Coginio, teledu a seren Michelin Hywel Griffith

  • Cyhoeddwyd
Hywel GriffithFfynhonnell y llun, S4C

Mae 2020 hyd yn hyn wedi bod yn flwyddyn fawr i'r cogydd Hywel Griffith sy'n wreiddiol o Bethesda. Mae ei fwyty ym Mhenrhyn Gŵyr wedi ennill seren Michelin eleni, ac fe gyrhaeddodd y rownd derfynol yn y gyfres The Great British Menu ar BBC2 yn ddiweddar.

Heno, mae ail gyfres Y Sioe Fwyd yn cychwyn ar S4C, lle mae Hywel yn coginio bwyd arbennig i'r gwesteion a'r cyflwynydd Ifan Jones Evans.

Ond er gwaetha'r llwyddiant diweddar, mae'r cogydd yn dweud bod eleni hefyd wedi bod yn flwyddyn heriol i'r diwydiant bwytai, oherwydd y pandemig a'i bod yn "amhosib cynllunio ar gyfer ail agor ar hyn o bryd".

O ble ddaeth dy diddordeb mewn coginio?

O'n i'n 13 oed a wnes i ddod adra o'r ysgol un diwrnod a phenderfynu jyst fel 'na, dwi am fod yn chef - sgen i ddim syniad pam, hyd yn oed rŵan. Mae Mam a Dad a llawer o'r teulu yn gweithio yn y byd teledu. Doedd bod yn chef ddim yn trendy ar y pryd - y math o raglenni bwyd ar y teledu oedd Delia Smith a Can't Cook, Won't Cook.

Wnes i fwy neu lai benderfynu mod i ddim angen dysgu dim byd yn yr ysgol, oedd gen i tunnel vision i fod yn chef ac es i Goleg Menai am dair blynedd a wedyn es i lawr i Lundain.

Disgrifia'r profiad o fynd i weithio yn Llundain yn un o'r gwestai mwya' moethus, The Lanesborough.

Fe wnaeth fy narlithydd yn y coleg awgrymu'r peth, ac o fewn wythnos o'n i yno, yn 17 oed, yn gweithio yng nghanol Llundain, mor sydyn â hynny.

Mae The Lanesborough yn un o'r hotels mwya' drud yn Ewrop, ac roedd pobl fel Madonna a Michael Jackson yn aros yno ar y pryd, roedd o'n brofiad ffantastig.

Os ti isho 'neud yn dda, mae'n rhaid i ti dderbyn y gwaith caled a'r oriau hir. Dwi 'di cyfarfod cymaint o chefs sy'n cwyno am yr oriau, a maen nhw'n mynd mlaen i wneud rhywbeth arall fel dysgu plant i goginio neu'n gadael yr industry yn gyfan gwbwl - mae o'n tough.

Ffynhonnell y llun, Hywel Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Gwobr Michelin 2020 i fwyty The Beach House

Pa mor bwysig ydy cael clod seren Michelin i ti?

Mae pawb yn licio clod a hwnna i unrhyw chef ydy'r ultimate pat on the back.

Mae'n 19 mlynedd o waith caled, ers i fi adael coleg tan rŵan.

Ti'n gweithio trwy'r ranks dros y blynyddoedd ac mae pobl o Michelin yn dod i fwyta yn y llefydd yma ac yn cyfarfod head chefs.

Pan wnaethon ni ddechrau yn y Beach House, wnes i yrru e-bost iddyn nhw gyda fy CV. Os oes ganddyn nhw ddiddordeb maen nhw'n troi fyny, yn bwyta, yn talu a mynd. Dwyt ti ddim yn gwybod eu bod nhw wedi bod.

Y cwbwl ges i wedyn oedd e-bost yn holi fi fynd i ddigwyddiad yn Llundain o fewn rhai dyddiau. Cyhoeddwyd fy enw, casglais y wobr a dyna hynny!

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hywel yn un o'r cogyddion oedd yn cynrychioli Cymru yn The Great British Menu ar BBC2 yn ddiweddar

Oedd hi'n bwysig i ti gael cynrychioli Cymru, a defnyddio cynnyrch Cymreig yn y gyfres Great British Menu yn ddiweddar?

Roedd yn brofiad da ofnadwy medru dangos beth sy' gan Gymru i'w gynnig. Mae ganddon ni gymaint o fwydydd ffantastig fan hyn, nid dim ond cig oen, ond hefyd hwyaden, porc, pob mathau o bethau. Mae pethau mor dda yn tyfu'n lleol, mae'n grêt gallu mynd ar y teledu a dangos hyn.

Dwi ddim yn defnyddio'r cynnyrch am ei fod o'n lleol, dwi'n ei ddefnyddio fo am ei fod o'n ffantastig, a gan ei fod o'n lleol mae hynny'n ticio'r bocs hyd yn oed yn fwy.

Sut mae coronafeirws wedi effeithio ar y diwydiant?

Mae'n heriol iawn. Sgen i dal ddim dyddiad i weithio tuag ato [pryd fedrwn ni ail agor], fedrwn ni ddim cynllunio dim byd tan i ni gael y go ahead efo dyddiad.

Mae bob dim hollol ar stop, ac yn ddiweddar dwi 'di bod yn cadw'n brysur yn gwneud lot o DIY, yn helpu ffrind gyda'i gwmni cig a jyst trio llenwi'r amser. Rydyn ni'n aros i glywed beth fydd y camau nesaf.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ffilmio Y Sioe Fwyd yn y bwyty cyn y cyfnod clo

Heno ar S4C, mae cyfres o Y Sioe Fwyd yn cychwyn yn ôl - beth allwn ni ddisgwyl?

Dwi wrth fy modd efo'r gyfres. Dwi'n cael list be' mae'r gwesteion yn hoffi neu ddim yn hoffi, a mae'n sialens neis i wneud rhywbeth gwahanol. Y syniad ydy bod rhywun sy'n gwylio yn teimlo y gallan nhw rhoi tro ar hwnna, er bod elfen o luxury yn y bwyd, dydy o ddim yn rhy anodd. Weithiau mae rhai chefs yn gor-gymhlethu pethau, yn enwedig ar y teledu, felly mae'r rhan fwya' o bobl ddim yn gallu trio nhw.

Pa dips fydde gen ti i'r bobl sydd wedi dechre coginio neu arbrofi gyda bwyd adre yn ystod y locdown?

Paid â bod ofn trio. Does dim un chef yn cael pethau yn iawn y tro cyntaf. Os ti'n trio rhywbeth, ac yn 'neud smonach ohono, cofia beth wnest ti o'i le a trio eto. Dyna'r gyfrinach fwya'.

Os nad ydy rhywun erioed wedi coginio o'r blaen, cadw fo'n syml a dysgu'r basics yn iawn, er enghraifft sut mae cig yn newid pan ti'n ei goginio mewn gwahanol ffyrdd. Os ti'n deall y basics, wedyn dos amdani i arbrofi.

Steil fi ydy 'bwyd blasus ac onest', bwyd ffresh, bwyd da a lleol.

Hefyd o ddiddordeb: