Arestio dyn mewn cysylltiad â graffiti swastika Penygroes
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn 35 oed ar ôl i arwydd swastika gael ei baentio ar ddrws garej teulu du yng Ngwynedd.
Mae swyddogion yn credu fod y graffiti ym Mhenygroes wedi ei ysgrifennu yn oriau mân y bore dydd Sadwrn, 13 Mehefin.
Dywedodd yr heddlu bod y digwyddiad yn cael ei drin fel trosedd casineb, a bod eu hymholiadau yn parhau.
Ddydd Llun fe wnaeth y llu gyhoeddi delweddau o berson roedden nhw'n awyddus i'w holi mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ond dyw hi ddim yn glir eto ai dyma'r dyn sydd wedi'i arestio.

Dywedodd yr heddlu ddydd Llun eu bod yn awyddus i holi'r dyn yn y llun
Mae teulu Margaret Ogunbanwo wedi sôn am y sioc o ddarganfod y swastika.
Wrth siarad gyda BBC Cymru dros y penwythnos, dywedodd Ms Ogunbanwo ei bod yn credu fod y teulu wedi ei dargedu am eu bod yn ddu.
Daeth nifer o aelodau'r gymuned ynghyd ddydd Llun er mwyn glanhau'r graffiti.

Dywedodd y teulu Ogunbanwo fod achosion o hiliaeth wedi bod yn brin yn yr ardal ar hyd y blynyddoedd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2020