Cadarnhad y bydd timau'n dyrchafu a disgyn yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Cei Conna yn erbyn Y Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, NCM Media
Disgrifiad o’r llun,

Ar frig yr Uwch Gynghrair, Cei Connah sydd wedi eu coroni'n bencampwyr am y tro cyntaf

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd timau yn dyrchafu a disgyn yng nghynghreiriau Cymru wedi i'r tymor gael ei gwtogi yn sgil coronafeirws.

Dywedodd y gymdeithas bod y penderfyniad wedi'i wneud yn dilyn cyfarfod gyda Bwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddydd Mawrth.

Daeth cadarnhad fis Mai y byddai'r tymor yn cael ei gwtogi ac y byddai safleoedd timau'n cael ei benderfynu trwy ddefnyddio dull pwyntiau fesul gêm.

Roedd hynny'n golygu bod Cei Connah yn cael eu coroni'n bencampwyr y gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mae'r penderfyniad hefyd yn dibynnu a fydd timau'n derbyn trwydded i chwarae neu dystysgrif gan y gymdeithas i chwarae yn y gynghrair uwch.

Y timau fydd yn dyrchafu a disgyn yn llawn:

Uwch Gynghrair Cymru (Tier 1)

Dyrchafu: Y Fflint, Hwlffordd.

Disgyn: Airbus (i Gynghrair Gogledd Cymru), Caerfyrddin (i Gynghrair De Cymru).

Cynghrair Gogledd Cymru (Tier 2)

Dyrchafu: Llanidloes, Treffynnon a Hotspur Caergybi.

Disgyn: Llanfair United, Corwen a Porthmadog (i Tier 3 Gogledd Cymru).

Cynghrair De Cymru (Tier 2)

Dyrchafu: Trefelin BGC, Rhisga a Phort Talbot.

Disgyn: STM Sports (am fethu â chael Tystysgrif CBDC Tier 2); Cwmaman a Caerau Trelai (i Tier 3 De Cymru).

Bydd Bwrdd y Gynghrair Genedlaethol yn ystyried yr ailstrwythuro o glybiau Tier 3 ar 10 Gorffennaf ar ôl proses Tystygrif Tier 3.

Uwch Gynghrair Merched Cymru

Dyrchafu: Cascade.

Disgyn: Neb.