Profi twristiaid am coronafeirws er mwyn 'tawelu ofnau'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Ceredigion wedi awgrymu y byddai profi twristiaid am coronafeirws yn un ffordd o leddfu pryderon pobl leol.
Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y byddai cynllun o'r fath yn "tawelu ofnau llawer iawn o bobl."
Mae Ceredigion wedi ennill clod am y modd y mae wedi delio â coronaferiws, gyda llai na 50 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 trwy'r sir.
Ond ychwanegodd Ms ap Gwynn nad yw'n credu bod cymunedau'r sir yn barod i groesawu ymwelwyr eto.
'Nerfus iawn'
"Dwi ddim yn credu ein bod ni'n barod eto. Pan ydyn ni'n clywed adroddiadau nôl gan aelodau lleol a'r cyhoedd maen nhw'n nerfus iawn o groesawu pobl yn ôl," meddai.
"Pe byddan ni'n gallu rheoli niferoedd ac o lle maen nhw'n dod yna efallai y byddan nhw'n hapus, ond wrth gwrs mae hynny'n anodd iawn i'w wneud."
Ychwanegodd y byddai hyder pobl yn cynyddu pe bai modd cynnal profion Covid-19 neu brofion tymheredd ar unrhyw un sy'n dod i'r sir, ond y "byddai angen capasiti llawer mwy na sydd 'na nawr."
"Pe byddai pobl yn gallu cael eu profi ar ôl dod i mewn, ac yn profi'n negyddol, yna byddai hynny'n help mawr," meddai.
"Pe byddai modd gwneud hynny byddai'n tawelu ofnau llawer iawn o bobl dwi'n siŵr."
Ond ychwanegodd Ms ap Gwynn y byddai'n "dipyn o her" cael profion o'r fath mewn lle.
Pryder am ail don
Dywedodd bod poblogaeth Ceredigion wedi lleihau o tua 35,000 yn sgil cau meysydd carafánau a Phrifysgol Aberystwyth.
Pe bai ymwelwyr yn dychwelyd, dywedodd Ms ap Gwynn bod ganddi bryderon a allai'r gwasanaeth iechyd lleol ymdopi pe bai ton newydd o achosion.
Mae Eleri Davies a'i gŵr yn rhedeg Maes Carafanau Blaenwaun ar arfordir Ceredigion, ac yn dweud bod busnesau fel eu rhai nhw wedi dioddef yn sylweddol yn ystod y pandemig.
Er ei bod hi'n "eithaf cefnogol" o'r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi taclo'r pandemig, mae'n dweud y byddai'n dda i fusnesau yn y diwydiant twristiaeth gael mwy o sicrwydd ynghylch eu hamserlen o ran ailagor.
"Mae'n anodd iddyn nhw roi dyddiad… achos falle bydd y sefyllfa wedi newid yn llwyr," meddai.
"Ond tasen nhw'n dweud 'ni fyddwn ni'n edrych ar y sefyllfa nes 1 Awst' er enghraifft, ma' fe'n rhoi tamed bach o amser i ni gynllunio a pharatoi ar gyfer sut i agor."
'Cydsyniad cymunedol'
Mae'n cydnabod fodd bynnag nad pawb yn yr ardal fyddai'n croesawu gweld ymwelwyr yn dychwelyd i Geredigion, gyda'r pandemig yn parhau a'r sir ar hyn o bryd â'r gyfradd Covid-19 isaf yng Nghymru.
"Pan fyddwn ni'n agor bydden ni yn gobeithio falle bod ni'n gallu gwneud hynny gyda rhyw gydsyniad cymunedol, a bod yr ymwelwyr sydd yn dod yn parchu ac yn cydymffurfio â'n rheolau ni a'n gweithdrefnau ni yma yng Nghymru," meddai.
Mae un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru wedi dweud ei bod yn gwbl hanfodol i Lywodraeth Cymru roi eglurder cyn gynted â phosib ynglŷn â phryd y bydd modd ailagor busnesau twristiaeth.
Dywedodd Chris Ebsworth, rheolwr gyfarwyddwr Fferm Folly, bod y sefyllfa yn "ddifrifol" i'r busnes a'i bod yn "hanfodol i gael rhywfaint o refeniw."
"Heb refeniw fydd hi ddim yn bosib i oroesi," meddai.
Mae'n costio £60,000 bob mis i fwydo'r anifeiliaid yn Fferm Folly, sydd yng Nghilgeti yn Sir Benfro. Mae gan y busnes drosiant blynyddol o £8m ac mae'n cyflogi 150 o staff.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi awgrymu y bydd yna gyhoeddiad am dwristiaeth yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener.
Dywedodd Mr Ebsworth bod y sectorau twristiaeth a lletygarwch yn "hanfodol i oroesiad economaidd Cymru" a bod angen i bethau newid yn "weddol sydyn."
Mae'n dweud bod y busnes wedi bod yn paratoi strategaeth i ailagor ers deufis.
"Mae gyda ni 150 o erwau," meddai.
"Os ydyn ni yn cyfyngu ar y niferoedd, fe allwn ni roi un erw bron iawn o bob person.
"Fydd hi ddim yn bosib ailagor rhai atyniadau dan do."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020