Her stori fer: Y Diwrnod Cyntaf Heb Gyfyngiadau

  • Cyhoeddwyd

Gosododd Cymru Fyw her i chwech o awduron Cymru ysgrifennu stori am y diwrnod cyntaf o ryddid wedi'r cyfnod clo.

Ni chafodd yr un ohonynt, heblaw un, wybod am beth oedd yr awdur blaenorol wedi'i ysgrifennu - dim ond pa adeg o'r diwrnod oedd hi.

Dyma'r canlyniad:

Y Diwrnod Cyntaf Heb Gyfyngiadau

gan Manon Steffan Ros, Ifan Morgan Jones, Cynan Llwyd, Bethan Gwanas, Guto Dafydd ac Anni Llŷn.

Disgrifiad,

Manon Steffan Ros

Bore.

Ma' tŷ ni'n dawel, dawel ar ddechra' un bob dydd.

Dwi'n deffro yn bora a dwi'n fy ngwely bach fy hun, a ma' bob dim 'run fath ag o'dd o'r noson gynt, heblaw weithia' ma'r gola' bach wedi diffodd neu ma' Doti 'di disgyn ar lawr. Ma'n oce, dim ond doli ydi hi, felly 'di hi'm 'di brifo na'm byd. Ond os 'di 'di disgyn, dwi'n ei chodi hi ac yn ei dal hi ac yn deud, 'Na fo, 'na fo.

Wedyn dwi'n dechra' clywed mor dawel ydi bob man, ac ma' hynna'n 'neud i fi deimlo'n rhyfedd, fel taswn i ben fy hun. Felly dwi'n codi ac yn mynd i lofft Mam. A bob bore, bob un bore, mae Mam yn dal i gysgu. Ma' hi'n gorfadd ar ei hochr a ma'i phena-glinia' hi 'di plygu fyny at ei bol.

Dwi'n dringo i fyny i'r gwely ati hi. Ma' gwely Mam wastad yn gynnes, ac mae'r gobennydd yn ogleuo fatha hi. Weithia', ma' hi'n cysgu efo'i cheg yn 'gored.

Dwi'n gwylio hi, ond ddim am ry hir, achos ma' Mam yn edrych yn wahanol pan ma' hi'n cysgu a dwi'm yn licio hynna. Felly dwi'n mwytha hi i ddeffro hi, neu'n chwara' efo'i gwallt hi. Ac ma' hi'n deffro'n ara' bach, ac yn dal fi yn ei breichia' yn dynn dynn. Dwi'n gallu teimlo'i chalon hi a'r blew pigog ar ei choesa'.

Amser maith yn ôl, de...

Amser maith yn ôl, Mam oedd yn deffro fi, ac o'dd hi wedi codi a gwisgo dillad gwaith a 'neud ei meic-yp. O'dd hi'n gweiddi Eeeerin! Amser coooo-di! ac os o'n i'n cymryd rhy hir, o'dd hi'n mynd yn flin ac yn deud, Cym ON, Erin, neu fyddwn ni'n hwyr! O'n i'n codi ac yn gwisgo ac yn cael brecwast, ac yn mynd i'r ysgol a doedd Mam BYTH yn cysgu'n bora. Doedd hi byth yn cysgu, deud gwir.

Rŵan, ma' hi'n dal fi am hir yn y gwely, ac wedyn yn sbio ar ei ffôn i weld yr amser - han' 'di wyth, Er fach. Tisho brecwast? Weithia' 'da ni'n mynd lawr grisha'n syth ac yn cael brecwast - o'n i'n yn gwbod, amser maith yn ôl, fod Mam yn licio Coco Pops hefyd - ond rhan fwya', 'da ni'n gorfadd yn y gwely am hir, a ma' Mam yn deud storis am amser maith yn ôl, a 'dwi'n meddwl bo' fi byth, byth isho i Mam godi cyn fi eto. Amser maith yn ôl, o'n i'n methu hi er 'mod i'm yn gwbod ar y pryd.

Disgrifiad,

Ifan Morgan Jones

Canol y bore.

Cerddodd Paul drwy'r pentref a'i lygaid yn dilyn patrwm y craciau yng ngherrig y palmant. Roedd newydd ffarwelio â'i blant wrth giât yr ysgol. Wedi disgwyl teimlo gorfoledd. Buon nhw'n gwrando ar y radio ar ôl codi a'n clywed am y bobol yn casglu ar Sgwâr Trafalgar am barti mawr - ceisio efelychu VE Day adeg yr Ail Ryfel Byd. VV day - victory over the virus! Pawb yn rhydd!

