Peidio ailosod ffordd gwaith glo'n 'frad'

  • Cyhoeddwyd
Parish Road
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffordd bresennol â tharmac ond fe allai gael ei throi'n drac-lludw neu'n llwybr ceffylau yn y dyfodol

Mae trigolion pentref yn Rhondda Cynon Taf yn "gandryll" ac yn cyhuddo cwmni cloddio o'u "bradychu" trwy benderfynu peidio ag ailosod ffordd gafodd ei chau dros dro ar gyfer gwaith glo brig.

Cafodd Parish Road sy'n cysylltu pentref Rhigos ger Hirwaun a Chwmgwrach yng Nghwm Nedd ei chau yn 1997, pan agorwyd safle glo brig dadleuol Selar ar y tir.

Roedd 'na amod yn y caniatâd cynllunio i gwmni Celtic Energy ailosod yr heol fel ag yr oedd, ond mae trigolion yn dweud bod y cwmni bellach am osod llwybr ceffylau yn hytrach.

Yn ôl Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Celtic Energy mae barn gymysg yn yr ardal dros ailagor y ffordd ac mae ymgynghoriad wedi cael ei gynnal.

Ond mae pentrefwyr yn Rhigos yn honni nad oedden nhw'n ymwybodol o unrhyw ymgynghoriad cyn gweld yr opsiynau amgen.

'Llechwraidd'

"Mae pob opsiwn amgen yn rhai sâl a gwelw i'r hyn gafodd ei addo, cyn iddyn nhw dynnu'r glo a'r arian o Selar," meddai'r cyn-löwr, John Morris.

"Roedden ni gyd - yn naïf, efallai - ar ddeall y byddai addewidion ar bapur yn cael eu cadw a byddai'r ffordd yn cael ei hadfer fel ag yr oedd cyn i'r mwyngloddio ddechrau."

Mae Celtic Energy wedi cynnig tri opsiwn ar gyfer adfer y ffordd - un i droi'r ffordd, sydd â tharmac yn barod, yn drac-lludw a dau arall i sefydlu llwybr ceffylau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed John Morris bod ef a chyn-löwr eraill wedi ymgyrchu o blaid amodau denu'r safle glo brig, gan feddwl bydde addewidion ynghylch y ffordd yn cael eu cadw

"Rwy'n gandryll, hollol gandryll achos mae'r ffordd y mae hyn wedi digwydd mor llechwraidd," meddai Mr Morris, sy'n dweud bod trigolion yn teimlo eu bod wedi cael eu bradychu.

"Fe wnaethon nhw addo y bydden nhw'n gwneud e, ond fe wnaethom ni addewidion hefyd ar eu rhan. Gwnes i a nifer o lowyr eraill ar y pryd ymgyrchu'n gryf o blaid y safle yma achos byddai swyddi'n dod i'r pentref.

"Roedd yn rhywbeth dros dro ac ar y diwedd bydde popeth yn ôl fel yr oedd, ac maen nhw wedi ein siomi. Maen nhw wedi gadael pobl Rhigos i lawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffordd yn cysylltu pentrefi Rhigos a Chwmgwrach

Mae'r cyngor sir wedi dal bond o dros £14m ers rhoi caniatâd cynllunio i'r cwmni, ac roedd £1.06 ohono wedi'i glustnodi'n benodol ar gyfer adfer y ffordd yn llawn.

Dywedodd Mr Morris: "Pan siaradais i gyda phennaeth cynllunio'r cyngor, dywedodd y fenyw, 'dyw £1.06m 20 neu 25 o flynyddoedd yn ôl ddim gwerth yr un faint nawr'. Ond does bosib mai eu dyletswydd nhw oedd buddsoddi'r arian, nid i'w adael yn gorwedd mewn banc i ddibrisio?

"Mae'r pot dal yna. Os nad ydyn nhw wedi ei fuddsoddi'n dda, mae hynny'n gamweinyddu yn fy marn i."

'Cronfa ddigonol'

Gwrthododd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ddatgelu beth yw gwerth presennol y bond, ond fe ddywedon nhw eu bod yn "hyderus bod 'na gronfa ddigonol" i adfer "rhannau o'r safle sydd heb eu hadfer hyd yma".

Dywedodd llefarydd fod Celtic Energy wedi cynnal arddangosfeydd cyhoeddus yn ardal Cwmgwrach a Rhigos i gasglu barn trigolion a datgelu'r cynlluniau arfaethedig.

Doedd y cyngor ddim yn rhan o'r broses yna, meddai, ac mae'r awdurdod yn aros nawr am gais cynllunio "a fydd yn destun asesiad cynhwysfawr yn unol â'r ddeddfwriaeth a pholisïau cynllunio".

Mae'r cyngor hefyd yn dweud bod "yr amod [cynllunio] ddim yn rhagnodi dyluniad neu orffeniadau ffyrdd cyhoeddus ac mae'r datblygwr yn y broses o ystyried nifer o opsiynau gwahanol".

Fodd bynnag, mae'r caniatâd cynllunio diweddaraf i Celtic Energy yn datgan angen i adfer y ffordd i safon "nad sy'n llai hwylus" nag yn y cyfnod cyn dechrau cloddio.

Disgrifiad o’r llun,

Mynedfa i waith glo brig Selar, a agorodd yn 1997

Dywed prif weithredwr Celtic Energy, Will Watson eu bod yn trafod gyda'r cyngor sir dros y blynyddoedd diwethaf "i gytuno ar fanylion cynllun atgyweirio diwygiedig ar y safle".

"Cytunom, parthed Parish Road, y byddwn ni'n ymgynghori gyda'r ddwy gymuned ar ddau ben y safle cyn cyflwyno cynnig i Gyngor Castell-nedd Port Talbot," meddai.

"Dangosodd yr ymgynghoriad bod yna safbwyntiau gwahanol naill ben y safle a'r llall ac unwaith y bydd ein hadolygiad o atebion yr ymgynghoriad ar ben fe wnawn ni gyflwyno cynllun i'r cyngor ei ystyried."

Mewn llythyr i'r cyngor, mae trigolion yn cyhuddo'r awdurdod o fod yn rhan o "ystryw" gyda'r cwmni i arbed arian ar orfod cynnal a chadw'r ffordd.

Dywed y llythyr: "Gallai hyn yn oed y sawl lleiaf sinigaidd ddychmygu budd ar y cyd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn derbyn trac-lludw, ffordd goedwigaeth, a'r arian a arbedwyd yn cael ei ddefnyddio i liniaru neu wneud argraff dda ar eraill [mewn cyfnod lle mae'r esgid yn gwasgu i awdurdodau lleol]."