Cyngor Gwynedd 'wedi diswyddo dau athro yn annheg'
- Cyhoeddwyd
Mae Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth wedi dyfarnu bod dau athro wedi cael eu diswyddo'n annheg wrth golli eu gwaith yn ystod cynllun ad-drefnu addysg yn nalgylch Dolgellau.
Apeliodd Cyngor Gwynedd yn erbyn canlyniad tribiwnlys cyflogaeth yn Wrecsam yn 2018 a ddyfarnodd o blaid dau gyn-athro hen Ysgol y Gader, Shelley Barratt ac Ioan Hughes.
Nawr mae undeb addysg yn galw ar yr awdurdod i dalu iawndal i'r ddau, gan ddweud eu bod wedi cael eu trin yn "ddychrynllyd".
Mae Cyngor Gwynedd wedi mynegi "siom" ar ôl colli'r apêl, gan ddweud eu bod "yn archwilio dewisiadau o ran camau pellach".
Fe benderfynodd y cyngor i ad-drefnu ysgolion ardal Dolgellau yn 2015, gan gau ysgol uwchradd Ysgol y Gader a naw ysgol gynradd a sefydlu ysgol gymunedol newydd, Ysgol Bro Idris ar gyfer disgyblion 3-16 oed.
Roedd yn rhaid i staff ailymgeisio am eu swyddi eu hunain yn yr ysgol newydd, oedd ar safle Ysgol y Gader, ond roedd Ms Barratt a Mr Hughes yn aflwyddiannus ac fe gawson nhw wybod eu bod yn cael eu diswyddo.
Roedd y ddau o'r farn y dylid fod wedi rhoi cyfle iddyn nhw apelio, ond dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol y Gader - arweinydd presennol Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn - na fyddai apêl yn gwneud gwahaniaeth gan fod yr ysgol am gau.
Cafodd y sylwadau hynny eu disgrifio gan y tribiwnlys yn Wrecsam fel rhai "rhyfeddol, gwael a sylfaenol anghywir".
Er i'r tribiwnlys hwnnw dderbyn yr angen am ddiswyddiadau, dywedodd fod y diswyddiadau'n annheg oherwydd y ffordd yr aeth y cyngor ati i weithredu'r broses, ynghyd â diffyg ymgynghori.
Yn y gwrandawiad apêl yn Llundain, dywedodd y cyngor fod dyfarniad y tribiwnlys yn "afresymol" ond fe anghytunodd llywydd y Tribiwnlys Apêl, Mr Ustus Choudhury.
Cafodd yr athrawon eu cynrychioli yn y tribiwnlys gwreiddiol gan undeb NASUWT.
Wedi'r dyfarniad diweddaraf, dywedodd Colin Adkins o'r undeb: "Rwy'n gobeithio y bydd Cyngor Gwynedd yn gwneud y peth cywir o'r diwedd a rhoi iawndal i'r ddau gyn-weithiwr yma am y driniaeth ddychrynllyd maen nhw wedi'i ddioddef.
"Rwy'n gobeithio nad ydyn nhw am wastraffu mwy o arian cyhoeddus yn amddiffyn crebwyll gwael cadeirydd y llywodraethwyr ar y pryd, sy'n digwydd bod yn arweinydd ar y cyngor."
Penderfyniad 'anghywir'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae'r Cyngor yn nodi gyda siom na fu ei apêl i'r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth yn Llundain yn llwyddiannus.
"O dan reolau gan Lywodraeth Cymru, y cyrff llywodraethu mewn ysgolion unigol - nid y cynghorau sir - sydd â'r grym i wneud penderfyniadau staffio mewn ysgolion.
"Mae'r cyngor yn parhau o'r farn bod penderfyniad y Tribiwnlys Cyflogaeth - a ddyfarnodd ei fod ar fai am ddiswyddo annheg - yn anghywir.
"Mae'r cyngor yn awr yn ystyried dyfarniad y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth ac yn archwilio dewisiadau o ran camau pellach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020