Ond y cyfan allai Paul feddwl amdano yn yr eiliad honno oedd bod yn ddeg oed eto, ac eistedd ar lin ei fam-gu a hi'n dweud rhywbeth oedd wedi peri dryswch mawr iddo ar y pryd.

'Mi wnes i fwynhau'r rhyfel, ti'n gwybod? Roedd o'n adeg gyffrous.'

Penbleth. Dyna air da trosiadol. Disgrifiad da o'i ben bach deg oed yn ceisio gwneud synnwyr o'r peth a methu. Sut all rywun fwynhau rhyfel? Wel, sut all rywun fwynhau pandemig?

Ond er na fyddai yn cyfaddef hynny wrth neb, roedd wedi mwynhau. Nid darllen y penawdau erchyll am y marwolaethau. Ond wedi mwynhau cael gweithio gartref. Peidio gorfod gyrru i'r swyddfa.

Peidio gorfod poeni am sut oedd yn edrych. Peidio shafio. Gwisgo ei byjamas drwy'r dydd. Bath unwaith yr wythnos. Beth oedd yr ots? Peidio gorfod plesio neb.

Cwmni ei wraig Carol, hefyd. Roedden nhw wirioneddol wedi gallu treulio amser gyda'i gilydd am y tro cyntaf ers priodi. Dod i nabod ei gilydd yn iawn, y da a'r drwg.

A'r plant, pan nad oedden nhw'n ffraeo a'n gwneud iddo rwygo'r ychydig wallt oedd ganddo ar ôl o'i ben. Deall cymaint oedd eu personoliaethau wedi newid.

Gwaith, gwaith, gwaith, dyna ei fywyd cyn y pandemig. Dyrchafiad, tŷ rhagor o faint, ateb e-byst, siwt a thei. Cyfarfod, un ar ôl y llall. Degawdau wedi asio yn un. Mynd, mynd, mynd. Ac i le? Roedd y byd wedi cael stopio, wedi cael amser i feddwl. A Paul hefyd.

'Bydd brecwast yn rhoi'r byd nôl yn ei le,' meddai. Trodd i gyfeiriad Caffi Colin a thynnu ar ddolen y drws. Ond ni agorodd. Syllodd i dduwch y ffenestri, a'i ddwylo o amgylch ei lygaid fel ysbienddrychau.

'Mae wedi cau,' meddai dyn o'r stryd a oedd yn mynd heibio â'i gi.

'Ond mae lockdown 'di gorffan.'

'Methu talu'r morgais.' Cerddodd y dyn yn ei flaen.

Rhwbiodd ei fysedd drwy ei farf. Efallai na fyddai pethau byth yn union yr un fath. Bosib bod sawl un wedi cael amser caletach nag o. Efallai y dylai fod yn ddiolchgar. Trodd am adref.

Wrth gyrraedd gwelodd fod Carol wedi picio allan. Y car wedi mynd. A'r drws ar glo. Y goriad dan y pot blodyn.

Aeth drwodd i'r gegin. Roedd nodyn ar y bwrdd.

'Paul - wedi mynd i hen dŷ Mam. Wedi sylweddoli dros y misoedd nad ydi pethau'n iawn. Ddim eisiau dweud dim nes fy mod i'n gallu gadael y tŷ, rhag ofn... Fydda i'n casglu'r plant. Gyrra neges WhatsApp os wyt ti eisiau. Dydw i ddim eisiau dy weld di, wyneb yn wyneb. - Carol.'

Disgrifiad,

Cynan Llwyd

Amser cinio.

Cyn y lockdown fe ges i wahoddiad i fynd am fwyd mewn bwyty posh gydag awdur. Fe gwrddon ni mewn gig codi arian i'r Ganolfan Gelfyddydau. Wel, fe ges i orchymyn o ryw fath i fynd am fwyd. Der am fwyd, oedd y neges destun. Iawn, medde fi, a difaru'n syth fy mod wedi ymateb mor frysiog. The Grillhouse. Nos Sadwrn? Oce.

