yn torri rheolau Llywodraeth Cymru yn gwahardd mwy na dau o bobol yn ymgynnull yn gyhoeddus, fe ddes i yn destun bwlio ac ymosodiadau ciaidd wnaeth bara am ddyddiau," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Martin Shipton yn rhan o ddadl ar-lein wedi protest Black Lives Matter yng Nghaerdydd yn ystod cyfyngiadau'r pandemig

"Roedd nifer o'r negeseuon trydar oedd yn cwestiynu fy hawl i fynegi barn, yn bwrw amheuaeth ar fy nghymwysterau fel newyddiadurwr ac yn ymosod arna' i ar sail fy oedran.

"Un o fy egwyddorion pennaf yw peidio ildio i fwlis, felly fe wnes i amddiffyn fy hun gan ymateb yn gadarn i'r rhai fu'n ymosod arnaf.

"Credaf fod y penderfyniad yn rhyfedd ac yn groes i gyfiawnder naturiol."

Bydd rhestr fer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi ar 1 Gorffennaf.