Drakeford: 'Dim newid' wrth adolygu cyfyngiadau Covid-19

  • Cyhoeddwyd
arwyddion ger Pen-y-FanFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r prif weinidog Mark Drakeford wedi dweud na fydd yn newid ei ddull o ystyried newidiadau i gyfyngiadau coronafeirws, "pa bynnag mor uchel yw'r galwadau" iddo wneud hynny.

Roedd yn siarad yn ystod cynhadledd ddyddiol y llywodraeth i'r wasg ddydd Gwener.

Yma yng Nghymru mae pobl wedi eu cyfyngu i deithio pellter o bum milltir ar gyfer hamddena, ac mae siopau nad ydynt yn rhai hanfodol yn parhau ar gau.

Yn Lloegr nid oes cyfyngiad ar bellter teithio ac mae siopau yn ailagor ddydd Llun.

Twristiaeth

Fe rybuddiodd grŵp o arweinwyr y diwydiant twristiaeth yn gynharach yn yr wythnos fod y sector "ar fin dymchwel" o achos y cyfyngiadau teithio sydd mewn grym yma.

Y diwydiant twristiaeth yw'r ail fwyaf yng Nghymru - cafodd £6.3bn ei wario yma gan ymwelwyr yn 2018.

Bydd adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau yn digwydd ymhen wythnos, ond mae Mr Drakeford wedi gwrthod y galwadau i adolygu'r drefn yn gynt.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Gallwn ddewis llwybr lle gallwn adennill ein rhyddid yn raddol, yn ofalus ac yn ddiogel, gan ddefnyddio'r gofod yr ydym wedi ei greu gyda'n gilydd - ond byth yn cymryd camau fyddai'n tanseilio'n fwriadol popeth yr ydym wedi ei gyflawni," meddai.

"Neu fe allem ei daflu i ffwrdd, codi'r cyfyngiadau ar frys a wynebu'r perygl gwirioneddol y gallai'r feirws marwol yma ddod i'r wyneb eto yng Nghymru."

Ychwanegodd: "Rwyf am i chi wybod beth bynnag fydd yn digwydd mewn mannau eraill, pa bynnag mor uchel yw'r galwadau i wneud pethau'n wahanol, byddwn yn parhau ar y llwybr yr ydym wedi ei ddewis."

Cyfradd 'R' yn is

Mae nifer yr achosion wedi bod yn gostwng yng Nghymru, gyda'r gyfradd 'R' - y rhif cyfartaledd o bobl sy'n cael eu heintio gan bob person sydd wedi dal yr haint - nawr i lawr i 0.7.

Ychwanegodd Mr Drakeford y gellid cael "agwedd mwy hyblyg" tuag at lacio cyfyngiadau cloi yn y dyfodol.

Dywedodd fod y drefn bresennol o adolygu'r trefniadau'n "fframwaith" ac nid hualau cyfyng.

Esboniodd fod y llywodraeth wedi gwneud addasiadau yn ystod y cyfnod adolygu yn y gorffennol "pan roeddem yn credu mai hyn oedd y peth cywir i'w wneud".

"Byddaf yn awyddus pan yn siarad wythnos nesaf i edrych ymlaen tu hwnt i'r tair wythnos nesaf, hefyd, i roi rhai arwyddion i ran o'r economi yng Nghymru, am sut y byddwn, os yn parhau i weithredu yn y ffordd yr ydym wedi bod yn ei wneud a pharhau i greu'r gofod sydd ei angen, yna gallwn wneud mwy tu hwnt i'r tair wythnos nesaf hefyd.

"Ac os byddem yn llwyddo ac rydym yn gallu creu mwy o gyfle i ddychwelyd mwy o ryddid i bobl yn y dyfodol, yna fe all fod agwedd fwy hyblyg yn ffordd mwy defnyddiol o adlewyrchu'r amgylchiadau hynny", meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd hefyd y bydd y cyngor am gadw pellter o ddau fetr ond yn newid os bydd y cyngor gwyddonol yn newid.

Roedd cyngor llywodraethau Cymru a'r DU yn "eglur iawn - os ydych yn haneru'r pellter o ddau fetr i un metr rydych yn dyblu'r risg".

Bellach roedd 32 o bobl yn derbyn gofal critigol mewn ysbytai yng Nghymru am coronafeirws meddai - sef y ffigwr isaf ers 25 Mawrth.