Galw am newid rheolau ymweliadau ysbyty a chartrefi
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw i ganiatáu cleifion sydd a dementia, anhawster deall Saesneg neu broblemau cyfathrebu eraill gael aelod o'u teulu gyda nhw yn yr ysbyty.
Oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws, mae ymweliadau wedi'u gwahardd ar hyn o bryd.
Nawr mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a Chymdeithas Alzheimer's Cymru yn galw am adolygiad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod modd i deulu fod gyda chleifion mewn achosion eithriadol.
Yn ôl llefarydd, gall y sawl sydd â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys dementia, anabledd dysgu neu awtistiaeth wneud cais i gael rhywun i'w hymweld, dolen allanol.
Ond mae BBC Cymru wedi clywed gan bobl sydd wedi cael profiad gwahanol.
Pryder Kate, o dde Cymru, yw na fydd ei mam yn ei hadnabod hi wedi misoedd ar wahân.
Fe dderbyniodd ei mam Janice, sy'n 71 oed, ddiagnosis o glefyd Alzheimer's bedair blynedd yn ôl, a chafodd ei thywys i'r ysbyty am gymorth gyda meddyginiaeth rhai wythnosau cyn y cyfnod cloi.
Roedd y teulu gyda hi wrth gael mynediad i'r ward, ac yna'n ymweld yn ddyddiol gan ei helpu i fwyta ac ymolchi. Roedden nhw'n dod â'u sebon a hufen llaw cyfarwydd i mewn yn ogystal â chwarae cerddoriaeth i danio atgofion a'u gwneud yn gyfforddus.
Ond yna, pan ddaeth y cyfyngiadau, "cafon ni'n gwahardd yn llwyr", eglurodd Kate, "ac i rywun â dementia mae 'na oblygiadau enfawr i hynny."
Bu'n rhaid iddyn nhw aros naw wythnos cyn cael cynnig galwad fideo gyda'u mam, ar ôl i elusen gynnig iPad i'r ward. Dywedodd Kate iddi sylwi newid "trallodus" yng nghyflwr Janice.
"Y pryder ydy os nad y'n ni mewn cysylltiad, a fydd hi'n anos arni ein 'nabod ni a theimlo'n gyfforddus yn ôl yn y tŷ pan ddaw hi adref. Mae'n dy wneud di'n bryderus iawn nad yw neb i'w gweld yn meddwl am y darlun ehangach a gosod strategaeth yn ei lle.
"Hyd yn oed petaen nhw'n dweud, 'reit mae angen i'r R number fod yn hyn i ganiatáu pobl i ymweld' - o leia fydde hynny yn rhoi rhyw fath o gysur ein bod ni'n anelu at rywbeth. Fe fyddai'n oleuni ar ddiwedd y twnnel. Ond ar hyn o bryd y cyfan sy'n cael ei ddweud ydy - 'dyw hi ddim yn saff, a dyna ni'."
Dywedodd gwraig claf arall o dde Cymru gyda dementia, oedd ei eisiau bod yn ddienw, ei bod yn paratoi i ymweld â'i gŵr yn yr ysbyty pan ddigwyddodd y cyfnod cloi. Mae'n disgrifio'r sefyllfa ers hynny fel "petawn i'n galaru".
Er bod ganddi atwrneiaeth (power of attorney) dros ei iechyd a'i les mae'n dweud nad "yw pobl yn gofyn fy marn i nac yn gwrando arna'i".
"Mae bendant wedi dirywio lot ers y lockdown. Mae dementia yn gallu newid mor gyflym a ry'ch chi'n gallu colli gymaint."
Dywedodd Cheryl James, Rheolwr Ardal Gogledd a Gorllewin Cymru ar gyfer Cymdeithas Alzheimer's bod y sefyllfa'n arwain at ddirywiad mewn rhai cleifion wrth iddyn nhw deimlo'n "unig ac yn ddryslyd", gan osod "angen ychwanegol" ar staff ysbyty.
"Mae'n gyfnod hynod o ofidus nid dim ond i'r person gyda dementia ond eu gofalwyr neu deulu hefyd."
"Mae cyswllt rheolaidd wyneb yn wyneb ag anwyliaid nid yn unig yn helpu pobl â dementia i deimlo'n ddiogel a gwella hwyliau - mae hefyd yn helpu cynnal sgiliau gwybyddiaeth a chyfathrebu sylfaenol. Fel mae'r pandemig yma'n parhau mae mor bwysig ein bod ni'n cydbwyso caniatáu a galluogi cyswllt cymdeithasol i bobl gyda dementia mewn ffordd ddiogel."
Mae pryderon wedi'u codi hefyd ynglŷn â chleifion sydd â thrafferthion cyfathrebu am resymau eraill, gan gynnwys y sawl sy'n llai hyderus wrth siarad Saesneg.
Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ei bod hi am weld y rheolau yn cael eu llacio gydag ysbytai yn ystyried "fesul achos" prun ai i ganiatáu aelod o'r teulu i dywys claf wrth iddyn nhw gael mynediad i'r ysbyty, neu ymweld â nhw pan eu bod yna.
Wrth gofio'i phrofiad ei hun o weld ei mam yn dychwelyd at ond medru siarad Cymraeg ar ddiwedd ei bywyd oherwydd dementia, dywedodd bod hyn yn "rhywbeth sy'n arbennig o bwysig i Gymru ei ystyried".
Dywedodd hefyd bod ei phlaid wedi derbyn ymholiad gan deulu dyn oedrannus o gefndir Asiaidd oedd yn ofidus iawn ynglŷn â pheidio gallu bod gydag e yn yr ysbyty am nad oedd yn medru deall Saesneg.
"Ry'n ni'n deall y sefyllfa bresennol yn llwyr gyda Covid-19 a pha mor anodd yw hi i staff meddygol gadw pawb yn saff.
"Ond ry'n ni'n gofyn iddyn nhw edrych ar bob achos ac ystyried - lle mae pobl gyda phroblemau cyfathrebu, a allan nhw fynd â rhywun i mewn gyda nhw."
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod "amodau eithriadol yn eu lle yn barod i sicrhau bod pobl yn medru ymweld â phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, megis dementia, anabledd dysgu neu awtistiaeth yn yr ysbyty.
"Mae'n hollol addas i bobl ag anghenion penodol i gael eu tywys i'r ysbyty ar gyfer apwyntiad os fyddai hi'n niweidiol i'w gofal pe na baent yn cael eu cefnogi.
"Mewn achosion o'r fath, dylid gofyn am ganiatâd cyn dod i'r ysbyty gan y nyrs sy'n gyfrifol am yr ardal."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd22 Mai 2020
- Cyhoeddwyd20 Mai 2020