Yng ngwres y tân agored, a thri botwm top ei grys heb eu cau, siaradodd am ei brosiect diweddaraf, sef lawnsio cylchgrawn llenyddol fydd yn canolbwyntio ar fywydau'r dosbarth canol dinesig. Bron i mi dagu ar fy niod, ond llwyddais i'w lyncu pan sylweddolais nad oedd hwn yn tynnu coes. Cefais fy mwydro ganddo yn rhestru enwau ei ffrindiau enwog (roedd enw un ohonyn nhw'n lled-gyfarwydd) ac yn mynnu mod i'n yfed coctels a gostiai cymaint â'r esgidiau ar fy nhraed. Roedd fy mhen yn troi.

Dwi angen awyr iach.

Cydiodd yr awdur ynof a'm harwain allan i'r iard, a oedd dan ei sang gyda phobl yn mwynhau sipian gwin yn y rhyddid olaf cyn y lockdown. Beth oedd yn y Neon Kiss? Roedd wynebau pawb yn brydferth, a'u chwerthin gorffwyll yn brifo nghlustiau wrth i'r awdur wasgu fy mraich.

Yn y tacsi ces amlinelliad o'i hunangofiant, ond alla i ddim cofio'r un manylyn. Rhywbeth am Gaergrawnt? Ei fodryb oedd berchen y fflat, a fe oedd yn gwarchod y lle tra ei bod hithau'n treulio blwyddyn yn Rhufain. Bore trannoeth, wrth sipian coffi chwerw a cheisio meddwl am esgus i ddianc, dechreuais ddarllen un o nofelau'r awdur oedd wedi ei osod yn strategol ar y bwrdd coffi.

Fi orchmynnodd ein bod yn cyfarfod am ginio yr ail dro. Dwi angen dy weld. A difaru'n syth. Mae'n amlwg iddo gamddeall ergyd y geiriau ac ymatebodd yn syth. Wrth gwrs, methu aros i dy weld unwaith eto. Syllais yn fud ar fy ffôn a theimlais gic yn fy mol, cwlwm yn tynhau.

Eisteddais wrth yr un bwrdd yn disgwyl amdano, yn pobi yn haul Ha' bach Mihangel a'm ffroc yn glynu amdanaf. Mae angen siopa am ddillad newydd, meddyliais. Ymddiheurodd am fod yn hwyr. Mae'r traffig yn tagu'r hewlydd eto, prin deuddeg awr ers gorffen y lockdown. Eisteddodd heb ofyn sut oeddwn i.

Estynnodd am y fwydlen. Wystrys? Dim diolch. Oce, beth am sushi? Fedra i ddim. Coctel bach wrth i ni benderfynu? O'r diwedd, cododd ei lygaid o'r fwydlen a'm gweld yn gorffwys fy llaw ar fy mol.

Disgrifiad,

Bethan Gwanas

Ganol pnawn.

Wel, dyna hynna. Dim ond ganol pnawn, dwi'n nôl adre ac wedi blino'n rhacs! Dwi newydd gymryd Panadol deud gwir.

Roedd hi'n braf gweld pawb. Roedd Medi, chwarae teg iddi, wedi trefnu bod pawb yn mynd draw am farbeciw ganol bore. Roedd Siôn wedi cynnig dod i fy nôl i, ond do'n i'm isio creu trafferth, felly nes i yrru draw fy hun. Yn ara wrth gwrs. Dwi'm wedi gyrru ers cyhyd, ac roedd y ffyrdd mor brysur, a phawb yn bibian a chodi llaw. Roedd hynny'n hwyl ond ro'n i'n stiff fel procar erbyn cyrraedd.

Roedd hi'n lyfli gweld pawb - ges i ffasiwn groeso! Pawb yn cofleidio'i gilydd, a'r rhan fwya ohonon ni 'rioed wedi cofleidio o'r blaen. Wnes i'm cyfadde wrth reswm, ond do'n i ddim yn gyfforddus. Ro'n i wedi anghofio sut i neud. Doedd hyd yn oed John a fi ddim yn cofleidio rhyw lawer, a doedd neb wedi nghofleidio i ers y cnebrwng. Nath hynny nharo fi wrth i Medi ngwasgu i. Roedd o ar fin fy nhafod i: "Ro'n i newydd gladdu ngŵr pan wnest ti hynna i mi ddwytha, Medi." Ond ddudis i'm byd wrth gwrs, dim ond gwasgu'n ôl, ac roedd 'na ddagrau yn llygaid pawb, doedd.

