Cofio un o hoelion wyth byd busnes Llanbedr Pont Steffan
- Cyhoeddwyd
Bu farw un o hoelion wyth cymuned fusnes Llanbedr Pont Steffan, Gwilym Price, ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 90 oed.
Sefydlodd busnes trefnu angladdau, Gwilym C. Price Ei Fab a'i Ferched gyda'i wraig, Phyllis yn 1958, cyn agor siop ddodrefn, llestri ac anrhegion yn 1977.
Ei blant a'i wyrion sy'n rhedeg y busnesau ers sbel, ond roedd yn ymweld â'r busnesau yn gyson, hyd yn oed wedi dechrau'r cyfnod cloi yn sgil y pandemig coronafeirws.
Roedd wedi bod yn cael triniaethau at ganser am saith mlynedd cyn ei farwolaeth.
'Teulu'n golygu popeth iddo'
Mr Price a'i deulu wnaeth drefnu angladd AS cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans yn Aberystwyth yn 2006.
Mae'n gadael gweddw a phedwar o blant - Cerdin, Annwyl, Angharad ac Eleri.
Dywedodd llefarydd ar ran y teulu wrth Cymru Fyw: "Roedd ei deulu yn golygu popeth iddo - roedd wastad yn gwneud yn siŵr bod ei deulu yn iawn.
"Roedd ei wyrion - Rhys, Pedr, Rhodri a Lois - hefyd yn meddwl y byd iddo."
Ychwanegodd ei fod hefyd "wastad mo'yn helpu unrhyw un" o fewn y gymuned - trwy ei fusnesau a'i ddyletswyddau yn y gorffennol fel cynghorydd plwyf ac ynad heddwch".
"Roedd yn ddyn penderfynol," meddai, wrth ddweud ei fod yn dal yn ymweld â'r busnesau tan yn ddiweddar iawn, er gwaethaf ei salwch.
Fel aelod o'r Awyrlu Brenhinol yn y cyfnod cyn sefydlu ei fusnesau, fe ganodd Mr Price ar lwyfan gyda Vera Lynn a chanu gyda llond llaw o gyd-swyddogion i'r Teulu Brenhinol yn Sandringham ddydd Nadolig 1949.
Cyhoeddodd Wasg Carreg Gwalch y gyfrol Teulu'r Gymwynas Olaf yn 2017, ble mae "un o gwmnïau angladdol amlycaf Cymru yn agor y llenni ar arferion, dyletswyddau ac anghenion yr ymgymerwr".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2020