Gwrthod estyniad i drwydded pwll glo brig Nant Helen
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i fwyngloddio ar safle glo brig ddod i ben "yn brydlon" yn dilyn penderfyniad gweinidog i beidio ag awdurdodi estyniad i drwydded.
Mae 110 o weithwyr ar safle 850 erw Nant Helen a 50 yn yr olchfa gyfagos.
Cafodd cwmni Celtic Energy "sioc" wedi penderfyniad Lesley Griffiths i beidio ag awdurdodi'r estyniad amser.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod cloddio am lo yn cael "effeithiau amgylcheddol a newid hinsawdd".
Mae 110 o bobl yn gweithio ar safle Nant Helen ym mhentref Coelbren yng Nghwm Dulais, ar ffin siroedd Castell-nedd Port Talbot a Phowys, ac mae 50 arall yn gweithio yn yr olchfa a'r ganolfan ddosbarthu gyfagos yn Onllwyn, sydd erbyn hyn dim ond yn gwasanaethu pwll glo Nant Helen.
Roedd yr Awdurdod Glo wedi rhoi trwydded hyd at 31 Rhagfyr 2021, ond mae penderfyniad y gweinidog amgylchedd Lesley Griffiths yn golygu nad oes gan Celtic Energy y drwydded angenrheidiol ar gyfer mwyngloddio yn Nant Helen.
Dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru wrthod awdurdodi trwydded yr Awdurdod Glo ar gyfer mwyngloddio glo masnachol.
Esboniodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Wrth i ni symud tuag at economi carbon isel, rydym yn rhagweithiol yn cefnogi trosglwyddiad adeiladol i ffwrdd o echdynnu a defnyddio glo, gan sicrhau bod ardaloedd lle mae glo yn cael eu hechdynnu ar hyn o bryd yn cael eu hadfer i safon uchel.
"Byddai echdynnu glo parhaus o Nant Helen yn cael effeithiau anochel ar yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd.
"Mae gwrthod awdurdodi estyniad y drwydded yn sicrhau bod y glo yn aros yn y ddaear ac ni fydd yn cyfrannu at newid hinsawdd fyd-eang, sydd er budd pobl Cymru."
Nid yw penderfyniadau trwyddedu'r gweinidog o dan Ddeddf y Diwydiant Glo yn destun proses apelio.
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae'r Gweinidog eisiau i'r Awdurdod Glo ddatblygu datrysiad i roi effaith brydlon i'w phenderfyniad a rhoi diwedd ar echdynnu glo mewn ffordd sy'n lleihau effeithiau amgylcheddol, gan gyflawni'r canlyniadau tymor hir gorau."
'Ystyried opsiynau'
Esboniodd Paul Frammingham, prif swyddog cyllid a gwybodaeth yr Awdurdod Glo, nad oedd y drwydded a gyhoeddon nhw "yn ddilys oni bai bod ganddi gymeradwyaeth Gweinidog Llywodraeth Cymru".
"Rydyn ni nawr yn gweithio gyda Celtic Energy, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Chynghorau Sir Powys a Chastell-nedd Port Talbot i drafod yr opsiynau, yn unol â llythyr y Gweinidog, i ddod ag echdynnu glo i ben mewn ffordd sy'n lleihau'r effeithiau amgylcheddol ac yn cyflawni'r canlyniad tymor hir gorau ar gyfer y safle a'r cymunedau cyfagos," meddai.
Pwll glo brig Nant Helen, ynghyd â'r olchfa lo drws nesaf yn Onllwyn, yw'r lle a ffafrir ar gyfer safle profi trenau gwerth £100m a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018.
Ar hyn o bryd mae'n rhaid i weithgynhyrchwyr anfon trenau ledled Ewrop i'w profi cyn iddynt ddod yn ôl i'r DU i wasanaethu.
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n cyflwyno'r cais cynllunio ar gyfer Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yr haf hwn.
Dywedodd Will Watson, prif weithredwr Celtic Energy, wrth BBC Cymru eu bod wedi cael "sioc" o glywed penderfyniad y gweinidog.
Ychwanegodd Mr Watson y bydd angen "nifer sylweddol o weithwyr ar gyfer y cam adfer" ar safle Nant Helen "ac rydym yn gobeithio y bydd hynny'n cyd-fynd â, neu yn cael ei ddilyn gan, waith ar brosiect Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd".
"Felly ein gobaith yw y gallwn gadw efallai dwy ran o dair o'r gweithlu am gryn amser."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2016
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020