Pawb ond y plant, roedd rheiny'n chwerthin a gweiddi, wedi cyffroi'n lân. Ro'n i wedi edrych ymlaen gymaint at eu gweld nhw yn y cnawd a chael sgwrsio efo nhw, yn enwedig Gwenno fach, rŵan ei bod hi'n siarad fel pwll y môr, ond roedden nhw'n rhy brysur yn rhedeg o un ardd i'r llall i sbio ar ryw hen fodryb fel fi.

Mi fu'n rhaid i mi giwio ac aros fy nhro i weld babi newydd Rhian a Rick. Roedd pawb isio cydio ynddi doedd - a doedd ei nain hi ddim isio gollwng ynddi, felly dim ond sbio arni wnes i. Ac mae hi'n un fach dlws ryfeddol. Mi fydd hi'n bictiwr yn y pedair cardigan dwi wedi eu gweu iddi. Nes i eu gadael nhw yn y parlwr. Do'n i'm isio gneud ffys.

Roedd 'na lot o yfed, a hogia Gwyn yn feddw dwll cyn i'r pwdinau ddod allan. Ges i un Babycham bach. Gyrru toeddwn? 'Nath neb sylwi pan nes i adael, ac mae hi mor braf bod nôl yn saff yn fy nghegin dawel i. Mi gai baned, a fory, nai drio eto.

Disgrifiad,

Guto Dafydd

Amser swper.

Doedd Nerys ddim wedi ymlacio drwy'r wythnosau pan oedd Brei adre o'i waith. Teimlai y dylai gadw'n brysur, yn coginio a thwtio'r tŷ.

Felly, ar y diwrnod pan aeth Brei'n ôl i'r swyddfa, penderfynodd Nerys y byddai'n bolaheulo drwy'r dydd. Ond cyn hir, sylweddolodd na allai barhau i anwybyddu'r patshys brown, marwaidd yng nghloddiau'r ardd.

Cododd. Astudiodd y patshys. Gwelodd y broblem. Roedd eiddew a chwyn wedi meddiannu godre'r gwrych, a'u lapio'u hunain o gwmpas bonion a choesau'r llwyni, nes eu mygu, a chrino'r dail.

Doedd Nerys yn teimlo fawr ddim fel arfer, ond pigai ei chroen â dicter wrth weld y seirff eiddew'n crogi'r bywyd allan o'i chloddiau.

Doedd dim amdani ond ceisio adfer y llwyni i'w iechyd gwyrdd. Heb sgiliau na chynllun, ond heb betruso chwaith, bwriodd iddi. 'Mestynnodd i mewn i'r gwrych, defnyddio'i hewinedd hir i lacio gafael yr eiddew ar y pren, a'i halio allan.

Ar ôl awr o wneud hyn dro ar ôl tro, roedd ei breichiau'n sgriffiadau byw, ond theimlai hi mo'r briwiau: roedd hi'n chwysu a'i chalon yn curo'n gynt gyda'r gwaith. Doedd hi ddim am stopio.

Sylweddolodd nad oedd rhyddhau'r canghennau'n ddigon. Roedd gwaelodion y gwrychoedd yn garped o eiddew. Mater o amser fyddai hi cyn i'r gwrychoedd grino'n llwyr. Rhaid oedd taclo'r sglyfath ar lawr. Cribyn oedd ei dewis dŵl. Gwthiai'r cribyn yn ddwfn i'r gwrych, gadael i'r dannedd fachu yn y llinynnau rheibus, a thynnu'r cribyn allan â'i holl nerth: rhwygo'r eiddew o'i wraidd.

Doedd hi ddim yn ofalus. Torrodd sawl cangen iach wrth waldio'r gwaelodion â'i chribyn. Pris bach oedd hynny i'w dalu. Tyfai'r llwyni'n ôl yn iach a llawn. Dyna'r pwynt.

Teimlai rywfaint yn euog am ladd yr eiddew. Tyfu ydi ewyllys popeth - tyfu a rheoli'i diriogaeth. Doedd o ond yn dilyn ei natur. Ond doedd dim oll yn mynd â bryd Nerys, y pnawn hwnnw, heblaw lladd. Nid oedd, bellach, yn goddef drain ac eiddew'n gorchfygu ei gwrychoedd hi.

Gyda phob darn o'r pla a laddai, teimlai'n fwy byw. Teimlai'n gryfach. Edrychai ymlaen at boen dŵr poeth y gawod yn taro'i briwiau, at gur dwl ei chyhyrau bore fory.

Tua hanner awr wedi pump, daeth Brei adre o'i waith.

"Arglwydd mawr, am lanast," meddai. "Be' ddiawl wyt ti 'di bod yn 'neud? Lle mae swper?"

"Gei di neud swper heno," atebodd Nerys. "Mae popeth yn y ffrij."

Ac wrth iddi ddweud hynny, teimlai fel petai newydd ladd darn arall o chwyn.

Disgrifiad,

Anni Llŷn

Gyda'r nos.

Beth yw'r enw arall, mwy cyfarwydd, ar y planhigyn Hedera Helix?

Mi fydd Brei yn saff o wybod hynna, meddyliodd Steve wrth deipio'r cwestiwn ar y laptop. Roedd ganddo'r rownd olaf i orffen cyn yr alwad. Roedd o wedi anfon y manylion at bawb yn barod.

Rhoddodd y peiriant golchi llestri ymlaen. Ar ôl yr holl wythnosau o gymryd eu hamser gyda phob pryd bwyd, roedd yn rhyfeddol sut yr oeddan nhw wedi mynd yn ôl i fwyta 'rwbath sydyn'. Eisteddodd wrth y laptop gyda'i botel gwrw. Roedd o wedi ei hagor heb feddwl, wedi arfer.

Roedd ei ddiwrnod cynta' nôl wedi ei flino. Roedd 'na dyndra'n croesi ei war ac roedd ganddo dwtsh o gur yn ei ben. Roedd o wedi teimlo'n drwsgwl, rhywsut, trwy'r dydd. Fel tasa fo ddim yn siŵr sut i ddefnyddio'i gorff yn iawn, yn chwithig o ymwybodol o'r ffordd yr oedd o'n symud o gwmpas ei gleients. Heb sylwi, roedd o wedi bod yn rhestru yn ei ben popeth yr oedd pawb yn ei gyffwrdd, ac roedd hynny wedi bod yn llafurus.

Damia, edrychodd ar y cloc a gweld ei bod hi wedi mynd yn rhy hwyr i Facetimio ei nith. Roedd meddwl am gael mynd i'w gweld nhw cyn bo hir yn rhoi pili palas yn ei fol. Cael gafael amdanyn nhw'n iawn. Roedd o am drio dal ati i Facetimio Erin fach bob wythnos.

Edrychodd ar ei restr ar ddrws yr oergell, rhestr o'r pethau yr oedd o am ddal ati i'w gwneud. Facetimio Erin, mynd i gerdded yn amlach, defnyddio'r becws a'r cigydd lleol, cwis Zoom efo'r criw... y cwis! Roedd o angen dau gwestiwn arall.

Beth yw enw nofel ddiweddara' Jeremy Porter?

Edrychodd ar y nofel ar ei silff lyfrau. Doedd o heb ei darllen hi. Steve oedd yn trin gwallt Jeremy, cleient cynta'r dydd heddiw, digwydd bod. Angen sortio'r mop cyn amser cinio, medda fo. Doedd Steve ddim wedi medru gwrando ar air arall ddeudodd o. Dim bod ots, bach o prat oedd o â deud y gwir.

Roedd Steve wedi edrych ymlaen cymaint i glywed arogl y siop, yr holl products, ond wnaeth hynny ddim byd ond codi stwmp o hiraeth arno trwy'r dydd.

Roedd ei feddwl yn crwydro eto. Reit... nofel Jeremy... mi fydd Medi'n siŵr o allu ateb hwnna. Yna cofiodd yn sydyn fod teulu Medi i gyd draw, doedd hi ddim am allu Zoomio. Bechod na fasa 'na rywun wedi galw yma heno, meddyliodd. Pryd oedd y tro dwytha i rywun arall fod yn y tŷ? Dim Medi heno felly, a dim Carol chwaith?

Doedd Carol heb ateb dim un tecst heddiw. Ella ei bod hi wedi deud wrth Paul o'r diwadd, meddyliodd. Fasa hynny ddim yn ei synnu, roedd bron pawb ddaeth i'r siop wedi dweud fod heddiw yn "ddechra newydd". Roedd o fel tasa'r bora wedi bloeddio "ar eich marciau, barod, ewch!" arnyn nhw. Dechrau newydd... beth bynnag oedd hynny'n ei feddwl, meddyliodd wrtho'i hun cyn mynd yn ôl at y cwis.

Ond cyn iddo gael cyfle i ysgrifennu'r cwestiwn olaf, daeth cnoc.

Roedd rhywun wrth y drws.

Hefyd o ddiddordeb: